Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud i bob cyswllt gyfrif trwy gymryd mantais o'r cyfle i ofyn am ffactorau risg ymddygiadol ar gyfer dementia

  • Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC)  yn ddull Cymru gyfan o newid ymddygiad, gan ddefnyddio rhyngweithio o ddydd i ddydd, i gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u llesiant.
  • Ystyriwch annog staff y practis i ennill sgiliau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (hyd at lefel 1), gweler yma [angen ESR neu unrhyw fath arall o fewngofnodi/cofrestriad]. Ar gyfer cysylltiadau hyfforddi Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif fesul bwrdd iechyd, gweler yma [mewnrwyd].
  • Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (PH49)(Saesneg yn unig) yn hyrwyddo ymyraethau byr gan staff sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl a allai fuddio o gael cymorth i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
  • Defnyddio cyfleoedd i drafod a mynd i’r afael â ffactorau risg ymddygiadol y gellir eu haddasu ar gyfer dementia, gan gynnwys ysmygu (BRF-001), anweithgarwch corfforol (BRF-003) a goryfed alcohol (BRF-004), ac i hyrwyddo lles meddwl (MWB-001).
  • Mae Cynllun gweithredu Cymru ar gyfer Dementia (LlC 2018) yn hyrwyddo rhoi’r gorau i ysmygu a lleihau’r defnydd o alcohol; mae hefyd yn nodi y gall ymddygiadau sy’n ysgogi’r meddwl a chymdeithasu fod yn amddiffynnol.