Offeryn Hunanasesu Ymarfer Llywodraethu Clinigol (CGPSAT) i bractisau meddygol cyffredinol
Mae’n ofynnol i bractisau adolygu eu hymatebion CGPSAT blaenorol, nodwch ‘lefel’ ar gyfer pob testun yn y CGPSAT a gwnewch nodiadau ar gyfer eich Cynllun Datblygu Practis.
Annwyl ddefnyddiwr CGPSAT, Dyma nodyn byr i’ch atgoffa o’r trefniadau ar gyfer defnyddio’r Offeryn Hunanasesu Ymarfer Llywodraethu Clinigol (CGPSAT):
Problem: |
Datrysiad: |
Mae gennych broblem gyda chyfrinair y practis e.e. angen ei ailosod |
Gofynnwch i IGDC am gymorth yn y ffordd arferol |
Mae angen i chi roi gwybod i rywun fod y practis yn uno neu am broses ad-drefnu debyg |
Gofynnwch i’ch tîm gofal sylfaenol lleol roi gwybod i Iechyd Cyhoeddus Cymru am y newid angenrheidiol (fel y nodir isod) |
Mase angen cyngor arnoch am gynnwys eich cais |
Os nad yw’n rhan o’r canllawiau yma, gofynnwch i’ch tîm gofal sylfaenol lleol am gymorth |
Rydych am ailagor CGPSAT a chyflwyno eich cais yn hwyr |
Gofynnwch i’ch tîm gofal sylfaenol lleol gyflwyno eich cais i Grŵp Cymheiriaid Penaethiaid Gofal Sylfaenol (a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau i Iechyd Cyhoeddus Cymru; gwneir penderfyniad un ffordd neu’r llall ac ni chaniateir hynny ar gyfer un practis yn unig) |
Mae gennych broblem arall nad yw wedi’i rhestru yma |
Cysylltwch â Iechyd Cyhoeddus Cymru (fel y nodir isod) a all eich helpu neu eich cyfeirio at rywun a allai eich helpu |
Cyswllt gweinyddol CGPSAT Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Claire Miles (Swyddog Cymorth Rhaglen, Yr Is-adran Gofal Sylfaenol), a gallwch gysylltu â hi drwy e-bostio Claire.Miles3@wales.nhs.uk.
Gofynnir i bractisau ystyried pa mor aeddfed yw eu systemau drwy gyfrwng matrics.
Yn fras trefnir lefelau’r matrics yn ôl yr hierarchaeth gyflawni ganlynol:
Lefel 0 | Nid ydym wedi cyflawni lefel 1 |
Lefel 1 | Rydym yn gwneud rhywfaint ohono (system rannol, adweithiol, fanteisgar) |
Lefel 2 | Rydym yn ei wneud yn dda (h.y. mewn modd strwythuredig, system gyflawn, rhagweithiol, wedi’i gynllunio) |
Lefel 3 | Rydym yn sicrhau ein bod yn ei wneud yn dda (h.y. monitro, rhwyd ddiogelwch, adolygu, Cynllunio, Gwneud, Astudio, Gweithredu (PDSA) a chylchoedd archwilio) |
Lefel 4 | Rydym yn ei wneud yn gyson ac yn gynaliadwy (mae gennym bolisi ffurfiol, mae’r tîm cyfan yn cymryd perchnogaeth). Rydym yn ymgysylltu â’n clwstwr Meddygon Teulu lleol ac yn cyfrannu ato. |
Lefel 5 | Rydym yn ymdrechu i’w wneud yn well fyth ac rydym yn ei rannu (Arfer gorau, gweithio mewn clystyrau, cynllunio lleol, datblygu cydweithio effeithiol gyda gwasanaethau cymunedol). Rydym yn arwain y tu allan i’n practis ac rydym yn dod â’r hyn rydym wedi’i ddysgu yn ein gwaith clwstwr yn ôl i’r practis. |
Cynlluniau Datblygu Practis yn y CGPSAT
Nid oes gan fersiwn cyfredol y CGPSAT unrhyw faes ar gyfer CDP ond mae gan bob matrics ei faes ei hun ar gyfer testun y gellir ei gyfuno mewn adroddiad – mae angen i bractisau ddefnyddio’r swyddogaeth argraffu i argraffu adroddiad Cynllun Datblygu Practis. Gweler y tiwtorial CGPSAT am wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn.
Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yng Nghymru 2019 / 20 – Dysgu o’r CGPSAT a’i ddefnyddio i ddatblygu practis a’r clwstwr rhwydwaith
Nod parth Datblygu Rhwydwaith Clystyrau y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (QOF) yw cefnogi’r broses o ddatblygu rhwydwaith clystyrau a darparu rhywfaint o ffocws i weithgaredd gwella er mwyn cryfhau’r broses o ddarparu gofal iechyd lleol yng Nghymru.
Bydd angen i bractisau sydd wedi nodi y byddant yn gwneud cais am daliad Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau am gwblhau’r CGPSAT fod yn ymwybodol eu bod, drwy wneud hynny, yn cytuno i sicrhau bod canlyniadau’r practis ar gael i’r Bwrdd Iechyd a rhoddir gwybod i’r Byrddau Iechyd pa bractisau sy’n defnyddio’r pecyn offer.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chwblhau dangosydd Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau CND011W neu gyflwyno’r CGPSAT, cysylltwch â’ch Bwrdd Iechyd Lleol
Mae’r CGPSAT wedi’i seilio ar Safonau Iechyd a Gofal 2015 Llywodraeth Cymru (y Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru gynt). Rydym wedi dehongli’r safonau ar gyfer cyd-destun Ymarfer Cyffredinol ac rydym wedi ceisio cysoni matricsau’r CGPSAT â’r safonau diwygiedig. Yn aml mae matricsau’n cwmpasu mwy nag un safon ac nid yw eraill yn syrthio’n daclus i unrhyw fatrics.
Wedi'i ddiweddaru 16/02/2022