Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio

Cyflwyniad

Mae sgrinio yn broses ar gyfer nodi pobl yr ymddengys eu bod yn iach y mae’n bosibl bod risg mwy y byddant yn dioddef o glefyd neu gyflwr. Yna, gellir cynnig gwybodaeth, rhagor o brofion a thriniaeth briodol (yn gynnar yn ddelfrydol) iddynt i leihau’r risg a/neu’r tebygrwydd y bydd cymhlethdodau’n codi o’r clefyd neu’r cyflwr hwnnw. Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru yn penderfynu pa raglenni sgrinio a ddarperir yng Nghymru; maent oll yn seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio cyfres sefydledig o feini prawf ar gyfer gwerthuso hyfywedd, effeithiolrwydd a phriodoldeb rhaglen sgrinio.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu saith o raglenni sgrinio ar sail y boblogaeth ledled Cymru, ac yn cyd-drefnu’r rhwydwaith clinigol a reolir i Gymru gyfan ar gyfer sgrinio cynenedigol. Mae’r rhaglenni hyn naill ai’n rhai atal sylfaenol gyda’r bwriad o leihau’r achosion o glefydau (e.e. sgrinio serfigol), neu’n rhai atal eilaidd gyda’r bwriad o gael diagnosis cynnar er mwyn lleihau effaith y clefyd (e.e. sgrinio’r fron). Mae strategaeth hirdymor ICC yn ceisio cynyddu atal clefydau ac ymyrraeth gynnar drwy ddulliau i gynnal a gwella’r ffocws ar raglenni sgrinio cenedlaethol ar sail y boblogaeth. Pan fydd clefyd yn cael ei ganfod, bydd y llwybrau gofal yn ddi-dor. Mae pob un o’r rhaglenni sgrinio yn cael eu darparu ar draws y GIG ar sail eu cynulleidfa darged. I gael rhagor o wybodaeth, data defnyddio ar lefel y clystyrau, a’r negeseuon allweddol o fewn pob rhaglen, cliciwch ar y graffig ar gyfer rhaglen berthnasol isod:

Pam mae sgrinio’n bwysig i glystyrau?

Mae rôl bwysig sgrinio eisoes wedi’i gydnabod yn dda mewn nifer o gynlluniau clystyrau ac mae hyn yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer rhoi blaenoriaeth i weithgaredd gwella yn y maes hwn, gan gynnwys:

Mae Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (Llywodraeth Cymru 2018; dolen)

yn amlygu’r angen i symud tuag at fwy o atal ac ymyrraeth gynnar.

Mae’r Cynllun cyflawni canser ar gyfer Cymru 2016–2020 (dolen) yn cydnabod rôl y rhaglenni sgrinio

(ynghyd â gwaith atal wedi’i dargedu a mynediad teg i ofal) o ran cynorthwyo i leihau’r amrywiaethau

economaidd-gymdeithasol a daearyddol mewn canlyniadau canser; mae hefyd yn nodi’r angen i gynyddu’r

niferoedd sy’n cael eu sgrinio. 

Mae’r data ynghylch nifer y rheini sy’n cael eu sgrinio / data cwmpas ar gyfer nifer o raglenni sgrinio, sy’n adlewyrchu cyfraniad gofal sylfaenol, yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru fel rhan o ddangosyddion gwella ansawdd y Mesurau Gofal Sylfaenol. (dolen).

Mae’r llif gwaith Atal a llesiant o fewn y Rhaglen Strategol Genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn cynnwys yr amcan o leihau’r amrywiaeth rhwng clystyrau a gwneud gwelliannau cyffredinol i nifer y rheini sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni brechu a sgrinio. Cynghorir y clystyrau i adolygu nifer y rheini sy’n cael eu sgrinio fel rhan o’r Cynllun Tymor Canolig Integredig ac ystyried y rhesymau dros yr amrywiadau rhwng practisau o fewn y clwstwr, gan ddysgu o arferion da a chefnogi’r rheini gyda nifer llai o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglenni.  

Beth y gall clystyrau ei wneud i helpu i wella y niferoedd sy’n cael eu sgrinio?

Gall camau gweithredu eang i wella ar lefel clystyrau gynnwys un neu fwy o’r pwyntiau a ganlyn i’w cynnwys yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr:

  • Gwneud i bob cysylltiad gyfrif drwy ofyn ar bob cyfle ynghylch a yw rhywun wedi cymryd rhan mewn rhaglen sgrinio
  • Codi ymwybyddiaeth y staff o raglenni sgrinio
  • Codi ymwybyddiaeth o sgrinio ymhlith y cleifion sy’n ymweld â phractisau meddygon teulu
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch rhaglenni sgrinio
  • Adolygu’r data ar nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio a chysylltu hyn â nifer yr achosion o ganser
  • Sicrhau ymwybyddiaeth o’r canllawiau NICE sy’n ymwneud â rôl fferyllfeydd cymunedol mewn hyrwyddo iechyd a llesiant, a’u bod yn cael eu rhoi ar waith (dolen)
  • Ystyriwch fabwysiadu'r hyn a ddysgwyd o weithredu camau gweithredu gwella sy’n gysylltiedig â sgrinio mewn clysytrau neu bractisau eraill ledled Cymru
  • Ymgysylltwch â phoblogaeth eich clwstwr er mwyn ystyried unrhyw farn gymunedol ynghylch unrhyw rwystrau neu hwyluswyr cymunedol i fynediad i sgrinio.
  • Nodwch asedau neu gyfleoedd partneriaeth lleol perthnasol allai helpu i hyrwyddo sgrinio
  • Ystyriwch a oes angen unrhyw ddata lleol ychwanegol i helpu i hysbysu penderfyniad ynghylch camau gweithredu ar gyfer gwella sydd o’r gwerth gorau.
  • Ar gyfer sgrinio canser y coluddyn, sicrhewch annogaeth rheolaidd gan feddygon teulu i annog pobl i gael eu sgrinio
  • Ar gyfer sgrinio am ganser serfigol, adolygwch y mynediad i apwyntiadau sgrinio serfigol
    Mae nifer o’r clystyrau’n rhannu data ynghylch nifer y rheini sy’n cael eu sgrinio gan bractisau meddygon teulu o fewn eu clwstwr er mwyn nodi’r hyn a ddysgwyd a’r arferion gorau.

     

 

Pa gymorth sydd ar gael i glystyrau i wella’r niferoedd sy’n cael eu sgrinio?

Mae cymorth ar gael i helpu i sicrhau bod sgrinio’n cael ei ystyried i’w gynnwys ym mhob clwstwr a chynllun tymor canolig integredig. Mae’r offeryn Asesiad o Anghenion Gofal Sylfaenol (AAGS) (dolen) yn darparu data ynghylch nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio a manylion/cyfeiriadau pellach ynghylch y camau gweithredu uchod ar gyfer gwella’r nifer sy’n cael sgrinio eu coluddyn (dolen), eu bronnau (dolen) a’u serfics (dolen). Mae’n bosibl y bydd cyngor tebyg i glystyrau yn cael ei ychwanegu ar gyfer rhaglenni sgrinio eraill wrth i’r offeryn ddatblygu.
Gall Tîm Ymgysylltu â Sgrinio Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnig:

  • Data ar nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio ar lefel clystyrau, awdurdodau lleol a byrddau iechyd—wedi’u diweddaru bob blwyddyn ac ar gael o wefan pob rhaglen fel uchod
  • Cefnogaeth i glystyrau sydd â nifer isel o bobl sy’n cael eu sgrinio, gan ddarparu gwybodaeth am fentrau ar sail tystiolaeth sydd wedi’u hanelu at leihau anghydraddoldebau ac annhegwch o ran nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio a’r canlyniadau, ochr yn ochr â gwella dewis a sgrinio ar sail gwybodaeth. 
  • Adnoddau gan gynnwys gwybodaeth hygyrch, er enghraifft, ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu (y gellir eu lawrlwytho o wefannau’r rhaglenni)
  • Mae adroddiadau ar nifer y rheini sy’n cael eu sgrinio ar gyfer practisau meddygon teulu penodol a fersiynau copi caled ar gyfer rhai adnoddau ar gael hefyd.
    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio drwy screening.feedback@wales.nhs.uk.
    Mae timau iechyd cyhoeddus lleol wedi’u lleoli o fewn pob bwrdd iechyd, ac mae’n bosibl eu bod mewn sefyllfa i gefnogi clystyrau gyda mynediad i gyngor iechyd cyhoeddus; cyngor ar ddatblygu cynlluniau; cyngor ar roi camau gweithredu ar waith; a chyngor gwerthuso ynghylch camau gweithredu gwella arfaethedig. Fel arfer, mae gan y timau arweinydd sgrinio a enwir. Ceir gwybodaeth am y timau yn y saith bwrdd iechyd isod:
  • Mae’n bosibl bod adnoddau hyrwyddo penodol ar gyfer y rhaglenni ar gael ar wefannau’r rhaglenni unigol neu drwy’r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio.
  • Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (GBCG) (hyd at lefel 1), gweler yma [mae angen system Cofnodion Staff Electronig neu ddull arall o fewngofnodi / cofrestru]. I weld y cysylltiadau hyfforddiant GBCG fesul bwrdd iechyd, ewch yma [mewnrwyd].
  • Mae cyngor i glystyrau sy’n gysylltiedig â nifer yr achosion o ganser (dolen) a pha mor gyffredin yw (dolen) ar gael fel rhan o’r offeryn Asesiad o Anghenion Gofal Sylfaenol.
  • Mae amrywiaeth eang o gynnyrch gwybodaeth am ganser ar gael drwy wefan Uned Deallusrwydd a Gwyliadwraeth Canser Cymru (dolen).
  • Mae’r tudalennau Canser Gofal Sylfaenol, gan gynnwys y Pecyn Cymorth Ansawdd Canser ar gyfer Gofal Sylfaenol, yn cael eu cyflwyno gan Macmillan.
    Diolchiadau: Cafwyd mewnbwn ar gyfer y dudalen hon gan Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Is-adran Gofal Sylfaenol, a thimau iechyd cyhoeddus lleol mewn byrddau iechyd. Rhoddwyd y cyfle i Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol adolygu cynnwys y tudalennau drafft.