Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig

Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig 

Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig 

Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Amlbroffesiynol 

 

Mae'r dudalen we hon wedi'i chynllunio i fod yn adnodd siop un stop i unigolion neu dimau, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymgymryd â'r Matrics Datblygu, neu gydran offeryn gwerthuso y Fframwaith Amlbroffesiynol a chefnogi'r daith i ddeall ble rydych chi nawr a sut i symud i'r lle yr hoffech fod.    

Ein dyhead wrth ddatblygu matrics oedd creu offeryn y byddai rhanddeiliaid - boed yn arweinwyr, rheolwyr, ymarferwyr ac eraill - yn ei gael yn ddefnyddiol. 

Fe'i cynlluniwyd er mwyn: 

  • Disgrifio beth sy'n digwydd gyda 'dilysrwydd ar yr wyneb' i'r rhanddeiliaid allweddol; 
  • Hwyluso disgrifiad o'r hyn sy'n digwydd mewn modd sy'n hwyluso trafodaeth rhwng rhanddeiliaid; 
  • Dangos sut beth yw 'da', gyda chamau i awgrymu a/neu ddangos datblygiad, a  
  • Galluogi rhanddeiliaid i drafod ymhlith ac ar gyfer eu hunain eu canfyddiad hwy o’u hamgylchiadau presennol a chytuno ar y camau nesaf i'w cymryd, gan mai dyma sut mae offer o'r fath yn gweithio orau. 

Nod y Fframwaith 

Nod y Fframwaith Amlbroffesiynol yw cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau cymunedol cydgysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, drwy fodel gofal amlbroffesiynol gweithredol sy’n seiliedig ar leoedd. 

Mae cydweithio drwy systemau gofal sy'n seiliedig ar leoedd yn cynnig y cyfle gorau i ddiwallu anghenion cyfannol unigolion a'r boblogaeth leol. Bydd hyn yn herio rhai o’r ffiniau traddodiadol rhwng proffesiynau a rhwng gwasanaethau.  

 

Cefndir  

Uchelgais y Seilwaith Cymunedol yw diffinio'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu model cymunedol integredig, amlbroffesiynol 24/7 sy'n seiliedig ar leoedd. Gan gydnabod bod llawer o waith cadarnhaol iawn wedi bod yn y gofod hwn, ond ei fod yn aml yn sefyll ar ei ben ei hun ac nad yw wedi cael ei ddatblygu, mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i adeiladu ar, cydlynu, a rhoi proffil i'r gwaith hwn. 

Y Fframwaith Amlbroffesiynol yw'r llinyn allweddol ar draws holl flaenoriaethau rhaglen SC a'r camau nesaf. Cefnogi'r ffocws ar weithio amlbroffesiynol i ddarparu gofal a chymorth di-dor, cydgysylltiedig, effeithiol, effeithlon, amserol, integredig, yn seiliedig ar werth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nes at y cartref. 

Datblygwyd y Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig mewn partneriaeth â’r Athro Mark Llewellyn  a’r Athro Carolyn Wallace  o Brifysgol De Cymru  i gefnogi'r gwaith hwn. Buont yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth o amgylch y gwaith hwn - drwy adolygiad cwmpasu o'r llenyddiaeth ac ymarfer datblygu consensws ar-lein  cyn ymchwil gweithredu cydweithredol gydag ymarferwyr i gyd-ddylunio'r Matrics Datblygu. 

Mae'r Fframwaith Amlbroffesiynol yn cynnwys: 

  • Fframwaith a gytunir yn genedlaethol ar gyfer gwaith Amlbroffesiynol gan gynnwys Diffiniad, Safonau gyda Datganiadau Ansawdd ategol y cytunir arnynt yn genedlaethol 
  • Profion i ddangos prawf o gysyniad 
  • Set o fesurau canlyniadau y cytunwyd arnynt i ddangos cyflawni'r fframwaith yn llwyddiannus  

Datblygu Fframwaith Amlbroffesiynol i Gymru: 

  • Mae’n creu gwaith cydweithredol rhwng proffesiynau cymunedol 
  • Mae’n canolbwyntio ar gysondeb, yn lleihau amrywiad, yn datblygu arferion da 
  •  Mae’n defnyddio data i ddangos gwerth ac effaith er mwyn canolbwyntio sylw ac adnoddau 

Fframwaith Amlbroffesiynol 

Mae'r papur Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer gweithio integredig yn amlinellu'r diffiniad, y safonau a’r offeryn gwerthuso a gytunwyd yn genedlaethol, ar gyfer model Amlbroffesiynol o ofal a chymorth integredig - byddem yn argymell darllen y papur hwn (y papur llawn neu’r crynodeb byrrach) i roi cefndir a dealltwriaeth i chi o'r offeryn gwerthuso :   

 

Y Matrics Datblygu 

Nod y Matrics Datblygu, neu cydran offeryn gwerthuso y Fframwaith Amlbroffesiynol yw cefnogi gwaith amlbroffesiynol cydweithredol trwy ddarparu ffordd o ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd gyda 'dilysrwydd wyneb' mewn ffordd sydd hefyd yn galluogi trafodaeth rhwng rhanddeiliaid. Mae’n dangos beth yw 'da', gyda chamau i awgrymu a/neu ddangos datblygiad a chytuno ar y camau nesaf i’w cymryd 

Yn dod yn fuan, Excel rhyngweithiol y gellir ei lawrlwytho o'r matrics datblygu 

 Mae'n bwysig cydnabod nad offeryn rheoli perfformiad yw hwn - dim ond os ydych chi'n onest am ble rydych chi/eich gwasanaeth y bydd gwir werth yn dod. 

Nid yw'n ras i gyflawni datganiad 5. 

 

Adnoddau Defnyddiol 

Fideos Byr  

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i fideos cefnogol byr, bob un yn para tua 3 - 4 munud yn unig. Maent wedi cael eu datblygu i gefnogi'r defnydd o'r matrics datblygu.  

 
Sianel YouTube y Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Amlbroffesiynol 

  • Parth 2 - CYSYLLTIADAU MEWNOL, CYDWEITHIO A CHYDLYNIANT  

  • Parth 4 - RHANNU GWYBODAETH A LLYWODRAETHU 

  • Parth 5 - TEGWCH A CHYDRADDOLDEB 

  • Parth 6 - YMARFER SY'N CANOLBWYNTIO AR YR UNIGOLYN 

  • Parth 7 - ADNODDAU - DYNOL AC ARIANNOL 

  • Parth 8 - YMGORFFORI DATA YN YMARFEROL 

 

Dolenni defnyddiol eraill  

Adolygiad Cwmpasu 

Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth yn ystyried rôl a gwerthoedd allweddol, buddion a heriau gweithio amlbroffesiynol yn y gymuned. Strwythurwyd yr adolygiad i ateb chwe chwestiwn craidd sy'n mynd i'r afael â'r diffiniadau, modelau gweithlu presennol, buddion, heriau, profiad yr unigolyn ac economeg iechyd gweithio amlbroffesiynol yn y gymuned. 

Gweithio Amlbroffesiynol yn y Gymuned - Adolygiad Cwmpasu 

Gweithio Amlbroffesiynol yn y Gymuned - Crynodeb o’r Adolygiad Cwmpasu 

Mapio Cysyniad Grŵp 

Canfyddiadau Mapio Cysyniad Grŵp  

Fe wnaeth yr ymarfer datblygu consensws ar-lein hwn helpu i greu set ddata gyffredin ar gyfer seilwaith cymunedol. 

Pecyn cymorth Seilwaith Cymunedol 

Mae’r Rhaglen Seilwaith Cymunedol (SC) yn ceisio diffinio'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu model cymunedol integredig, amlbroffesiynol 24/7 sy'n seiliedig ar leoedd. Gan adeiladu ar yr egwyddorion yn y Model Gofal Sylfaenol i Gymru, mae'n canolbwyntio ar sut mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn cydweithio â'i gilydd, i ddarparu gofal di-dor, ar lefel leol. Mae gwaith amlbroffesiynol yn ganolog i’r rhaglen Seilwaith Cymunedol ac yn sail i uchelgais Model Gofal Sylfaenol Cymru

 

Cysylltu â ni 

Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.   

A oes gennych unrhyw sylwadau ar y Matrics? 

Hoffech chi rannu sut mae'r Matrics wedi bod o fudd i chi a'ch tîm? 

E-bostiwch ni : sppc@wales.nhs.uk