Neidio i'r prif gynnwy

Brechu plentyndod

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.

A.  Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Mae'r Llyfr Gwyrdd (UK HSE) (Saesneg yn unig) yn nodi, er mai prif nod imiwneiddio yw diogelu'r unigolyn sy'n cael brechlyn, mae unigolion sydd wedi'u brechu yn llai tebygol o fod yn ffynhonnell haint i eraill, gan leihau'r risg o haint i unigolion sydd heb eu brechu. Pan fydd y brechlyn yn ddigonol i gymell lefel uchel o imiwnedd y boblogaeth (imiwnedd torfol) gellir dileu heintiau. Fodd bynnag, gallai afiechydon ddychwelyd os na chynhelir imiwnedd yn eang.
  • Adroddir ar ddangosyddion ar gyfer y pwnc hwn drwy Fesurau Gofal Sylfaenol a Fframwaith Cyflawni GIG Cymru

B.  Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Derbyn y 5 mewn 1 ym mlwyddyn 1 (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata

 

Dangosydd:

Wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf erbyn 4 oed  (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (Saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata

 

Dangosydd:

MMR2 yn 5 oed (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (Saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata

 

Dangosydd:

MMR2 yn 16 oed (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (Saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata

C.  Camau gwella

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.

 Adolygwyd gan: BM/VT | Dyddiad adolygu: 07/08/22 | Côd pwnc: IDP-002