Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y byd 18-24 Tachwedd

Mae 18-24 Tachwedd yn Wythnos Fyd-eang Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio gwrthfiotigau’n gyfrifol ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys gweithgaredd y telir amdano a gweithgaredd organig ar y cyfryngau cymdeithasol, deunydd gan ddylanwadwyr wedi'i anelu at gynulleidfaoedd ifanc, ac ymgysylltu â'r cyfryngau a rhanddeiliaid.

Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr eich cymorth i rannu ein negeseuon.

Gallwch lawrlwytho ein hasedau ymgyrchu, gan gynnwys testun a delweddau ar gyfer negeseuon cyfryngau cymdeithasol, poster y gellir ei argraffu a delwedd sgrin ddigidol, yma: Llyfrgell Asedau Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gellir rhannu'r rhain hefyd ar sgriniau meddygfeydd ac ati; i godi ymwybyddiaeth o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.

 

 

 

 

 

Dyma'r wefan: https://icc.gig.cymru/ymwrthedd-gwrthfiotig

Mae gweminarau ac adnoddau eraill ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gael gan AaGIC yma: https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/ymgyrchoedd-ymwybyddiaeth/ymwrthedd-a-stiwardiaeth-gwrthficrobaidd/