Neidio i'r prif gynnwy

Model Gofal Sylfaenol i Gymru

Beth yw’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru?

Model ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol yw’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG), a ddatblygwyd fel dull system gyfan o ddarparu gofal iechyd a llesiant lleol sy’n gynaliadwy a hygyrch. Drwy ganolbwyntio ar ofal sy’n seiliedig ar leoedd, gofal yn nes at y cartref a gwaith amlbroffesiynol, mae’n disgrifio sut y caiff gofal ei ddarparu’n lleol, nawr ac yn y dyfodol, fel rhan o ddull system gyfan o gyflawni Cymru Iachach.

Clystyrau sydd wrth wraidd y model hwn, ac o gofio’r prif egwyddorion sy’n sail i ‘Cymru Iachach’ gellir eu disgrifio fel a ganlyn:

“Mae clwstwr yn dod â’r holl wasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal ynghyd mewn ardal ddaearyddol, sydd fel arfer yn gwasanaethu poblogaeth rhwng 25,000 a 100,000. Mae gweithio fel clwstwr yn sicrhau bod gofal yn cael ei gydlynu’n well i hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau.”

Mae’r 60 o glystyrau yng Nghymru yn amlbroffesiynol, gyda chynrychiolaeth o weithwyr proffesiynol yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, sy’n cydweithio i nodi asedau, anghenion a blaenoriaethau’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau di-dor, sy’n canolbwyntio ar atal a bodloni anghenion y gymuned leol.

Datblygu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru

Mae’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) wedi esblygu ac mae nifer o gyhoeddiadau a meysydd gwaith wedi dylanwadu arno yn ystod y cyfnod rhwng 2015 a 2018. Ychwanegodd pob un o’r rhain at gyfeiriad a chwmpas y newidiadau mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru.

Trawsnewidiwyd y MGSiG fel model ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol, a ddatblygwyd fel dull system gyfan o ddarparu gofal iechyd a llesiant lleol sy’n gynaliadwy a hygyrch. Diweddarwyd y cynnwys yn 2019 ac yn 2021 datblygwyd y matrics aeddfedrwydd i gefnogi’r broses o gyflawni’r 13 o ganlyniadau gyda disgrifyddion aeddfedrwydd i gyd-fynd â nhw.

Er mwyn cryfhau cynnydd y clystyrau tuag at y MGSiG, datblygodd y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (RhSGS) y rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC). Mae DCC yn ymwneud yn bennaf â sicrhau llwybr clir o’r gwasanaethau iechyd a gofal rheng flaen lleol i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) o ran deall anghenion y boblogaeth leol a gallu trosi gwybodaeth o’r fath yn flaenoriaethau strategol ystyrlon ar lefel y BPRh / Sir a lefel Clwstwr.

Canlyniadau’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru

Mae gan y Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) 13 o ganlyniadau sy’n disgrifio’r meysydd allweddol sydd angen eu sefydlu i ddarparu gofal di-dor, yn seiliedig ar leoedd sy’n canolbwyntio ar waith atal. Mae 3 lefel aeddfedrwydd i’r canlyniadau (Sylfaenol, Datblygol ac Aeddfed). Wrth i waith clwstwr esblygu, bydd y system yn symud tuag at y lefel aeddfed.

Mae’r rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC) yn canolbwyntio ar ddarparu gofal yn seiliedig ar leoedd drwy Gydweithfeydd Proffesiynol a Chlystyrau. Mae saith canlyniad yn gysylltiedig â DCC sy’n disgrifio’r ffyrdd o weithio i gefnogi’r broses o wneud cynnydd tuag at y MGSiG. Cafodd canlyniadau’r rhaglen DCC eu mabwysiadu a’u cynnwys fel rhan o gynllun monitro a gwerthuso’r MGSiG.

Ni all un sefydliad na phroffesiwn gyflawni’r MGSiG ar ei ben ei hun. Felly, er mwyn sicrhau’r canlyniadau, mae’n rhaid i ni ymdrechu ar y cyd ar draws y system iechyd a gofal i gael system sy’n ystyried bod pawb yn gyfrifol am anghenion a blaenoriaethau’r boblogaeth.  

 

Gwerthuso’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru 

Mae gan y broses o fonitro a gwerthuso gwaith Clystyrau sy’n gweithio tuag at y Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a’r Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC) 3 elfen:
1. Proses adolygu gan gymheiriaid
2. Offeryn hunanfyfyrio 
3. Dangosyddion allweddol 

Mae matrics aeddfedrwydd MGSiG a DCC yn amlinellu’r safonau a’r meini prawf aeddfedrwydd sy’n ddisgwyliedig i ddangos y cynnydd o wneir tuag at gyflawni canlyniadau MGSiG a DCC. Defnyddir y matrics yn yr adolygiad gan gymheiriaid a’r broses hunanfyfyrio i ddangos y cynnydd a wneir o ran gweithio mewn Clystyrau.

Adolygiad gan gymheiriaid

Yn 2022/23, cyflwynwyd adolygiad gan gymheiriaid ar gyfer Clystyrau a oedd yn golygu bod pob Bwrdd Iechyd yn enwebu un Clwstwr i gymryd rhan yn y broses adolygiad gan gymheiriaid, ar ffurf adolygydd ac adolygai. Roedd y drafodaeth ym mhob adolygiad gan gymheiriaid yn canolbwyntio ar ddau ganlyniad MGSiG ac un canlyniad DCC, er mwyn sicrhau bod pob canlyniad yn cael ei adolygu yn ystod y trafodaethau a drefnwyd. Nododd y cyfranogwyr fod y broses yn addysgiadol, a llwyddodd yr adolygiad i gyflawni’r nod o rannu arfer da.

Adroddiad adolygu gan gymheiriaid 2023-24

Hunanfyfyrio gan glystyrau

Mae’r broses hunanfyfyrio gan glystyrau yn un o’r dulliau y cytunwyd arnyn nhw i werthuso’r cynnydd a wnaiff clystyrau wrth weithio tuag at gyflawni’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a’r rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC). Mae’r broses yn bodoli ochr yn ochr ag adolygiadau o’r clystyrau gan gymheiriaid a dangosyddion allweddol y MGSiG (sydd wrthi’n cael eu datblygu).

Mae'r broses hunanfyfyrio gan glystyrau yn asesu aeddfedrwydd y broses o weithio mewn clystyrau yn erbyn canlyniadau MGSiG a DCC ac yn rhoi darlun o'r galluogwr a'r rhwystrau o fewn y system sy'n hwyluso/rhwystro'r broses o weithio mewn clystyrau yng Nghymru.

Adroddiad hunanfyfyrio gan glystyrau ar gyfer 2024/25

Cynhaliwyd cylch cyntaf y broses hunanfyfyrio gan glystyrau rhwng mis Ebrill a mis Mai 2024, gyda’r nod o ddarparu llinell sylfaen o aeddfedrwydd ar gyfer gweithio mewn clystyrau, a nodi'r rhwystrau a'r galluogwyr o fewn y system. Cyflwynodd 46 o blith y 60 o glystyrau ymatebion a chymerodd ystod eang o grwpiau proffesiynol ran yn y broses, gan roi hyder bod y canlyniadau’n gynrychioliadol o’r sefyllfa bresennol o ran gweithio mewn clystyrau yng Nghymru.

Ymhlith y prif ganfyddiadau mae'r canlynol:

  • Nododd mwyafrif y clystyrau eu bod ar y lefel sylfaen neu'r lefel ddatblygol mewn perthynas â'r holl ddeilliannau.
  • Nododd y clystyrau bum rhwystr o fewn system gan gynnwys Cyllid, Ymgysylltu, Diffyg eglurder, Diffyg amser a Biwrocratiaeth.
  • Cyllid oedd y rhwystr a grybwyllwyd amlaf. 
  • Nodwyd bod y rhwystrau i weithio mewn clystyrau yn cael effaith negyddol ar arloesi a datblygu a gweithredu prosiectau, effaith negyddol ar forâl staff ac effaith negyddol ar gleifion.
  • Nododd y clystyrau bum galluogydd o fewn y system gan gynnwys Ffyrdd o weithio, Perthnasoedd gwaith rhyngbroffesiynol, Arweinyddiaeth, Ymgysylltu â rhanddeiliaid y tu allan i’r clwstwr a Gwerth unigolion.
  • Ymhlith y ffactorau a allai gryfhau clystyrau roedd Mwy o ymreolaeth i wneud penderfyniadau a rheoli cyllid, Llai o fiwrocratiaeth, Mynediad at adnoddau cynaliadwy, Ffyrdd sefydledig o weithio y cytunwyd arnynt a Chryfhau rôl y clwstwr.

Y camau nesaf

  • Mae'r wybodaeth a gasglwyd o'r broses hunanfyfyrio gan glystyrau wedi'i defnyddio i ddatblygu ystod o 'gyfleoedd ar gyfer gweithredu' gyda'r nod o gryfhau gwaith clwstwr, a fydd yn cael eu datblygu yn ystod 2024/25.
  • Bydd cylch nesaf y broses hunanfyfyrio gan glystyrau yn digwydd ym mis Ebrill 2025.

Dangosyddion Allweddol

Mae gwaith yn cael ei wneud i nodi’r dangosyddion allweddol a all ddarparu data cadarn, dibynadwy a phriodol i fesur aeddfedrwydd gweithio mewn Clwstwr. Gwneir y gwaith hwn ochr yn ochr â datblygu’r Metrigau Gofal Sylfaenol. Bwriedir cyflwyno’r dangosyddion allweddol fel trydedd elfen y broses o fonitro a gwerthuso’r MGSiG a DCC yn 2024/25.

Adnoddau defnyddiol