Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

29/06/23
Cynllun Gwaith yr Is-adran Gofal Sylfaenol 2022/2023 Naratif Adroddiad Diwedd y Flwyddyn

Datblygodd yr Is-adran Gofal Sylfaenol raglen waith uchelgeisiol ar gyfer 2022/23.  

29/03/23
Gofal sylfaenol yn arbed 44,000 kg CO2 ym mlwyddyn gyntaf y cynllun gwyrddach newydd

Mae meddygon teulu, optometryddion cymunedol, fferylliaeth gymunedol a phractisau deintyddol gofal sylfaenol ledled Cymru wedi arbed tua 44,088 CO2 eleni – sy'n cyfateb i bedwar hediad o amgylch y byd, neu ferwi mwy na saith miliwn litr o ddŵr, drwy gymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

30/01/23
Cylchlythyr yr Hydref

Mae'r Is-adran Gofal Sylfaenol yn rhan o Gyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bwriad ein gwaith yw cefnogi trawsnewid ac atal mewn gwelliannau i iechyd deintyddol y cyhoedd a gofal sylfaenol.

14/10/22
Hanfodion Llywio Gofal

Roedd cytundeb y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) ar gyfer 2021–22 yn cynnwys manylion ar gyfer cyflwyno Ymrwymiad Mynediad, i’w gyflwyno o 1 Ebrill 2022. Gweler Rheoli practis cyffredinol | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.  Mae’r Ymrwymiad Mynediad yn mynnu bod llywio gofal yn cael ei wneud ar gyfer yr holl gleifion sy’n ffonio’r practis a phan fydd eu galwadau’n cael eu hateb a, lle bo’n briodol, gall cleifion gael eu cyfeirio i wasanaeth priodol arall.

Mewn cydweithrediad â Rheolwyr Practisiau a staff clinigol, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi arwain ar ddatblygu pecyn e-ddysgu strwythuredig i gefnogi gofynion contract GMS. Mae’r e-Ddysgu yn cynnwys tri modiwl gwybodaeth a damcaniaeth: 

– Hanfodion Llywio Gofal 

– Sgiliau ar gyfer Llywio Gofal 

– Llywio Gofal ar Waith

Gellir gweithio drwy’r e-Ddysgu ar sail unigol; fel arall, gellir ei ddefnyddio fel sail i sesiynau dysgu grŵp/ystafell ddosbarth. Ni ddylai gymryd yn hwy na 2 awr i’w gwblhau.

Mae pedwerydd modiwl wedi’i gynnwys yn y pecyn i annog a hwyluso’r gwaith o gymhwyso dysgu yn y gweithle drwy lyfr gwaith y gellir ei lawrlwytho, a hynny er mwyn arwain defnyddwyr wrth archwilio eu hadnoddau lleol a’u hasedau cymunedol, ac i gynorthwyo â chyfeirio effeithiol. Er nad yw’r llyfr gwaith yn ofyniad i’r e-Ddysgu, fe’i darperir i helpu i wella hyder, sgiliau a pherfformiad llywio gofal.

I gael mynediad at yr e-Ddysgu yn uniongyrchol: Hanfodion Llywio Gofal

I gael mynediad at y ddolen drwy dudalennau Gofal Sylfaenol AaGIC: https://aagic.gig.cymru/rhaglenni/gofal-sylfaenol/hyfforddiant-gofal-sylfaenol/

19/07/22
Addasu i'r Newid yn yr Hinsawdd: Arolwg Pecyn Cymorth Iechyd a Llesiant
14/07/22
Cyflyrau Niwroddatblygiadol – Cymorth a Gwybodaeth
16/06/22
Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
12/05/22
Cylchlythyr y Gwanwyn Mai 2022
06/05/22
Nodyn rhyddau – Pecyn Cymorth DCC 7 Ebrill 2022
09/02/22
Agenda Werdd Cymru Gyfan – Rhagnodi Mewnanadlwyr Cynaliadwy