Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau rhagnodi cymdeithasol

Disgrifiad o’r prosiect; pwy sy’n cymryd rhan; sut mae’n gweithio; cwmpas o ran maint a methodoleg.
Mae’r cyfleuster argymhelliad yn cael ei adolygu a ni fyddwn yn derbyn argymhellion prosiect newydd hyd nes y clywir yn wahanol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Rhwydweithiau Gofal Cymdogaeth Torfaen (NCN).  Ym mis Hydref 2015, datblygodd NCN Gogledd Torfaen brosiect peilot i brofi model presgripsiynu cymdeithasol mewn practisau cyffredinol.  Mae hwn yn Brosiect am gyfnod penodol sy’n cael ei ariannu gan NCN.  Mae gwybodaeth ar gael gan Emma Davies. (Saesneg yn unig) Prosiect Clwstwr Gogledd Torfaen  

Rhaglen Gwirio Iechyd Byw’n Hirach, Heneiddio’n Dda: Gwiriad iechyd risg cardiofasgwlaidd sy’n cael ei arwain gan weithwyr cymorth gofal iechyd, sy’n cyfeirio cyfranogwyr at wasanaethau ffordd o fyw yn y gymuned.  Mae hwn yn brosiect am gyfnod penodol sy’n targedu ardaloedd difreintiedig ac mae’n cael ei ariannu ar hyn o bryd hyd at fis Mawrth 2018.  Mae gwerthusiad yn mynd rhagddo; Mae gwybodaeth ar gael gan Sarah Aitken. (Saesneg yn unig)
Rhaglen Gwirio Iechyd Byw’n Hirach

Cysylltwyr Cymunedol; Mae Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio ar draws ardal gyfan Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen) ac maent yn ceisio cysylltu pobl i’w cymunedau a dod o hyd i weithgareddau a allai helpu i wella eu llesiant.  Mae’r prosiect yn brosiect peilot sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Gofal Canolraddol; Mae gwybodaeth ar gael gan: Sarah Barns. (Saesneg yn unig)
Cysylltwyr Cymunedol

Peilot Gwaith Cymdeithasol mewn Practisau yng Nghaerffili; Bwriad presennol y rhaglen yw cefnogi pobl er mwyn iddynt deimlo’n fwy hyderus a bod ganddynt reolaeth dros eu bywydau.  Cyfnod penodol; Wedi’i ariannu gan y clwstwr gofal sylfaenol; Gwerthusiad ar gyfer 2016/17 ar ddiwedd y flwyddyn; (Saesneg yn unig) Gwaith Cymdeithasol mewn Practisau

Dulliau Cydweithredol at Lesiant ac Atal; Wedi’u harwain gan Gyngor Sir Fynwy er mwyn datblygu timau llesiant mewn lleoliadau penodol i oresgyn seilos adrannol ac asiantaeth a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd eisoes ar gael yn y gymuned.  Datblygu seilwaith ac adnoddau i helpu pobl i ddod o hyd i’r asedau cywir i gadw’n iach.  Mae Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar gael gan nifer o ddarparwyr gwahanol, ar draws grwpiau cleient, gan gynnig gweithgareddau amrywiol (e.e. Cyfeirio at gymorth, cyngor ar ddyled, cael mynediad i fanciau bwyd).  Bydd y gwasanaethau wedi’u rhwydweithio’n dda a gallant gyfeirio dinasyddion at y math mwyaf priodol o gymorth.  Mae hyn yn ddull o weithio ar draws y system gyfan yn hytrach nac o fewn gwasanaeth penodol, ac mae yn ei gam datblygu cychwynnol.  Nid oes unrhyw werthusiad nac adroddiadau cynnydd ar gael ar hyn o bryd.  Mae gwybodaeth ar gael gan: Nicola Needle.

Ffrind i Mi; Menter newydd yw Ffrind i Mi, wedi’i hariannu drwy Gynllun Technoleg Iechyd Cymru a 1,000 o Fywydau, sy’n cael ei datblygu gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a’i bartneriaid i sicrhau bod pobl sy’n teimlo’n unig neu’n ynysig yn cael cymorth i ailgysylltu â’u cymunedau. Gan weithio gyda Chysylltwyr Cymunedol a gwasanaethau cyfeillio gwirfoddol, ein bwriad yw recriwtio cymaint o wirfoddolwyr â phosibl i gefnogi’r rhai sy’n unig ac/neu’n ynysig. Ein gobaith yw paru’r gwirfoddolwyr â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau e.e. garddio, gwylio chwaraeon a mynd â’r ci am dro. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Tanya Strange (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Uned Gofal Sylfaenol) (Saesneg yn unig)
Ffrind i Mi

Hwyluswyr Gofal Casnewydd.  Mae Hwyluswyr Gofal Age Cymru Gwent yn cefnogi pobl hŷn i lunio cynllun ‘cadw’n iach’ personol i’w galluogi i aros yn eu cartref yn hwy, a lleihau derbyniadau heb eu trefnu i ysbytai.  Hwyluswyr Gofal Casnewydd; Y Cynllun Cadw’n Iach. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â (Age Cymru Gwent) Tony Husein. (Saesneg yn unig) Hwyluswyr Gofal Casnewydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghlwstwr De Sir y Fflint; Mae 2 Bractis Meddyg Teulu yn Ne Sir y Fflint wedi profi dull o haenu risgiau cleifion yn ôl y risg o fynychu’r feddygfa yn rheolaidd, pan nad rheoli clinigol oedd eu hangen pennaf a/neu gallai dull mwy holistaidd fod yn fuddiol.  Cyfnod penodol; Cyllid clwstwr; Nid oes gwerthusiad ar gael ar hyn o bryd ond mae’n bosibl darparu astudiaethau achos : Chris Roberts. (Saesneg yn unig)  Presgripsiynu Cymdeithasol Nghlwstwr De Sir y Fflint

Prosiect Hwyluswr Cymunedol Arfon; Gwynedd (Ardal Orllewinol); Swyddog cyswllt cymunedol yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gleifion sy’n cael eu cyfeirio gan feddygfeydd meddygon teulu / Gofal Sylfaenol / nyrsys cymunedol ac yn y blaen, sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol i amrediad o wasanaethau anghlinigol lleol.  Dechreuodd Prosiect Hwyluswr Cymunedol Arfon ar 11 Awst 2016, mae’n cael ei ariannu gan y Gronfa Gofal Canolraddol, a bydd yn weithredol hyd at 2017; Mae gwerthusiad wedi dechrau ac mae’n parhau drwy adroddiadau diweddaru; Mae gwybodaeth ar gael gan: Sioned Larsen. (Saesneg yn unig) Cynllun Rhagnodi Cymdeithasol Arfon

Presgripsiynu Cymdeithasol Ynys Môn; Sefydlwyd y gwasanaethau yn ystod 2016-17 i ddarparu cymorth a gwasanaeth cyfeirio at grwpiau cymorth cymunedol amrywiol a gweithgareddau i wella iechyd a llesiant unigolion, yn ogystal â gwybodaeth am gymorth ymarferol.  Gwneir atgyfeiriadau drwy Linc Cymunedol Môn / SPoA. Cyllid Clwstwr Cyfnod Penodol. Gwnaed cais am werthusiad / adroddiadau ond nid ydym wedi derbyn rhai hyd yma; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Sian@medrwnmon.org Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yng Ngorllewin Gwynedd ac Ynys Môn; (Saesneg yn unig) Presgripsiynu Cymdeithasol Ynys Môn

Seibiannau Byr Ynys Môn; Seibiannau byr ar gyfer plant anabl ag anghenion Cymhleth a / neu anabledd dysgu; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Sian@medrwnmon.org (Saesneg yn unig) Seibiannau Byr Ynys Môn

Men's Sheds Ynys Môn; Aelodau’r sied sy’n penderfynu ar y mathau o weithgareddau i’w gwneud; Gwerthusiad / Adroddiad; Bydd holiaduron dechrau a gadael yn cael eu cwblhau er mwyn asesu effaith y gwasanaeth ar lesiant.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Sian@medrwnmon.org (Saesneg yn unig) Men's Sheds Ynys Môn

Llywiwr Cymunedol Gorllewin Conwy; Mae Gofal Sylfaenol yn defnyddio adnoddau megis Dewis - gwefan hygyrch a chyfoes sy’n cynnig amrediad o adnoddau i gleifion er mwyn cefnogi eu llesiant.  Gall cleifion gymryd rheolaeth dros eu hiechyd eu hunain a gallant gael cyngor a chymorth.  Cyfnod penodol; Cyllid clwstwr, gwerthusiad parhaus; Mae gwybodaeth ar gael gan: Sharon Walter
(Saesneg yn unig) Llywiwr Cymunedol Gorllewin Conwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Caerdydd a’r Fro (Dinas a De Caerdydd)

Mae Sefydliad Iechyd Somaliland yn sefydliad iechyd Dielw sy’n ceisio gwella a chefnogi pobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl; Statws y Prosiect; wedi’i leoli yn Uned Fenter 3, Sgwâr Loudoun, nid oes gwybodaeth ar gael o ran cyllid nac adroddiad / gwerthusiad.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: info@somalilandmentalhealth.com (Saesneg yn unig) Iechyd meddwl Somaliland

Mae Helpful Peeps yn rhwydwaith cymdeithasol newydd sy’n deillio o’r gred gyffredinol fod bywyd yn well pan fyddwn yn helpu ein gilydd; ac mae’n dod i Gaerdydd.  Wedi’i sefydlu gan Saf Nazeer a Simon Hill, mae Helpful Peeps yn ceisio ailgyflwyno ysbryd cymunedol mewn byd sy’n fwyfwy digyswllt.  Statws y Prosiect; Anweithredol ar hyn o bryd, wedi’i gynllunio ond dim dyddiad dechrau cyhoeddedig.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan hello@helpfulpeeps.com

Caffis Dementia; Maent yn darparu gwybodaeth i ofalwyr pobl â Dementia, gan ddarparu gwybodaeth i bobl sy’n poeni am golli cof.  Statws y Prosiect; Wedi’i leoli yn Wyndham Street Diner ac yn cael ei ariannu drwy’r Gymdeithas Alzheimer.  Nid oes unrhyw fanylion ar gael am adroddiadau neu werthusiad; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Anne Mears Rees neu Catherine Morgan Gofal Dementia Dinas a De Caerdydd; (Saesneg yn unig) Caffi Cyfeillgar i Ddementia

Caerdydd a’r Fro (Dwyrain Caerdydd)

Cynllun presgripsiynu cymdeithasol; Wedi’i leoli yn Nwyrain Caerdydd, yn Llanedeyrn a Phentwyn ac sy’n cael ei ddarparu drwy Cymunedau yn Gyntaf.  Maent yn cwblhau ffurflen presgripsiynu cymdeithasol gyda chleifion y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cysylltu â hwy i drafod eu hanghenion a gweithgareddau priodol e.e. mentrau gweithgarwch corfforol.  Statws y Prosiect; cyllid clwstwr gyda chyllid gan y Gronfa Cymunedau yn Gyntaf ac oherwydd hyn mae oes y prosiect wedi’i gysylltu â dyfodol Cymunedau yn Gyntaf.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Anna.R@c3sc.org.uk  (Saesneg yn unig) Cynllun presgripsiynu cymdeithasol

Gwasanaeth Byw’n Annibynnol (Cyngor Caerdydd); Dangosodd cyflwyniad diweddar gan Gyngor Caerdydd gyfleoedd i feddygon teulu atgyfeirio cleifion i wasanaeth un cam ar gyfer pobl hŷn yn bennaf, ond nid yn unig pobl hŷn.  Mae’r gwasanaethau sydd ar gael i gyflawni anghenion unigol yn cynnwys hebrwng i weithgareddau er mwyn goresgyn ynysu cymdeithasol a chymhorthion atal cwympiadau; Statws y Prosiect; Wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Caerdydd heb unrhyw adroddiadau neu werthusiad ffurfiol hyd yma.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan, Carolyne Palmer, Rheolwr Datblygu a Strategaeth y Gwasanaeth

Caerdydd a’r Fro (Gogledd Caerdydd)

Gwasanaethau Byw’n Annibynnol; Treialu gwasanaeth mewn practis meddyg teulu – mae swyddog ymweld yn rhoi cyngor yn y practis ar amrediad o faterion er mwyn helpu pobl i barhau i fyw adref.  Statws y Prosiect; Wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Caerdydd; Cyllid parhaol ar gyfer Gwasanaethau Byw’n Annibynnol ond mae cysyniad newydd yn cael ei dreialu. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Carolyn Palmer, Rheolwr Datblygu a Strategaeth y Gwasanaeth Gwasanaeth Byw’n Annibynnol Gogledd Caerdydd (Saesneg yn unig) Gwasanaethau Byw’n Annibynnol

Caerdydd a’r Fro (Caerdydd)

Y Bartneriaeth Iach a Gweithgar: Mae’r prosiect hwn yn ceisio targedu gwasanaethau sy’n ceisio atal mynediad diangen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol neu i atal neu oedi cynnydd mewn ymyriadau pecynnau gofal presennol.  Statws y Prosiect; Parhaus; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Mathew Coffin Partneriaeth Iach a Gweithgar Cyswllt Oedran Caerdydd a’r Fro. (Saesneg yn unig) Y Bartneriaeth Iach a Gweithgar

Caerdydd a’r Fro (De-ddwyrain Caerdydd)

Fferyllydd clwstwr ac arweinydd Cymunedau’n Gyntaf. Ymweliadau a phecyn gwybodaeth ar weithgareddau Cymunedau yn Gyntaf i fferyllwyr cymunedol.  Statws y Prosiect; wedi’i ariannu drwy beilot Cymunedau yn Gyntaf yng Nghlwstwr y De-ddwyrain; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan; Su Wade Fferyllydd Clwstwr De-ddwyrain Cymru. (Saesneg yn unig) Fferyllydd clwstwr ac arweinydd Cymunedau’n Gyntaf

Credydau Amser: Prosiect peilot sy’n cynorthwyo practisau i ddefnyddio Credydau Amser ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  Statws y Prosiect; wedi’i ariannu drwy ffynonellau amrywiol wrth ei sefydlu ond y bwriad yw y bydd yn cynnal ei hun oherwydd y bydd y cyfranogwyr yn talu’n breifat; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Gemma Hicks; Lorna Collisson; Joe Redmond; Lucy Melody Credydau Amser De-ddwyrain Cymru (Saesneg yn unig) Credydau Amser

Caerdydd a’r Fro (Canol y Fro)

Hyfforddwyr Llesiant Cymunedol; Ar gyfer teuluoedd / plant sydd eisiau gwella eu llesiant, bod yn fwy gweithgar ac iach.  Statws y Prosiect; wedi’i ariannu drwy Cymunedau yn Gyntaf ac yn gweithredu yng Nghanol y Fro heb unrhyw adroddiadau neu werthusiadau ffurfiol hyd yma; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan codavies@valeofglamorgan.gov.uk Hyfforddwyr Llesiant Canol y Fro (Saesneg yn unig) Hyfforddwyr Llesiant Cymunedol

Age Connects: Nod Rhaglen Heneiddio’n Dda y Fro a’r Siop Iechyd i Bobl Hŷn ( SHS ) yw gwella iechyd a llesiant pobl hŷn ym Mro Morgannwg.  Statws y Prosiect; Parhaus; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Mathew Coffin  Age Connect Caerdydd a’r Fro (Saesneg yn unig) Age Connects Siop Iechyd Hŷn

Caerdydd a’r Fro (De-orllewin Caerdydd)

Gwasanaeth ACE; "Presgripsiwn ACE". Mae’r taflenni hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau ACE.  Gall meddygon teulu roi tic ar gyfer y gwasanaethau priodol a’u rhoi i gleifion sy’n gallu cael mynediad uniongyrchol iddynt.  Statws y Prosiect; wedi’i ariannu drwy Cymunedau yn Gyntaf ardal Glwstwr Trelái / Caerau; Mae gwybodaeth ar gael gan: Hazel Cryer Cydlynydd Iechyd a Llesiant info@elycaerau.com (Saesneg yn unig) Gwasanaeth ACE; "Presgripsiwn ACE

Mae Cydlynwyr Wellbeing 4 U yn gweithio ym meddygfeydd Caerau Lane a Lansdowne un diwrnod yr wythnos.  Statws y Prosiect; Prosiect cyfnod penodol sy’n gweithredu ar draws y Clwstwr ond ni nodwyd ffynhonnell gyllid ar ei gyfer; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Karen Tipple Cydlynwyr Wellbeing 4 U De-orllewin Caerdydd ar Fro (Saesneg yn unig) Rhaglen Cydlynydd Cydlynwyr Lles 4 U.

BRG, Cymunedau yn Gyntaf; "Presgripsiwn BRG". Mae’r taflenni hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau BRG.  Gall meddygon teulu roi tic wrth y gwasanaethau priodol a’u rhoi i gleifion a all gael mynediad uniongyrchol iddynt.  Statws y Prosiect; Gweithredu yn ardal Glan yr Afon ond mae’n ei ariannu drwy Cymunedau yn Gyntaf sy’n gweithredu yng Nghlwstwr y De-ddwyrain; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Tony Hendrickson  Presgripsiwn BRG De-orllewin Caerdydd (Saesneg yn unig) Cymunedau yn Gyntaf; "Presgripsiwn BRG"

Rhaglen Ymarfer Corff Cymunedol Grow Cardiff; Wedi’i sefydlu mewn gerddi cymunedol er mwyn hybu iechyd a llesiant pobl agored i niwed a phobl ynysig.  Cyfeirir cleifion gan feddygon teulu.  Statws y Prosiect; Nid oes unrhyw fanylion o ran cyllido, adroddiadau na gwerthusiad; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan from@growcardiff Grow De-orllewin Caerdydd (Saesneg yn unig)
Cymunedol Grow Cardiff

Gwasanaeth Gweithredu a Chyngor Llesiant.  ACE; Cynllun peilot credydau amser.  Gall meddygon teulu gyfeirio cleifion sydd angen cymorth i newid eu hymddygiad neu sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol.  Cyfeirir cleifion at wasanaethau ACE ac maent yn derbyn credydau amser.  Statws y Prosiect; Prosiect peilot yn ardal glwstwr Trelái a Chaerau ond nid oes manylion am y cyllid, adroddiadau na gwerthusiad.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Hazel Cryer, Cydlynydd Iechyd a Llesiant info@elycaerau.com

Caffis Dementia; Maent yn darparu gwybodaeth i ofalwyr pobl â Dementia, gan ddarparu gwybodaeth i bobl sy’n poeni am golli cof.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Catherine Morgan Gofal Dementia De-orllewin Caerdydd (Saesneg yn unig) Caffis Dementia

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ariennir Cydlynwyr Cymunedol Cwm Taf gan y Gronfa Gofal Integredig a chânt eu lletya gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol, Interlink a VAMT.  Mae'r tîm yn cynnwys 5 Cydlynydd sy'n gweithio gyda phobl hŷn (50+) ar draws Cwm Taf i'w cysylltu â gwasanaethau, gweithgareddau a grwpiau yn eu cymuned, gan atal unigrwydd ac unigedd. Maent yn darparu gwybodaeth, cyngor ac yn cyfeirio neu'n atgyfeirio pobl hŷn at ffynonellau cymorth anfeddygol yn y gymuned, a gallai'r rhain gynnwys cyfleoedd ar gyfer y celfyddydau a chreadigrwydd, gweithgaredd corfforol, dysgu sgiliau newydd, gwirfoddoli, cyfeillio a hunangymorth, yn ogystal â chymorth gyda chyflogaeth, budd-daliadau, tai, dyledion a chyngor cyfreithiol.  Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm a dydd Gwener o 9am i 4.30pm.  Gellir atgyfeirio pobl at y gwasanaeth drwy gysylltu ag un o'r tîm drwy'r manylion a roddir ar eu taflen - cliciwch yma. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag: Anne Morris: 01443 846203 neu Sharon Richards: 01685 353932

Swyddogion Cefnogi Meddygon Teulu (GPSO); mae’r prosiect hwn yn treialu’r defnydd o staff Gofal Cymdeithasol hyfforddedig sy’n gweithio mewn practisau, sy’n integreiddio gyda thimau amlddisgyblaeth cymunedol (MDT).  Mae’r prosiect hwn yn cynnwys cydweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ac mae’n cael ei ariannu gan Glwstwr Merthyr Tudful.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan sonia.lloyd-williams  Practis Cyffredinol Merthyr Cwm Taf (Saesneg yn unig) Swyddogion Cefnogi Meddygon Teulu (GPSO)

Hyrwyddwyr Ffordd o Fyw Practisau; Mae’r Clystyrau yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd y Cyhoedd lle bydd Hyrwyddwyr mewnol yn cael eu hyfforddi ar gyfer rôl eiriolwr cleifion a chysylltu ag asiantaethau yn y trydydd sector a phartneriaid statudol.  Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli yng nghwm Cynon ac mae’n cael ei werthuso.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Rebecca Stewart Hyrwyddwyr Ffordd o Fyw Practisau (Saesneg yn unig) Hyrwyddwyr Ffordd o Fyw Practisau

Rhwydwaith Hyrwyddwyr Gofalwyr; Cynhaliwyd digwyddiad dementia ar gyfer y trydydd sector / gofalwyr / gofal sylfaenol yn 2016 i hwyluso datblygiad map adnoddau dementia lleol.  Y bwriad yw datblygu offer presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer 2017/18.  Statws y Prosiect; Mae hwn yn brosiect yng nghwm Cynon ac nid oes gwybodaeth benodol o ran cyllido, adroddiadau neu werthuso.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Rhian Webber (Saesneg yn unig) Rhwydwaith Hyrwyddwyr Gofalwyr

Gofal a Thrwsio; Prosiect Rheoli’n Well; Mae practis a enwebir yn profi / treialu dull o ymgysylltu cleifion anhygyrch â gwasanaeth sy’n darparu amrediad o ymyriadau ymarferol e.e. cyngor ar fudd-daliadau, gwiriadau diogelwch yn y cartref, asesiadau cwympiadau.  Statws y Prosiect; Mae hwn yn brosiect yng nghwm Cynon.  Sicrhawyd cyllid drwy’r cynllun “Cartref cynnes drwy bresgripsiwn” a Gofal a Thrwsio.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Tess Raybould Gofal a Thrwsio Cwm Taf (Saesneg yn unig) Gofal a Thrwsio

Cydlynydd Llesiant Meddygon Teulu'r Rhondda; Lucy Foster yw Cydlynydd Llesiant Meddygon Teulu ar gyfer ardal y Rhondda ac mae’n gweithio yn y 12 meddygfa ar draws Cymoedd y Rhondda.  Mae Lucy yn cefnogi unigolion a atgyfeiriwyd (18+) i fynd i'r afael â materion anfeddygol drwy nodi eu diddordebau a'u cynorthwyo i gael mynediad i weithgareddau, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol. Mae'r rôl hon yn rhoi pwyslais sylweddol ar gefnogi unigolion a chyfateb eu diddordebau â'r hyn sydd ar gael yn eu cymuned er mwyn helpu i fynd i'r afael â dyledion, tai gwael, salwch meddwl ac unigedd cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lucy Foster: 07340 708385 Anne Morris 01443 846203

Cydlynydd Llesiant Cymunedol; Mae mwy na 56 o grwpiau cymdeithasol yn y Rhondda sy’n darparu cymorth.  Bydd y Cydlynydd yn ceisio paru cleifion â gwasanaeth a allai ddarparu’r ateb cywir i’w hanghenion unigol hwy.  Statws y Prosiect; Mae hwn yn brosiect yn y Rhondda.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Tess Raybould Cydlynydd Llesiant Cymunedol (Saesneg yn unig)
Cydlynydd Llesiant Cymunedol

Valleys Steps; Nod rhaglen rad ac am ddim ac arloesol Valleys Steps yw helpu pobl i reoli a lleihau straen, lefelau gorbryder ac iselder. Mae’r sefydliad, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn cynnal cyrsiau am ddim i fynd i’r afael â rheoli straen a datblygu sgiliau’n ymwneud ag ymwybyddiaeth ofalgar. Cynlluniwyd y cyrsiau i gefnogi pobl ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i ddeall mwy amdanynt eu hunain a dysgu am ffyrdd i hybu llesiant. Datblygiadau’r Gwasanaethau yn y Dyfodol; Yn ogystal â pharhad y cyrsiau craidd, bydd Valleys Steps yn cynnig sesiynau gwybodaeth yn y gymuned ac yn ehangu ei adnoddau ar-lein. Bydd Valleys Steps yn parhau i ddatblygu’r grŵp gwirfoddoli, gan gynnwys dechrau Fforwm Gwirfoddoli ac ystafell sgwrsio ar-lein i gefnogi cyfathrebu a rhannu syniadau. Rhywbryd ar ôl mis Ionawr 2018, bydd Valleys Steps yn cynnal digwyddiad i recriwtio gwirfoddolwyr. Wrth edrych i’r dyfodol, anelwn at ychwanegu sesiynau sy’n targedu anghenion mwy penodol, adnodd Menter Gymdeithasol i grwpiau galwedigaethol, ac rydym yn ystyried gwasanaeth i bobl yn eu harddegau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar Wefan Valleys Steps; www.valleyssteps.org  Neu; info@valleyssteps 01443 803048; Facebook: Valleys Steps  Twitter: @valleyssteps Prif Gyswllt; Felicity Crump

Prosiect Gweithiwr Cyswllt, Rhaglen Ymarfer Cymunedol neu Golli Pwysau etc. Valley Organic Adventures Cwm Taf Cwm Cynon. Prosiect gardd gymunedol-therapi natur, dosbarthiadau myfyrdod, gwirfoddoli, rhaglen mentora iechyd a lles, grwpiau hunangymorth.  Arweinydd y Prosiect; Janis Werrett Cynon Valley Organic Adventures

Hapi Cwm Taf (iach, uchelgeisiol, ffyniannus a chynhwysol) Prosiect anghlinigol yn y gymuned ar gyfer Rhondda Cynon Taf er mwyn gwella iechyd a llesiant cyffredinol. Arweinydd y Prosiect: Lisa Voyle.  Gwybodaeth ychwanegol ar gael ar Wefan Hapi (Saesneg yn unig) HAPI

Cymru Gynnes - Cartrefi Iach, Pobl Iach - Mae Cartrefi Iach, Poble Iach yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar y person o fynd i'r afael ag angen gyda'r nod o wella iechyd a lles drwy greu cartref sy'n gynnes ac yn ddiogel i bawb.  Mae gweithwyr cymunedol yn ymweld ag aelwydydd yn eu cartrefi eu hunain,  gan ddarparu cyngor a chymorth wyneb yn wyneb am ddim.  Swyddog y Prosiect, Leigh Forman.  Trosolwg o'r Prosiect cartrefi Iach, Pobl Iach. (Saesneg yn unig) Cymru Gynnes - Cartrefi Iach, Pobl Iach

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Tyfu’r Dyfodol yn gynllun pum mlynedd i hyrwyddo garddwriaeth yng Nghymru, planhigion i beillwyr, diogelu bywyd gwyllt a manteision tyfu planhigion ar gyfer bwyd, hwyl, iechyd a llesiant. Bydd gwerthusiad terfynol tuag at ddiwedd y prosiect, ac mae adroddiad Gwerthusiad Canol Tymor y Prosiect wedi’i gwblhau ac ar gael ar ein gwefan  - https://garddfotaneg.cymru/science/growing-the-future/interim-project-evaluation/

Cynghorwyr Byw’n Iach; Rôl Cynghorydd Byw’n Iach yw rheoli baich achos o gleientiaid sydd angen cymorth i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw a fydd yn gwella eu hiechyd.  Prosiect yn ne Sir Benfro yw hwn ar draws pum practis sy’n canolbwyntio ar Arberth.  Cyllid clwstwr yn ogystal â grant gan PHW hyd at fis Mawrth 2018.  Cyflwynir adroddiadau i’r clwstwr bob 3 mis ac mae gwerthusiad newydd ddechrau o’r prosiect; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: lucie-jane.whelan Cynghorydd Byw’n Iach (Saesneg yn unig) Cynghorwyr Byw’n Iach

Eiriolwyr Byw’n Iach; Bwriad y prosiect Eiriolwyr Byw’n Iach: Hybu Iechyd mewn Practisau yw ymgorffori ffordd o fyw iach ac ethos ac arfer hybu iechyd mewn clystyrau gofal sylfaenol.  Prosiect yn ne Sir Benfro yw hwn ac mae’n cael ei werthuso yn awr.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: lucie-jane.whelan Eiriolwyr Byw’n Iach (Saesneg yn unig) Eiriolwyr Byw’n Iach

Technegydd Cyffredinol; Mae Clwstwr 2T wedi cyflogi Technegydd Galwedigaethol / Ffisiotherapi Cyffredinol o fewn y Tîm Adsefydlu Cymunedol, mae’n mynychu cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaeth y practis ac mae’n derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu er mwyn cynnal asesiadau lefel isel, gan gynnwys atgyfeiriadau cymdeithasol.  Mae hwn yn brosiect Clwstwr 2T drwy eu Tîm Adnoddau Cymunedol sydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd, a ddaw i ben ym mis Tachwedd 2017.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Victoria Edwards (Saesneg yn  unig) Technegydd Cyffredinol 2Ts

Rhagnodydd Cymdeithasol / Gweithiwr Cydnerthu a fydd yn cysylltu â’r gwasanaeth newydd y mae’r clwstwr yn gobeithio ei gyflwyno ar gyfer Dementia.  Mae Spice Time Credit yn gweithio gyda Chlwstwr Meddygon Teulu Llanelli ar raglen arloesol presgripsiynu cymdeithasol Credydau Amser; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan laura.smith4:wales.nhs.uk (Datblygwyd Credydau Amser gan SPICE fel system sy’n gweithio ar sail awr am awr syml; Mae Prosiect SPICE a Chredydau Amser yn Llanelli yn ei bumed wythnosol weithredol yn awr). Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: owain williams Rhagnodydd Cymdeithasol (Saesneg yn unig) Rhagnodydd Cymdeithasol / Gweithiwr Cydnerthu

Cysylltwyr Cymunedol; Yn gweithio gyda’r Awdurdod Lleol a’r Sector Gwirfoddol, mae’r prosiect hwn yn Sir Benfro yn ariannu tîm o bedwar Cysylltydd sy’n gweithio mewn lleoliadau daearyddol ar draws y Sir ac sy’n cael eu hariannu gan LEADER, Cyngor Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Llywodraeth Cymru (cyllid ICF) a Volunteering Matters.  Mae gwybodaeth ar gael gan: Michelle Coperman ar gyfer PAVS; I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag enquiries@pavs.org.uk Cysylltwyr Cymunedol (Saesneg yn unig) Cysylltwyr Cymunedol

Ar draws Clystyrau; COPD+:  Cytunodd y clwstwr i gefnogi COPD+ drwy gyllid llithriant 2015/16 ar gyfer 2015/16.  Mae prosiect ymarfer corff EPP plus yn ceisio cyfuno’r dosbarth addysg EPP gyda dosbarth ymarfer corff ar gyfer cleifion COPD â MRC <3, cyn iddynt gael eu cyfyngu gan ddiffyg anadl.  Ei nod yw cynyddu eu gallu unigol i wneud ymarfer corff.  Statws y Prosiect; prosiect yn Ne Sir Benfro.  Wedi’i ariannu gan daliad “unigol” gan y clwstwr.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan; lucie jane.whelan COPD + (Saesneg yn unig) COPD+

Mae prosiect The Extra Project yn cysylltu â gordewdra a bydd yn cael ei gynnig i blant sy’n mynychu Ysgol Penfro.  Mae’n fenter newydd a gynlluniwyd i annog plant yn eu harddegau i fod yn egnïol a bydd yn rhaglen beilot 12 mis a gynhelir yng Nghanolfan Hamdden Penfro gyda’r dyddiad cwblhau ar 1af Ionawr 2017.  Wedi’i ariannu drwy’r Clwstwr a Chyngor Sir Benfro.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan; lucie jane.whelan The Extra Project

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff; Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn fenter Llywodraeth Cymru i hybu gweithgarwch corfforol i bobl sy’n anweithgar yn awr neu sydd â chyflyrau meddygol penodol.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Rachel Pompa Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (Saesneg yn unig) Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cydlynwyr Iechyd a Llesiant; Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yn gweithio yn awr i leoli Cydlynwyr Iechyd a Llesiant mewn cymunedau ar hyd a lled Powys.  Eu rôl fydd canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am sefydliadau’r trydydd sector a gweithio gyda Wardiau Rhithwir a Thimau Amlddisgyblaeth yn y cymunedau hefyd.  Mae’r cynllun yn cael ei dreialu ar draws Powys, ond gyda phwyslais penodol ar Glwstwr y Gogledd-ddwyrain; Mae gwybodaeth ar gael gan: Cherri Douglas; Cydlynydd Presgripsiynu Cymdeithasol Powys (Saesneg yn unig) Cydlynydd Presgripsiynu Cymdeithasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar Gofal Sylfaenol Penderi Penodwyd gweithiwr cyswllt sy’n gweithio ar draws y Practisau yn y Rhwydwaith, gan ganolbwyntio ar Sgiliau Magu Plant a nodi ymyriadau ar gyfer plant ifanc.  Nid oes manylion ar gael am gyllid na gwerthusiad; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Debra.Morgan8@wales.nhs.uk Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar Gofal Sylfaenol Penderi (Saesneg yn unig)

Mae’r prosiect Down To Earth - ‘Building Our Future’ yn defnyddio dull ymarferol ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant, magu hyder a chynyddu gweithgarwch corfforol.  Mae’r prosiect yn ceisio ymgysylltu pobl mewn gwaith adeiladu gyda deunyddiau naturiol ar safle adeiladu go iawn.  Statws y Prosiect: Nid oes manylion ar gael am gyllid na gwerthusiad;  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Debra.Morgan8@wales.nhs.uk  Y Prosiect Down to Earth (Saesneg yn unig)

Bydd Cyngor ar Bopeth yn darparu cyfleoedd galw heibio mewn practisau ar draws y Rhwydwaith lle bydd gwybodaeth a chanllawiau ar gael ar amrediad eang o faterion a phryderon sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaeth yn rhwydwaith Penderi yn Abertawe, sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan y rhwydwaith.  Mae’r gwasanaeth hefyd yn cwmpasu rhwydwaith Llwchwr yn Abertawe, sy’n cael ei ariannu gan ABMU drwy’r grant Newid er Gwell, sy’n cael ei weinyddu gan CVS.  Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cwmpasu clwstwr Cwm Afan yn ardal Castell-nedd Port Talbot, ac mae’n cael ei ariannu’n uniongyrchol gan ABMU.  Derbynnir arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflenwi gwasanaethau yn y ddwy ardal awdurdod lleol mewn hyd at 4 canolfan iechyd.  Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Jackie Preston; ewch i http://www.swanseaneathporttalbotcab.org.uk/

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Abertawe yn cyflwyno Desgiau Cymorth Gofalwyr ar draws y Rhwydwaith mewn practisau unigol.  Bydd hyn yn galluogi i Ofalwyr dderbyn gwybodaeth, canllawiau, cyngor a chymorth perthnasol; Statws y Prosiect: Nid oes manylion ar gael am gyllid na gwerthusiad; Mae gwybodaeth bellach ar gael gan: Gwasanaeth Gofalwyr Abertawe (Saesneg yn unig) Gwasanaeth Gofalwyr Abertawe

Infoengin -yw'r cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau sy'n cwmpasu Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.  Y nod yw amlygu'r gwasanaethau gwych ac amrywiol sydd ar gael i chi yn eich cymuned a rhoi'r holl wybodaeth berthnasol i chi ynghylch pob gwasanaeth fel y gallwch wneud dewis ar sail gwybodaeth.  Mae pob sefydliad a grŵp yn gyfrifol am eu gwybodaeth ar infoengine - darllenwch ein Telerau ac Amodau neu ein hadran Adrodd am Bryderon.  Mae infoengine yn cael ei ddarparu gan y partneriaid a ganlyn:

PAVO - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys

CAVO - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion

CAVS - Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr

PAVS - Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
Cyngor Sir Powys

SCVS - Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe.  Mae'n cynnwys gwybodaeth am ardal Abertawe a ddarperir drwy gymorth ariannol gan Fae'r Gorllewin.

BAVO - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ardal Pen-y-bont ar Ogwr a ddarperir drwy gymorth ariannol gan Fae'r Gorllewin.

NPTCVS - Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot.  Mae'n cynnwys gwybodaeth am ardal Castell-nedd Port Talbot a ddarperir drwy gymorth ariannol gan Fae'r Gorllewin.

AVOW - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam

Mae infoengin yn cael ei reoli o ddydd i ddydd gan dîm o swyddogion ym mhob un o'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol.  Ceir Bwrdd Rheoli Prosiect hefyd sy'n cynnwys y partneriaid statudol allweddol.

Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) Clwstwr Cwmtawe BIP ABM yn gweithio mewn partneriaeth â Phractisau Meddygon Teulu o fewn Clwstwr Cwmtawe i ddarparu Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol Cwmtawe  – ‘New Ways to Wellbeing’. Arweinydd y Prosiect; Cindy Hayward (Saesneg yn unig) Gwasanaeth Rhagnodi Cymdeithasol

Biophilic Cymru; Mae cadwraeth ymarferol a hywyddo bywyd gwyllt ar safleoedd byrddau Iechyd yn ganolbwynt i bopeth a wnawn.  Mae angen gwirfoddolwyr arnom i'n helpu i greu bioamrywiaeth a Seilwaith Gwyrdd o amgylch ysbytai a chlinigau / canolfannau iechyd yn Abertawe a Chestell-nedd Port Talbot.  Cynhelir sesiwn wirfoddoli wythnosol a bydd y tasgau'n amrywio o docio prysgwydd a phlannu coed i wneud blychau plannu a chynnal arolygon o fywyd gwyllt.  Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol. Swyddog y Prosiect, Kathryn Thomas. (Saesneg yn unig) Biophilic Wales

National

Corau Canwch Gyda Ni Gofal Canser Tenovus

ACTivate Your Life – Affected By Cancer

Canu i Iechyd yr Ysgyfaint

Cymru Gynnes - Cartrefi Iach, Pobl Iach