Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.
Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol). Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.
Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.
Dangosydd: |
Derbyn y 5 mewn 1 ym mlwyddyn 1 (%) |
Ffynhonnell y data a'r ddolen: |
Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (saesneg yn unig) |
Dolen i’r ddogfennaeth: |
Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata |
Dangosydd: |
Wedi cael yr imiwneiddiadau diweddaraf erbyn 4 oed (%) |
Ffynhonnell y data a'r ddolen: |
Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (Saesneg yn unig) |
Dolen i’r ddogfennaeth: |
Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata |
Dangosydd: |
MMR2 yn 5 oed (%) |
Ffynhonnell y data a'r ddolen: |
Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (Saesneg yn unig) |
Dolen i’r ddogfennaeth: |
Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata |
Dangosydd: |
MMR2 yn 16 oed (%) |
Ffynhonnell y data a'r ddolen: |
Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: (Saesneg yn unig) |
Dolen i’r ddogfennaeth: |
Mae nodiadau dehongli ar gael trwy’r ddolen ffynhonnell ddata |
Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.
Adolygwyd gan: BM/VT | Dyddiad adolygu: 07/08/22 | Côd pwnc: IDP-002