Mae'r is dudalen hon yn rhaon o'r Porth Cymorth Cynllunio I Glystrau
Mae cyfarwyddebau lluosog yn galw am baru asesiadau o anghenion iechyd y boblogaeth ac allbynnau cynllunio ar draws patrymau daearyddol a/neu strwythurol yng Nghymru; gweler y tabl isod. Mae hyn yn cyflwyno nifer o heriau er mwyn canfod datrysiadau ar lefel system, gan gynnwys yr angen i:
Nid oes storfa ganolog ar gyfer asesiadau o anghenion ar sail ardal a gynhelir yng Nghymru. Gellir adfer asesiadau presennol o un neu fwy o’r mathau canlynol o wefannau:
Yn ogystal ag asesiadau ar sail ardal, gellir cynnal neu gomisiynu asesiadau ar sail pwnc ar batrwm lleol neu genedlaethol (e.e. anghenion pobl sy’n byw gydag anableddau, iechyd carcharorion, anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches, neu iechyd llygaid).
Nid oes storfa ganolog ar gyfer asesiadau o anghenion ar sail pynciau a gynhelir yng Nghymru. Pan fydd gan glwstwr / PCPG bwnc o ddiddordeb penodol, byddai holi timau iechyd y cyhoedd lleol (a allai fod wedi bod yn rhan o hyn) ynglŷn ag unrhyw asesiadau presennol ar batrwm byrddau iechyd yn fan cychwyn rhesymol, yn ogystal â chwilio ar wefan genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Crynodeb o batrymau asesu a chynllunio gofal iechyd allweddol yng Nghymru |
||||
Patrwm (yn ôl maint) |
Cyfarwyddeb |
Allbwn asesu |
Allbwn cynllunio |
Nodiadau |
Bwrdd iechyd / rhanbarth |
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) |
Asesu’r boblogaeth |
Cynllun Ardal ar y Cyd |
Cyhoeddwyd y Cynllun ardal cyntaf ym mis Ebrill 2017; sy’n cael ei ddiweddaru bob 3 blynedd, gyda JAP 1 flwyddyn yn ddiweddarach |
Fframwaith Cynllunio’r GIG |
Bydd angen i Gynllun Tymor Canolig Integredig ddangos sut maent wedi’u hysbysu a’u hategu gan asesiadau o anghenion y boblogaeth a chynlluniau 3 blynedd ar lefel clwstwr |
Cynllun Tymor Canolig Integredig, yn ymgorffori cynllun ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol |
Yn ystod y pandemig Covid-19 newidiwyd i gynlluniau blynyddol |
|
Bwrdd Iechyd (Deddf Iechyd y Cyhoedd 2017) |
Asesiad o Anghenion Fferyllol |
Penderfyniad mynediad i’r farchnad |
|
|
Awdurdod lleol |
Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015) |
Asesiad Llesiant |
Cynllun Llesiant |
Asesiad “o fewn y 12 mis cyn pob etholiad arferol llywodraeth leol”; mae’r cynllun yn un blynyddol
|
Grŵp cynllunio ar draws y clwstwr |
I’w gadarnhau |
I’w gadarnhau |
I’w gadarnhau |
I’w gadarnhau ar gyfer cynlluniau 23-24 |
Clwstwr |
Contract ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (rhan o barth clwstwr y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn flaenorol) |
Asesiad o anghenion lleol |
Cynllun Gweithredu Clwstwr |
Nid oes eu hangen ar gyfer cynlluniau 22-23; I’w gadarnhau ar gyfer cynlluniau 23-24 |
Practis meddygon teulu |
Mae gofyniad cytundebol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (rhan o barth clwstwr y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau) i gynhyrchu asesiad o anghenion poblogaeth practis a chynllun datblygu’r practis wedi’i dynnu yn ôl |