Pam mae atal clefydau heintus yn bwysig i’r clystyrau?
Mae lleihau baich clefydau trosglwyddadwy y gellir ei atal a chefnogi’r ymateb acíwt i achosion o’r clefydau hyn o fudd i bawb ohonom. Mae rôl bwysig brechu eisoes wedi’i chydnabod yng nghynlluniau nifer o glystyrau ac mae hyn yn adlewyrchu cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer gwella yn y maes hwn, gan gynnwys:
- Mae Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (Llywodraeth Cymru 2018; dolen) yn amlygu’r angen am newid tuag at fwy o waith atal ac ymyrraeth gynnar.
- Mae nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni brechu yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru fel rhan o Fframwaith Cyflawni a Chanllawiau Adrodd GIG Cymru 2019-2020 (dolen) ac, i adlewyrchu’r cyfraniad gofal sylfaenol, drwy ddangosyddion gwella ansawdd y Mesurau Gofal Sylfaenol (dolen).
- Mae’r llif gwaith Atal a llesiant o fewn y Rhaglen Strategol Genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn cynnwys yr amcan o leihau’r amrywiaeth rhwng clystyrau a gwneud gwelliannau cyffredinol i’r nifer sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni brechu a sgrinio. Cynghorir y clystyrau i adolygu’r nifer sy’n cael eu brechu fel rhan o Gynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr ac ystyried y rhesymau dros yr amrywiadau rhwng practisau o fewn y clwstwr, gan ddysgu o arferion da a chefnogi’r rhai lle mae niferoedd llai o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglenni.
Beth yw’r blaenoriaethau gwella?
- Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol weithgareddau ar y cyd sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r Rhaglen Wella Genedlaethol e.e. mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran y niferoedd sy’n cael y brechiad rhag y ffliw ymysg y rhai dros 65 oed mewn grwpiau risg.
Beth y gall y clystyrau ei wneud i helpu i wella’r niferoedd sy’n cael eu brechu?
Gall camau gweithredu eang i wella ar lefel clystyrau gynnwys un neu fwy o’r pwyntiau a ganlyn i’w cynnwys yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr:
- Gwneud i bob cyswllt gyfrif drwy ofyn ar bob cyfle ynghylch bwriad person i gael ei frechu
- Cynllunio i gefnogi arferion da o fewn pob practis clwstwr
- Dysgu o bractisau sydd â niferoedd mawr o bobl sy’n cael eu brechu a chefnogi practisau sydd â niferoedd bach
- Gwella ansawdd data lleol
- Ar gyfer brechiadau i blant, sicrhau bod plant cyn oedran ysgol nad ydynt wedi cael eu himiwneiddio’n rheolaidd yn cael eu brechu
- Sicrhau bod imiwneiddio plant o oedran ysgol yn cael ei ddarparu mewn modd cyson
- Defnyddio adnoddau e-ddysgu i rymuso staff practisau i annog pobl i gael eu brechu
- Ar gyfer brechu rhag y ffliw, cymryd rhan yng Nghynllun Cymorth Clystyrau y Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal drwy Frechlyn
- Ar gyfer brechu rhag ffliw, nodi a chefnogi cyfraniad fferyllfeydd cymunedol
- Ar gyfer brechu rhag y ffliw, nodi a chefnogi cyfraniad darparwyr gofal iechyd eraill
- Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau a safonau ansawdd NICE a’u bod yn cael eu gweithredu
- Ystyried mabwysiadu yr hyn a ddysgwyd o gamau gwella sy’n gysylltiedig â brechiadau mewn clystyrau neu bractisau eraill ledled Cymru
- Ymgysylltu â phoblogaeth eich clwstwr i ystyried unrhyw farn gymunedol ynghylch rhwystrau neu hwyluswyr lleol o ran cael mynediad i frechiadau
- Nodi’r asedau neu’r cyfleoedd partnerieth lleol perthnasol a allai helpu i hyrwyddo brechiadau
- Ystyried a oes angen data lleol ychwanegol o bosibl i helpu i hysbysu penderfyniad ar gamau gweithredu gwella o’r gwerth gorau.
Mae nifer o glystyrau yn rhannu data ar nifer y bobl sy’n cael eu brechu mewn practisau meddygon teulu o fewn eu clwstwr er mwyn nodi’r hyn a ddysgwyd a’r arferion gorau.
Pa gymorth sydd ar gael i glystyrau i wella’r niferoedd sy’n cael eu brechu?
Mae cymorth ar gael i helpu i sicrhau yr ystyrir bod brechiadau’n cael eu cynnwys yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig pob clwstwr. Mae’r offeryn Asesiad o Anghenion Gofal Sylfaenol (
dolen) yn darparu data ar y niferoedd sy’n cael eu brechu a rhagor o fanylion / cyfeiriadau ynghylch y camau gweithredu gwell uchod ar gyfer nifer y rhai sy’n cael brechiadau ar gyfer y ffliw (
dolen) a’r brechiadau rheolaidd ar gyfer plant (
dolen).
Mae timau iechyd cyhoeddus lleol wedi’u lleoli o fewn pob bwrdd iechyd, ac mae’n bosibl eu bod mewn sefyllfa i gefnogi clystyrau gyda mynediad i gyngor ar iechyd cyhoeddus; cyngor ar ddatblygu cynlluniau; cyngor ar roi camau gweithredu ar waith; a chyngor gwerthuso ynghylch camau gweithredu gwella arfaethedig. Fel arfer, mae gan y timau arweinydd imiwneiddio a enwir. Ceir gwybodaeth am y timau yn y saith bwrdd iechyd isod:
Mae Rhaglenni Diogelu Iechyd ICC yn cynnig y cymorth a ganlyn i glystyrau:
- Dadansoddiad o’r data ar nifer y bobl sy’n cael eu brechu: mae adroddiadau COVER (Cwmpas Brechiadau a Werthusir yn Gyflym) yn darparu data ar lefel clystyrau ynghylch imiwneiddio plant ac mae IVOR (Adrodd Ar-lein Ynghylch y Brechiad Rhag y Ffliw) yn darparu data ar nifer y bobl sy’n cael y brechiad rhag y ffliw ar lefel clystyrau.
- Mae’r Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal drwy Frechlyn yn cydlynu’r camau gwella drwy Grŵp Gweithredu Cenedlaethol ar y Ffliw, gyda chyfres gynhwysfawr o adnoddau ffliw tymhorol yn cael eu darparu i glystyrau a phractisau meddygon teulu pob blwyddyn e.e. fideos, hyfforddiant, taflenni, ac ati.
- Mae’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn cefnogi cydlynwyr imiwneiddio mewn byrddau iechyd neu dimau iechyd cyhoeddus lleol i hyrwyddo nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni brechu ar gyfer y ffliw, rhaglenni brechiadau rheolaidd ar gyfer plant a rhaglenni brechu eraill yn lleol drwy eu gwaith gyda chlystyrau a phractisau meddygon teulu.
- Mae’r strategaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd ar ei newydd wedd yn rhoi pwyslais ar ofal sylfaenol (gan gynnwys darparu data ar lefel clystyrau) ac mae Bwrdd y strategaeth yn goruchwylio ffrwd waith gofal sylfaenol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda chontractwyr gofal sylfaenol unigol yn ogystal ag ar lefel clystyrau. Mae hyn yn cynnwys:
- Darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd clinigol
- Darparu canlyniadau profion microbioleg
- Practisau meddygon teulu sy’n warchodwyr ar gyfer lefelau’r ffliw sydd ar led
- Rhaglenni brechu eraill e.e. yr eryr, lle mae practisau’n gwahodd cleifion i gymryd rhan yn uniongyrchol
- E-fwletinau wythnosol drwy gydol tymor y ffliw
- Mae’r Rhaglen Atal Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn cynhyrchu cyfres gynhwysfawr o adnoddau fideo, posteri, taflenni triniaethau wedi’u targedu, ac ati, ar gyfer gofal sylfaenol i gynorthwyo i ledaenu’r neges ynghylch gwneud defnydd gwell o wrthfiotigau, gan gynnwys gwarcheidwaid gwrthfiotigau. Mae’r Rhaglen hefyd yn datblygu porth ar y we a fydd yn cynnwys data gofal sylfaenol y bydd practisau’n gallu cael mynediad iddynt (cysylltwch â HARP@wales.nhs.uk
- Mae’r timau 1000 o Fywydau, heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac ymwrthedd gwrthfiotig yn cydweithio â chartrefi gofal ar brosiectau gwella.
|
Cyfeirio at adnoddau dysgu / cymorth arall cysylltiedig
- Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (hyd at lefel 1), gweler yma [mae angen system Cofnodion Staff Electronig neu ddull arall o fewngofnodi / cofrestru]. I weld y cysylltiadau hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif fesul bwrdd iechyd, gweler yma [mewnrwyd].
- FluOne: Gwybodaeth am y modiwl e-ddysgu ar gyfer yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol (dolen; mewnrwyd).
- Mae modiwl e-ddysgu FluTwo yn ddiweddariad clinigol ynghylch y ffliw a’r brechiad rhag y ffliw sy’n addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (dolen; mewnrwyd).
- Crëwyd modiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus ‘Influenza vaccine’ ar gyfer ymarferwyr gofal sylfaenol (dolen).
- Gellir canfod adnoddau hyrwyddo fel posteri, taflenni a sticeri yma.
- Mae adnoddau’r rhaglen ymwrthedd gwrthfiotig yn cynnwys yr adroddiad ‘Antimicrobial usage in Primary care’, sy’n cynnwys data ar lefel clystyrau; adnoddau ymwrthedd gwrthfiotigau ar gyfer gofal sylfaenol (dolen); porth ar y we ar gyfer ymwybyddiaeth o wrthfiotigau (yn cael ei ddatblygu); ac adnoddau ynghylch ymwrthedd i wrthfiotigau ar gyfer y cyhoedd (dolen).
- Mae adnodd clwstwr gwaith archwilio a gwaith gwella ar gyfer cael diagnosis o haint y llwybr wrinol a’i reoli ar gael yma (dolen), sgroliwch i lawr i’r offerynnau Archwilio /Gwella Ansawdd
Diolchiadau: Cafwyd mewnbwn ar gyfer y dudalen hon gan Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Is-adran Gofal Sylfaenol, a thimau iechyd cyhoeddus lleol mewn byrddau iechyd. Rhoddwyd y cyfle i Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol adolygu cynnwys y tudalennau drafft.