Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig
Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig
Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Amlbroffesiynol
Mae'r dudalen we hon wedi'i chynllunio i fod yn adnodd siop un stop i unigolion neu dimau, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymgymryd â'r Matrics Datblygu, neu gydran offeryn gwerthuso y Fframwaith Amlbroffesiynol a chefnogi'r daith i ddeall ble rydych chi nawr a sut i symud i'r lle yr hoffech fod.
Ein dyhead wrth ddatblygu matrics oedd creu offeryn y byddai rhanddeiliaid - boed yn arweinwyr, rheolwyr, ymarferwyr ac eraill - yn ei gael yn ddefnyddiol.
Fe'i cynlluniwyd er mwyn:
Nod y Fframwaith Amlbroffesiynol yw cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau cymunedol cydgysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, drwy fodel gofal amlbroffesiynol gweithredol sy’n seiliedig ar leoedd.
Mae cydweithio drwy systemau gofal sy'n seiliedig ar leoedd yn cynnig y cyfle gorau i ddiwallu anghenion cyfannol unigolion a'r boblogaeth leol. Bydd hyn yn herio rhai o’r ffiniau traddodiadol rhwng proffesiynau a rhwng gwasanaethau.
Uchelgais y Seilwaith Cymunedol yw diffinio'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu model cymunedol integredig, amlbroffesiynol 24/7 sy'n seiliedig ar leoedd. Gan gydnabod bod llawer o waith cadarnhaol iawn wedi bod yn y gofod hwn, ond ei fod yn aml yn sefyll ar ei ben ei hun ac nad yw wedi cael ei ddatblygu, mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i adeiladu ar, cydlynu, a rhoi proffil i'r gwaith hwn.
Y Fframwaith Amlbroffesiynol yw'r llinyn allweddol ar draws holl flaenoriaethau rhaglen SC a'r camau nesaf. Cefnogi'r ffocws ar weithio amlbroffesiynol i ddarparu gofal a chymorth di-dor, cydgysylltiedig, effeithiol, effeithlon, amserol, integredig, yn seiliedig ar werth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nes at y cartref.
Datblygwyd y Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig mewn partneriaeth â’r Athro Mark Llewellyn a’r Athro Carolyn Wallace o Brifysgol De Cymru i gefnogi'r gwaith hwn. Buont yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth o amgylch y gwaith hwn - drwy adolygiad cwmpasu o'r llenyddiaeth ac ymarfer datblygu consensws ar-lein cyn ymchwil gweithredu cydweithredol gydag ymarferwyr i gyd-ddylunio'r Matrics Datblygu.
Mae'r Fframwaith Amlbroffesiynol yn cynnwys:
Datblygu Fframwaith Amlbroffesiynol i Gymru:
Mae'r papur Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer gweithio integredig yn amlinellu'r diffiniad, y safonau a’r offeryn gwerthuso a gytunwyd yn genedlaethol, ar gyfer model Amlbroffesiynol o ofal a chymorth integredig - byddem yn argymell darllen y papur hwn (y papur llawn neu’r crynodeb byrrach) i roi cefndir a dealltwriaeth i chi o'r offeryn gwerthuso :
Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig – papur cryno
Nod y Matrics Datblygu, neu cydran offeryn gwerthuso y Fframwaith Amlbroffesiynol yw cefnogi gwaith amlbroffesiynol cydweithredol trwy ddarparu ffordd o ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd gyda 'dilysrwydd wyneb' mewn ffordd sydd hefyd yn galluogi trafodaeth rhwng rhanddeiliaid. Mae’n dangos beth yw 'da', gyda chamau i awgrymu a/neu ddangos datblygiad a chytuno ar y camau nesaf i’w cymryd
Nawr ar gael lawrlwytho Excel rhyngweithiol o'r matrics datblygu
Mae'n bwysig cydnabod nad offeryn rheoli perfformiad yw hwn - dim ond os ydych chi'n onest am ble rydych chi/eich gwasanaeth y bydd gwir werth yn dod.
Nid yw'n ras i gyflawni datganiad 5.
Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i fideos cefnogol byr, bob un yn para tua 3 - 4 munud yn unig. Maent wedi cael eu datblygu i gefnogi'r defnydd o'r matrics datblygu.
Sianel YouTube y Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Amlbroffesiynol
Parth 1 – YMRWYMIAD
Parth 2 - CYSYLLTIADAU MEWNOL, CYDWEITHIO A CHYDLYNIANT
Parth 3 - CYSYLLTIADAU ALLANOL
Parth 4 - RHANNU GWYBODAETH A LLYWODRAETHU
Parth 5 - TEGWCH A CHYDRADDOLDEB
Parth 6 - YMARFER SY'N CANOLBWYNTIO AR YR UNIGOLYN
Parth 7 - ADNODDAU - DYNOL AC ARIANNOL
Parth 8 - YMGORFFORI DATA YN YMARFEROL
Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth yn ystyried rôl a gwerthoedd allweddol, buddion a heriau gweithio amlbroffesiynol yn y gymuned. Strwythurwyd yr adolygiad i ateb chwe chwestiwn craidd sy'n mynd i'r afael â'r diffiniadau, modelau gweithlu presennol, buddion, heriau, profiad yr unigolyn ac economeg iechyd gweithio amlbroffesiynol yn y gymuned.
Gweithio Amlbroffesiynol yn y Gymuned - Adolygiad Cwmpasu
Gweithio Amlbroffesiynol yn y Gymuned - Crynodeb o’r Adolygiad Cwmpasu
Canfyddiadau Mapio Cysyniad Grŵp
Fe wnaeth yr ymarfer datblygu consensws ar-lein hwn helpu i greu set ddata gyffredin ar gyfer seilwaith cymunedol.
Mae’r Rhaglen Seilwaith Cymunedol (SC) yn ceisio diffinio'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu model cymunedol integredig, amlbroffesiynol 24/7 sy'n seiliedig ar leoedd. Gan adeiladu ar yr egwyddorion yn y Model Gofal Sylfaenol i Gymru, mae'n canolbwyntio ar sut mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn cydweithio â'i gilydd, i ddarparu gofal di-dor, ar lefel leol. Mae gwaith amlbroffesiynol yn ganolog i’r rhaglen Seilwaith Cymunedol ac yn sail i uchelgais Model Gofal Sylfaenol Cymru.
Mae'r Compendiwm Gofal Sylfaenol a Chymunedol Rolau a Modelau yn wefan unwaith i Gymru sy'n cynnal astudiaethau achos o fodelau gofal sy'n 'fyw' yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n arddangos gwaith amlbroffesiynol integredig i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn nes at adref. Mae pob astudiaeth achos yn cynnwys dolenni i adnoddau cysylltiedig, megis cyrff rheoleiddio a gwybodaeth gyrfaoeddByddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Cysylltu â ni
Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
A oes gennych unrhyw sylwadau ar y Matrics?
Hoffech chi rannu sut mae'r Matrics wedi bod o fudd i chi a'ch tîm?
E-bostiwch ni : sppc@wales.nhs.uk