Neidio i'r prif gynnwy

Brechu rhag y ffliw

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.

A. Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Mae imiwneiddio rhag y ffliw yn ddull pwysig o atal clefydau. Y nod yw lleihau baich afiachedd a marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r ffliw a phwysau gaeaf y gellir eu hosgoi ar wasanaethau iechyd yng Nghymru.
  • Mae'r Llyfr Gwyrdd (UK HSA) (Saesneg yn unig) yn darparu canllawiau ar imiwneiddio ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol y DU. Eu nod yw diogelu’n uniongyrchol y rhai mewn grwpiau risg clinigol sydd â risg uwch o afiachedd a marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r ffliw (mae grwpiau risg clinigol sy'n gymwys ar gyfer brechlyn ffliw yn cael eu hadolygu'n rheolaidd).
  • Y ffliw yw prif gyfrannwr at flynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl anabledd (DALYs) ar gyfer clefydau trosglwyddadwy yng Nghymru.
  • Adroddir ar ddangosyddion ar gyfer y pwnc hwn drwy Fesurau Gofal Sylfaenol a Fframwaith Cyflawni GIG Cymru

B.  Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Mewn perygl rhwng 6 mis a 64 oed (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: IVOR (Saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Deall a Dehongli Data Imiwneiddio rhag y Ffliw (Saesneg yn unig)

 

Dangosydd:

Plant dwy a thair oed (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: IVOR (Saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Deall a Dehongli Data Imiwneiddio rhag y Ffliw (Saesneg yn unig)

 

Dangosydd:

65 oed a throsodd (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: IVOR (Saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Deall a Dehongli Data Imiwneiddio rhag y Ffliw (Saesneg yn unig)

C.  Camau gwella 

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd. 

 

Adolygwyd gan: BM/VT | Dyddiad adolygu: 07/08/22 | Côd pwnc: IDP-001