Neidio i'r prif gynnwy

3. Data a Thechnoleg ddigidol


 

Pam

Nododd cynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol mai data yw un o'r prif alluogwyr o ran newid trawsnewidiol i gefnogi modelau gofal newydd; Mae sicrhau mynediad at wybodaeth berthnasol, ystyrlon, gywir a chyflawn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol diogel, effeithiol ac amserol wrth wraidd y ffrwd waith hon.

Beth

Fel galluogwr, nod y ffrwd waith yw mynd i'r afael a chefnogi data, gofynion digidol neu dechnolegol a allai godi o raglenni gwaith cysylltiedig o fewn cwmpas gofal sylfaenol a chymunedol, gweithio gyda phartneriaid ar ddatblygu atebion. Mae gan y ffrwd waith dair prif swyddogaeth:

Ymwybyddiaeth
Gweithredu fel grŵp cyfeirio cyfoedion/rhanddeiliaid i wirio synnwyr a darparu adborth ffurfiol neu anffurfiol ynghylch prosiectau; nodi aliniad a chysylltiadau â gwaith cysylltiedig. 

•Dylanwad    
Ymgysylltu'n weithredol â phrosiectau a darparu cyngor er mwyn dylanwadu ar ddatblygiad cynhyrchion, awgrymu aliniadau, a gwneud cysylltiadau â gwaith cysylltiedig.

Cyfranogiad
Derbyn cynigion ar gyfer prosiectau newydd a chymryd rhan weithredol neu gydweithio yn y gwaith o reoli a chyflawni'r gwaith prosiect.

Pwy

Mae aelodaeth y ffrwd waith yn cynnwys cynrychiolwyr o feysydd allweddol gofal sylfaenol a chymunedol, arbenigwyr pwnc, a rhanddeiliaid cenedlaethol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr aelodaeth bresennol, e-bostiwch SPPC@wales.nhs.uk.

Prosiectau

Mae pob prosiect a wneir gan y ffrwd waith yn cael ei gymeradwyo gan y grŵp llif gwaith, ei gymeradwyo gan Fwrdd y Rhaglen Strategol, ac yna'n cael ei gadarnhau gan y Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol. Nodir y prosiectau presennol sy'n cael eu datblygu isod. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cylch Gorchwyl presennol ar gyfer y ffrwd waith, e-bostiwch SPPC@wales.nhs.uk.

Bwriad prosiect y Fframwaith Dwysau yw cefnogi’r gwaith o adrodd ar y pwysau sydd ar system o ran gwasanaethau mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd hyn yn bwydo i mewn i huddles diogelwch y Bwrdd Iechyd Lleol a sgrym diogelwch Llywodraeth Cymru / GIG Cymru ar y cyd. Y bwriad yw cefnogi’r gwaith o fesur y pwysau ar y system gyfan ar draws gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru a chodi proffil gwasanaethau sylfaenol a chymunedol a'u dylanwad ar y system gyfan.

Bwriad y prosiect  Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru yw creu cyfres o fesurau ansawdd sy'n seiliedig ar boblogaeth, pob un yn darparu ffordd o fesur systemau iechyd a gofal ledled Cymru y gellir eu haddasu i adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Bydd y prosiect yn darparu dangosfwrdd cenedlaethol ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu dangosfyrddau Bwrdd Iechyd lleol. Mae'r prosiect hwn yn cymryd ymagwedd 'digon da' gan mai’r bwriad o ran y dangosfyrddau yw adeiladu arnynt gyda phob iteriad newydd.

Bwriad y prosiect Offeryn Galw a Chapasiti ar gyfer Gofal Sylfaenol yw darparu dangosfwrdd o setiau data sylfaenol, fel y nodwyd trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, i ddarparu gwybodaeth gofal sylfaenol, sy’n dangos effeithiolrwydd, sy'n hawdd i’w echdynnu, ac sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyflwyno mewn fformat Cymru gyfan er mwyn iddo gael ei ddefnyddio mewn negeseuon safonedig, er enghraifft, gyda'r Gweinidog Iechyd, IQPDs a rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae'r prosiect hwn yn cymryd ymagwedd 'digon da' gan mai’r bwriad o ran y dangosfyrddau yw adeiladu arnynt gyda phob iteriad newydd..

Bwriad y prosiect Offeryn Galw a Chapasiti ar gyfer Gofal Sylfaenol yw cydgrynhoi setiau data gwahanol sydd eisoes ar gael mewn i un cymhwysiad  y gall rhanddeiliaid perthnasol gael mynediad ato er mwyndarparu dull systematig o gynllunio, cynllunio a chreu newid sefydliadol ar draws clystyrau i drawsnewid y gweithlu gofal sylfaenol. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau meddygol cyffredinol (GMS) ond bydd yn alinio â phrosiectau galw a chapasiti tebyg sydd ar y gweill mewn perthynas â grwpiau gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol eraill. 

Cynhyrchion

Gellir gweld gwybodaeth am y cynhyrchion a ddarperir gan ffrydiau gwaith y Rhaglen Strategol fel rhestr barhaus neu drwy ffrwd waith a blwyddyn cyflawniad er mwyn ei gwneud yn haws i lywio. Cliciwch ar y ddolen isod i gael mynediad i'r llyfrgell.

Llyfrgell cynhyrchion - Gofal Sylfaenol Un (GIG.cymru)

Cyswllt

Os hoffech fwy o wybodaeth am y ffrwd waith hon neu'r gwaith cysylltiedig sy'n cael ei gyflawni, cyflwynwch eich ymholiad ar y dudalen Cysylltu â ni.  

 

Tudalen wedi ei diweddaru fis Tachwedd 2023