Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant

Mae gwybodaeth a sgiliau’r gweithlu mewn perthynas ag iechyd cynhwysiant yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau teg. Yn y DU, mae’r pedair gweinyddiaeth ddatganoledig oll yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys Iechyd Cynhwysiant mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol gofal iechyd. Mae pob gwlad wedi cyhoeddi canllawiau i wella canlyniadau iechyd ar gyfer grwpiau sydd ar y cyrion. Fodd bynnag, nid yw astudiaethau diweddar wedi canfod tystiolaeth bod adrannau’r llywodraeth neu sefydliadau cenedlaethol yn amlinellu cynllun i sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ofalu am gymunedau agored i niwed. Yn ôl y dystiolaeth a gyhoeddwyd gan sefydliadau sy’n cyflogi staff sy’n gweithio gyda grwpiau agored i niwed, mae nifer o ymarferwyr gofal iechyd wedi cydnabod yr angen i gywain gwybodaeth a meithrin sgiliau i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau sy’n dod o gymunedau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol. 

Cyfeiriadur Addysg a Hyfforddiant ym maes Iechyd Cynhwysiant ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Dyluniwyd y cyfeiriadur hwn i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i nodi’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant i’w helpu i gyflawni’r sylfaen wybodaeth ar gyfer iechyd cynhwysiant ac anghydraddoldebau iechyd. Mae disgwyl i fframwaith gwybodaeth a sgiliau ar gyfer iechyd cynhwysiant i Gymru gael ei gyhoeddi.

Rhwydweithiau iechyd cynhwysiant Cymru

Fforwm Nyrsys Iechyd Cynhwysiant Cymru Gyfan:

Mae’r fforwm yn darparu fforwm addysg, hyfforddiant a thrafodaeth proffesiynol i nyrsys sy’n gweithio o fewn poblogaethau iechyd cynhwysiant neu gyda nhw.

Mae’r aelodaeth yn agored i unrhyw nyrs sy’n gweithio o fewn poblogaethau iechyd cynhwysiant neu gyda nhw. Mae’n bosibl y bydd y rhai nad ydynt yn aelodau yn cael eu gwahodd i’r grŵp i gyflwyno, arwain neu gymryd rhan mewn trafodaethau at ddibenion dysgu ar y cyd, addysg a hyfforddiant.

Mae’r fforwm yn cwrdd bob chwarter, ac mae’r cyfarfodydd yn parhau am awr oni bai bod amser ychwanegol wedi’i drefnu ymlaen llaw ar gais y grŵp.

Darperir cefnogaeth weinyddol ac ysgrifenyddol i’r fforwm gan Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Rhwydwaith Iechyd Cynhwysiant Iechyd Cyhoeddus:

Gan ganolbwyntio’n benodol ar boblogaethau cynhwysiant iechyd, mae’r rhwydwaith yn llwyfan proffesiynol ar gyfer aelodau timau iechyd cyhoeddus lleol a chenedlaethol i rannu arferion da, nodi blaenoriaethau, cyfleoedd a heriau cyffredin a, lle y bo’n briodol, gwneud argymhellion i ymwreiddio arferion da a dylanwadu ar bolisi. Mae Is-adran Gofal Sylfaenol Gofal Iechyd Cymru yn cadeirio ac yn cydgysylltu’r rhwydwaith. Mae’r aelodaeth yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y System Iechyd Cyhoeddus ar Anghydraddoldebau Iechyd ac iechyd cynhwysiant.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y rhwydweithiau uchod neu os hoffech ymuno fel aelodau, cysylltwch â’n tîm drwy e-bost.

Gweminarau

Mae gweminarau addysgol ac addysgiadol yn cael eu trefnu gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nod y gweminarau hyn yw:

  • Deall cysyniadau a diffiniad sylfaenol cynhwysiant iechyd, pwysigrwydd cynwysoldeb a pham mae’n bwysig
  • Dysgu am arferion presennol ac enghreifftiau o arferion da gan weithwyr proffesiynol iechyd sy’n arwain ar gynhwysiant iechyd.
  • Dysgu am ddull rhagweithiol o integreiddio arferion cynhwysol mewn gweithrediadau gofal iechyd bob dydd.

Recordiadau o weminarau a chyflwyniadau 

Rhwydweithiau Eraill

Rhestr o’r rhwydweithiau i staff sy’n gweithio gyda grwpiau iechyd cynhwysiant i rannu gwybodaeth a phrofiad 

Podlediadau 

Adnoddau dysgu Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Podlediadau i Gynyddu Gwybodaeth mewn Gofal Sylfaenol 

’Health Inequalities in General Practice’ gyda Dr John Patterson