Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio gofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru

Gofal sylfaenol yn darparu’r pwynt gofal cyntaf, ddydd neu nos, ar gyfer mwy na 90% o gyswllt pobl â’r GIG yng Nghymru.
Mae'n cydlynu gofal i'r unigolyn, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion a chyfeirio cleifion at yr ystod eang o wasanaethau yn y gymuned leol i ddiwallu eu hanghenion iechyd a lles.

Er mwyn cyflawni Cynllun Iachach Cymru, mae angen i ni ymgysylltu a chefnogi cydweithio ar draws yr holl gontractwyr annibynnol, clystyrau, byrddau iechyd a rhanddeiliaid ehangach.

Mae rôl nyrs gymunedol yn esblygu wrth i anghenion y cleifion newid ac wrth i gyfeiriad teithio iechyd symud tuag at y gymuned.

Mae Nyrsys Gofal Cymunedol a Sylfaenol mewn sefyllfa dda i ddylanwadu a chefnogi cleifion sy'n gwneud dewisiadau ffordd iachach o fyw i'w hunain a'u teuluoedd ochr yn ochr ag iechyd y cyhoedd.

Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol
Cymru iachach:ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol Rhifyn 1: 2019-20

Nyrsys Ymarfer Cyffredinol

Mae Nyrsio mewn Ymarfer Cyffredinol yn arbenigedd sy’n tyfu’n gyflym yn y byd nyrsio ac mae’n adlewyrchu’r newid mewn darparu gofal o ofal eilaidd i ofal sylfaenol.  Caiff mwy a mwy o nyrsys eu denu i’r maes nyrsio hwn gan eu bod yn gallu gweithio gydag unigolion a theuluoedd yn ogystal ag ysgwyddo amrywiol rolau a chyfrifoldebau.

Caiff Nyrsys Ymarfer Cyffredinol eu cyflogi’n uniongyrchol gan Feddygon Teulu sy’n cael eu his-gontractio gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru i gyflawni’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.  Bydd y nyrsys yn darparu gofal uniongyrchol ac wedi’i gynllunio i bobl o bob oedran mewn meddygfeydd mewn amryw o leoliadau. Mae Nyrsys Ymarfer Cyffredinol yn rhan hanfodol o’r tîm gofal iechyd a allai gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd, fferyllwyr a pharafeddygon wedi’u cyflogi’n uniongyrchol, uwch-ymarferwyr nyrsio yn ogystal â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd megis nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd, ffisiotherapyddion a nyrsys iechyd meddwl.

Mae meddygfeydd yn amrywio o ran maint ac yn sgil hynny mae nifer y cleifion sydd wedi’u cofrestru, yr ardal (gwledig/dinesig) ac anghenion iechyd y boblogaeth yn amrywio. Mewn practisau meddygon teulu mwy, bydd nyrsys ymarfer cyffredinol yn ffurfio rhan o dîm nyrsio mawr a allai gynnwys uwch-ymarferwyr nyrsio, ymarferwyr nyrsio, nyrsys sy’n meddu ar sgiliau estynedig, nyrsys yr ystafell driniaeth sy’n rhannu dyletswyddau a’u dirprwyo i weithwyr cymorth gofal iechyd. Gall Nyrsys Ymarfer Cyffredinol hefyd gynorthwyo’r broses o hyfforddi fferyllwyr, myfyrwyr meddygol, Cofrestryddion meddygon teulu ac weithiau myfyrwyr nyrsio cyn-cofrestru. Mae Nyrsys Ymarfer Cyffredinol yn rhan bwysig o hybu iechyd, addysgu cleifion a rheoli clefydau cronig, iechyd menywod, imiwneiddio plant ac oedolion, cynnal asesiadau iechyd teithio ac imiwneiddio, gofalu am glwyfau, sytoleg, adolygu a rhoi cyngor ar ddulliau atal cenhedlu a llawer mwy.

Gwelwyd fod rôl yr uwch-ymarferydd nyrsio yn un fedrus iawn o fewn ymarfer cyffredinol, gan weld cleifion, drwy system frysbennu, yn eu cartrefi ble y byddant yn asesu ac yn gwneud diagnosis, yn anfon cleifion i’r ysbyty, yn presgripsiynu, yn trefnu pelydr-x ac ymchwiliadau, yn adolygu canlyniadau ac yn ffurfio rhan hanfodol o’r tîm meddygol ac yn sicrhau eu bod yn ymrwymo i aros ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae Nyrsys Ymarfer Cyffredinol mewn sefyllfa dda i gyflawni gweledigaeth y cynllun Cymru Iachach ar gyfer Gofal Iechyd a Chymdeithasol 2018 yn y dyfodol gan ddefnyddio egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus.
Sut i hyfforddi fel Nyrs Ymarfer Cyffredinol Nursing in Practice (Saesneg yn unig)
Cyhoeddwyd Safonau Gwirfoddol QNI ar gyfer GPNs Newydd ym mis Mai 2020 (Saesneg yn unig)

Cymwyseddau Nyrsys Ymarfer Cyffredinol RCGP
Transition to General Practice Nursing Resource  (Saesneg yn unig)
Disgrifio Rolau Hydref 2017 RCN Cymru (Saesneg yn unig)
Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol RCN Cymru ar gyfer Cymru Iachach 

Fframwaith newydd ar gyfer nyrsys sy'n gweithio o fewn practis cyffredinol
Lansiwyd fframwaith nyrsys practis cyffredinol (GPN) yr wythnos hon i ddarparu cysondeb, strwythur, arweiniad a chyfeiriad i nyrsys practis cyffredinol cofrestredig a'u cyflogwyr. Mae'n rhoi cyngor am rolau, sgiliau a chymwyseddau sy'n galluogi'r safonau uchaf o ymarfer nyrsio ar bob lefel o gymysgedd sgiliau o fewn tîm ymarfer cyffredinol.
https://Fframwaith newydd ar gyfer nyrsys sy'n gweithio o fewn practis cyffredinol
Pecyn Hyfforddiant Ymgynghori o Bell

Nyrs Ardal

Mae nyrsys ardal yn rhan hanfodol o’r tîm gofal iechyd sylfaenol.  Maent yn ymweld â phobl yn eu cartrefi neu mewn cartrefi preswyl, gan ddarparu gofal fwyfwy cymhleth i gleifion a chefnogi aelodau o’r teulu.
Mae nyrsys ardal yn rhan hanfodol o gadw nifer y derbyniadau ac aildderbyniadau i’r ysbyty mor isel â phosibl. 
Mae nyrsys ardal hefyd yn gyfrifol am:

  • Asesu anghenion gofal iechyd cleifion a theuluoedd
  • Cefnogi gofal cymhleth
  • Darparu gofal diwedd oes

Fideo "Here for you" – Yn amlygu rôl Nyrsys ardal sy’n darparu gofal i gleifion.

Gyrfaoedd Iechyd – Nyrs Ardal (Saesneg yn unig)

Straeon go iawn – Nyrs Ardal

Gyrfaoedd Iechyd – Archwilio Rolau (Saesneg yn unig) 

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

Mae Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn gweithio yn yr ysbyty neu mewn lleoliadau cymunedol, megis meddygfeydd meddygon teulu, dan arweiniad gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys.

Mae Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a gaiff ei hyfforddi’n briodol ac sydd ag awdurdod yn aelod hanfodol o dîm gofal sylfaenol amrywiol.  Mae ei rôl yn darparu llawer o botensial i gysylltu’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol a hyrwyddo gweithlu mwy integredig drwy gydgynllunio a hyfforddi gyda’r gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) a Public Health England (PHE) wedi diweddaru’r adnodd proffesiynol Immunisation Knowledge and Skills Competence Assessment Tool (Saesneg yn unig) yn ddiweddar er mwyn cefnogi’r gwaith o hyfforddi ac asesu gweithwyr gofal iechyd cofrestredig ac anghofrestredig sydd â rôl imiwneiddio [Mai 2018].

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant imiwneiddio, fel yr amlinellir yn y safonau a amlygir isod, mae’r RCN a PHE yn argymell yn gryf y dylai ymarferydd gael cyfnod o ymarfer dan oruchwyliaeth pan fydd yn newydd i’r broses er mwyn meithrin sgiliau clinigol a defnyddio ei wybodaeth yn ymarferol. Dylai imiwneiddwyr newydd gael mentor clinigol sy’n gallu eu cynorthwyo i weithio ar y cymwyseddau clinigol sy’n berthnasol i’w hamgylchedd gwaith. Mae’r cymwyseddau yn cysylltu â’r National Minimum Standards and Core Curriculum for Immunisation Training (PHE, 2018) (Saesneg yn unig) a National Minimum Standards and Core Curriculum for Immunisation Training of Healthcare Support Workers (PHE, 2015). (Saesneg yn unig)

Stori go iawn – Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd 

Gyrfaoedd Iechyd – Archwilio Rolau (Saesneg yn unig)

Bu i Lywodraeth Cymru a’i bartneriaid ddatblygu Sgiliau GIG Cymru a Fframwaith Datblygu Gyrfaoedd ar gyfer Atebion Iechyd Cymru (HSW) clinigol ac mae’n archwilio’r posibilrwydd o ymestyn ei gwmpas i staff anghlinigol.

 

 

Diweddarwyd 15/11/21