Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau pennu cyfeiriad 2020-2022

 

Bwrdd Iechyd

Teitl y prosiect

Disgrifiad o’r prosiect

Bwrdd Iechyd
Aneurin Bevan
Yr Academi - menter gofal sylfaenol ar y cyd sy'n gweithio gyda Nyrsio a Fferylliaeth. Ceir dwy ran i’r academi, sef nyrsio a fferylliaeth sy’n cydweithio er mwyn rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud ag adnoddau ar draws gofal sylfaenol
Bwrdd Iechyd
Betsi Cadwaladr
Parafeddygon Uwch-ymarfer: Datblygu’r Cylchdro Gofal Sylfaenol

Bydd y Prosiect yn ceisio rhoi sylw i ba mor hyfyw yw’r dull cylchdro estynedig o ddarparu gofal gan ddefnyddio Parafeddyg Uwch-ymarfer (APP) Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn gofal sylfaenol.

Bwrdd Iechyd
Betsi Cadwaladr
Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Creu gweithlu medrus sy’n diwallu anghenion y boblogaeth.

Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro Sefydlu’r broses o Wella Ansawdd mewn Gofal Sylfaenol

Bydd y cynllun yn darparu cymorth gweithredol i Arweinydd Gwella Ansawdd Ymarfer Cyffredinol (sy’n cael ei recriwtio yng Nghaerdydd a’r Fro ar hyn o bryd) er mwyn sefydlu prosesau gwella ansawdd pellach mewn lleoliadau Gofal Sylfaenol ar draws BIP Caerdydd a’r Fro. 

Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro Academi Gofal Sylfaenol

Nod y cynllun yw cynorthwyo gweithwyr tîm amlddisgyblaethol proffesiynol cymwysedig i bontio i leoliad gofal sylfaenol, drwy drosglwyddo gwybodaeth, profiad a sgiliau cyfredol (a gafwyd mewn lleoliad nad yw’n ofal sylfaenol) drwy ddilyn rhaglen hyfforddi a mentora drylwyr am gyfnod o flwyddyn mewn practis gwasanaethau meddygol cyffredinol.

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg Model Ymarfer Hyfforddi Uwch Prif Ganolfan a Lloerennau

Ceir dwy elfen i’r cynllun hwn, gyda’r elfen gyntaf yn canolbwyntio ar gysylltu nyrsys cyn-cofrestru sy’n fyfyrwyr â gofal sylfaenol.

Bwrdd Iechy
Hywel Dda
Rhaglen Cymrodoriaeth Ddeintyddol (Sefydliad ôl-Ddeintyddol)

Mae’r broses o recriwtio a chadw deintyddion y GIG, yn arbennig mewn rhai ardaloedd mwy gwledig BIP Hywel Dda, yn un heriol ac yn effeithio ar gyfraddau mynediad cyffredinol, er gwaethaf pob ymdrech i wella mynediad drwy gomisiynu gweithgareddau ychwanegol.

Bwrdd Iechy
Hywel Dda
Sefydlu Prosesau Gwella Ansawdd mewn Gofal Sylfaenol

Bydd y cynllun yn darparu pedair sesiwn bob wythnos er mwyn i Arweinydd Clinigol Gwella Ansawdd allu sefydlu prosesau gwella ansawdd pellach mewn lleoliadau gofal sylfaenol ar draws BIP Hywel Dda. 

Bwrdd Iechy
Hywel Dda
Yr Academi Fferylliaeth

Caiff carfan o 2 fferyllydd band saith eu recriwtio, a bydd yr aelodau hyn o staff yn dilyn rhaglen dwy flynedd a chânt eu cylchdroi rhwng gofal eilaidd, fferylliaeth gymunedol a gofal sylfaenol a byddant hefyd yn cwblhau cymhwyster Presgripsiynwyr Annibynnol.

Bwrdd Iechy
Hywel Dda
Gwasanaeth Ychwanegol gan Yrwyr sy’n Danfon Nwyddau Fferyllfa

Monitro, cynnig rhywfaint o gymorth ac atgyfeirio cleifion sy’n agored i niwed, yn gaeth i’r tŷ, prin yn gallu symud, sy’n byw yn eu cartrefi ac sy’n derbyn meddyginiaeth ar bresgripsiwn i’r cartref fel rhan o wasanaeth y Fferyllfa Gymunedol.

Bwrdd Iechy
Hywel Dda
Rhaglen Datblygu Gofal Sylfaenol Cydymaith Meddygol

Y cynllun: Bydd yr Academi Cydymaith Meddygol yn caniatáu i feddygon gymryd rhan mewn dulliau ymarfer Gofal Sylfaenol ac Eilaidd gan edrych arnynt drwy bersbectif gwahanol: clinigydd, addysgwr a swyddog gwella gwasanaethau gan ddibynnu ar eu cam datblygu personol.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Rhag-gynllunio gofal estynedig ar gyfer ardaloedd gwledig ac anghysbell

Darparu asesiad teg a phecyn gofal priodol i gleifion hŷn sy’n byw’n annibynnol mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell er mwyn lleihau’r nifer a gaiff eu cyfeirio i Ward Rithwir, lleihau cyfnodau acíwt o fod angen gofal brys yn y feddygfa a lleihau derbyniadau brys i’r ysbyty.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Rhaglen Datblygu Gofal Sylfaenol Cydymaith Meddygol

Y bwriad yw sefydlu rhaglen ddatblygu i gefnogi meddygon sy’n awyddus i weithio mewn lleoliad Gofal Sylfaenol.

Bwrdd Iechyd Bae Abertawe (yn gweithio gyda 1000 o Fywydau ac Iechyd Cyhoeddus Cymru) Hwyluso’r broses o Wella Gofal Sylfaenol

Mae’r broses o wella ansawdd gofal iechyd yn ymwneud â sicrhau bod gofal iechyd yn fwy diogel, yn fwy effeithiol, yn canolbwyntio ar y person, yn amserol, yn effeithiol ac yn deg.

Bwrdd Iechyd Bae Abertawe (yn gweithio gyda 1000 o Fywydau ac Iechyd Cyhoeddus Cymru) Rhaglen Interniaeth Uwch Ymarferwyr Nyrsio (ANP) a Nyrsys Practis Meddygol (GPN) Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Bydd yr interniaeth Uwch Ymarferwyr Nyrsio (ANP) a Nyrsys Practis Meddygol (GPN) Gofal Sylfaenol a Chymunedol BIP Bae Abertawe newydd hwn yn ceisio targedu ANP newydd gymhwyso neu ANP sy’n gweithio mewn Gofal Eilaidd ar hyn o bryd ac sy’n awyddus i weithio mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol.