Mae’r broses hunanfyfyrio gan glystyrau yn un o’r dulliau y cytunwyd arnyn nhw i werthuso’r cynnydd a wnaiff clystyrau wrth weithio tuag at gyflawni’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a’r rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC). Mae’r broses yn bodoli ochr yn ochr ag adolygiadau o’r clystyrau gan gymheiriaid a dangosyddion allweddol y MGSiG (sydd wrthi’n cael eu datblygu).
Dyma’r prif ddogfennau sy’n cyd-fynd â’r broses hunanfyfyrio gan glystyrau:
Mae dogfen y broses hunanfyfyrio gan glystyrau yn rhoi trosolwg o’r broses ac yn awgrymu ffyrdd o’i chwblhau.
Mae’r fframwaith datblygu clwstwr yn cynnwys y matrics aeddfedrwydd ar gyfer y MGSiG a’r rhaglen DCC. Mae’r matrics aeddfedrwydd yn cynnwys meini prawf sy’n disgrifio lefelau aeddfedrwydd gwaith y clystyrau o dan bob canlyniad. Gall clystyrau ddefnyddio’r matrics i’w helpu i fyfyrio am eu lefelau aeddfedrwydd o dan bob canlyniad.
Mae adnodd ar-lein wedi’i ddatblygu er mwyn i glystyrau gyflwyno canfyddiadau eu trafodaethau hunan-fyfyrio. Dim ond un cyflwyniad ar-lein sydd ei angen gan bob clwstwr.
Bydd yr arolwg ar-lein yn agor ar 01/04/2025 ac yn cau ar 31/05/2025.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch chi i gwblhau’r broses hunanfyfyrio gan glystyrau, cysylltwch â GofalSylfaenol.Un@wales.nhs.uk