Croeso i'r dangosfwrdd Clwstwr Gofal Sylfaenol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i gynhyrchu dangosfwrdd ar gyfer adrodd data ar lefel clwstwr gofal sylfaenol.
Mae Bae Abertawe yn dathlu llwyddiant dwbl yng Ngwobrau mawreddog GIG Cymru eleni.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio gwrthfiotigau’n gyfrifol ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Mehefin 2023
sy’n cwmpasu: Rhestrau aros y GIG, Tai, Bod yn dyst i Drais, Llesiant meddyliol, Gofal sylfaenol.
Ymgyrch yw hon i roi gwybod i’r cyhoedd am y gwasanaethau sydd ar gael gan eu hoptometrydd lleol i ganfod ac atal problemau llygaid amrywiol.
Datblygodd yr Is-adran Gofal Sylfaenol raglen waith uchelgeisiol ar gyfer 2022/23.
Mae meddygon teulu, optometryddion cymunedol, fferylliaeth gymunedol a phractisau deintyddol gofal sylfaenol ledled Cymru wedi arbed tua 44,088 CO2 eleni – sy'n cyfateb i bedwar hediad o amgylch y byd, neu ferwi mwy na saith miliwn litr o ddŵr, drwy gymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r Is-adran Gofal Sylfaenol yn rhan o Gyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bwriad ein gwaith yw cefnogi trawsnewid ac atal mewn gwelliannau i iechyd deintyddol y cyhoedd a gofal sylfaenol.
Roedd cytundeb y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) ar gyfer 2021–22 yn cynnwys manylion ar gyfer cyflwyno Ymrwymiad Mynediad, i’w gyflwyno o 1 Ebrill 2022. Gweler Rheoli practis cyffredinol | Is-bwnc | LLYW.CYMRU. Mae’r Ymrwymiad Mynediad yn mynnu bod llywio gofal yn cael ei wneud ar gyfer yr holl gleifion sy’n ffonio’r practis a phan fydd eu galwadau’n cael eu hateb a, lle bo’n briodol, gall cleifion gael eu cyfeirio i wasanaeth priodol arall.
Mewn cydweithrediad â Rheolwyr Practisiau a staff clinigol, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi arwain ar ddatblygu pecyn e-ddysgu strwythuredig i gefnogi gofynion contract GMS. Mae’r e-Ddysgu yn cynnwys tri modiwl gwybodaeth a damcaniaeth:
– Hanfodion Llywio Gofal
– Sgiliau ar gyfer Llywio Gofal
– Llywio Gofal ar Waith
Gellir gweithio drwy’r e-Ddysgu ar sail unigol; fel arall, gellir ei ddefnyddio fel sail i sesiynau dysgu grŵp/ystafell ddosbarth. Ni ddylai gymryd yn hwy na 2 awr i’w gwblhau.
Mae pedwerydd modiwl wedi’i gynnwys yn y pecyn i annog a hwyluso’r gwaith o gymhwyso dysgu yn y gweithle drwy lyfr gwaith y gellir ei lawrlwytho, a hynny er mwyn arwain defnyddwyr wrth archwilio eu hadnoddau lleol a’u hasedau cymunedol, ac i gynorthwyo â chyfeirio effeithiol. Er nad yw’r llyfr gwaith yn ofyniad i’r e-Ddysgu, fe’i darperir i helpu i wella hyder, sgiliau a pherfformiad llywio gofal.
I gael mynediad at yr e-Ddysgu yn uniongyrchol: Hanfodion Llywio Gofal
I gael mynediad at y ddolen drwy dudalennau Gofal Sylfaenol AaGIC: https://aagic.gig.cymru/rhaglenni/gofal-sylfaenol/hyfforddiant-gofal-sylfaenol/