Mae Iechyd Cyn-filwyr – Canllawiau ar gyfer Practisiau Cyffredinol, 2023 yn darparu manylion am y ddyletswydd ar holl bractisiau cyffredinol yng Nghymru i ddarparu gofal, atgyfeirio a/neu gyfeirio unrhyw gyn-filwr neu aelod o deulu cyn-filwr sydd wedi’i gofrestru â’r practis at wasanaethau perthnasol lle bo hynny’n briodol.
Cliciwch yma i gael mynediad at y canllawiau.
Diffinnir cyn-filwr yn gyffredin fel y canlynol:
‘Unrhyw un sydd wedi gwasanaethu Lluoedd Arfog y DU yn y gorffennol, y Lluoedd arferol (gan gynnwys y Gwasanaeth Cenedlaethol neu’r Gwarchodlu Cartref) neu’r Lluoedd Wrth Gefn / Lluoedd Cynorthwyol, y Môr-filwyr Mercantilaidd mewn dyfroedd gelyniaethus; Lluoedd Heddlu Sifil y Cynghreiriaid; llawn-amser, mewn iwnifform ar gyfer Cymdeithas Cymorth Gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r Lluoedd Arfog yn uniongyrchol; neu fel unigolyn Prydeinig sy’n gwasanaethu o dan orchymyn Prydain yn lluoedd cenedl y cynghreiriaid.’ (The Royal British Legion, 2014)
Yn gyffredinol, mae anghenion gofal iechyd yr aelodau sy’n gwasanaethu’r Lluoedd Arfog yn cael eu diwallu gan feddygon teulu milwrol yn eu priod wasanaeth (h.y. y Llynges Frenhinol, y Fyddin, yr Awyrlu Brenhinol), ac felly ni fyddent fel arfer yn cofrestru â meddyg teulu fel sifiliaid bob dydd.
Unwaith y bydd unigolyn yn gadael y Lluoedd Arfog ac yn dod yn gyn-filwr, bydd angen iddo/iddi gofrestru â phractis cyffredinol i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol, ynghyd â’i deulu/ei theulu.
Mae gan holl gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yr hawl i dderbyn mynediad â blaenoriaeth at ofal y GIG (gan gynnwys gofal yn yr ysbyty, gofal sylfaenol neu ofal yn y gymuned) ar gyfer unrhyw gyflyrau (meddyliol a chorfforol) sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â’u gwasanaeth milwrol (sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth) neu’n deillio ohono.