Cyflwyniad
Mae sgrinio yn broses ar gyfer nodi pobl yr ymddengys eu bod yn iach y mae’n bosibl bod risg mwy y byddant yn dioddef o glefyd neu gyflwr. Yna, gellir cynnig gwybodaeth, rhagor o brofion a thriniaeth briodol (yn gynnar yn ddelfrydol) iddynt i leihau’r risg a/neu’r tebygrwydd y bydd cymhlethdodau’n codi o’r clefyd neu’r cyflwr hwnnw. Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru yn penderfynu pa raglenni sgrinio a ddarperir yng Nghymru; maent oll yn seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio cyfres sefydledig o feini prawf ar gyfer gwerthuso hyfywedd, effeithiolrwydd a phriodoldeb rhaglen sgrinio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu saith o raglenni sgrinio ar sail y boblogaeth ledled Cymru, ac yn cyd-drefnu’r rhwydwaith clinigol a reolir i Gymru gyfan ar gyfer sgrinio cynenedigol. Mae’r rhaglenni hyn naill ai’n rhai atal sylfaenol gyda’r bwriad o leihau’r achosion o glefydau (e.e. sgrinio serfigol), neu’n rhai atal eilaidd gyda’r bwriad o gael diagnosis cynnar er mwyn lleihau effaith y clefyd (e.e. sgrinio’r fron). Mae strategaeth hirdymor ICC yn ceisio cynyddu atal clefydau ac ymyrraeth gynnar drwy ddulliau i gynnal a gwella’r ffocws ar raglenni sgrinio cenedlaethol ar sail y boblogaeth. Pan fydd clefyd yn cael ei ganfod, bydd y llwybrau gofal yn ddi-dor. Mae pob un o’r rhaglenni sgrinio yn cael eu darparu ar draws y GIG ar sail eu cynulleidfa darged. I gael rhagor o wybodaeth, data defnyddio ar lefel y clystyrau, a’r negeseuon allweddol o fewn pob rhaglen, cliciwch ar y graffig ar gyfer rhaglen berthnasol isod:
|
Pam mae sgrinio’n bwysig i glystyrau?
Mae rôl bwysig sgrinio eisoes wedi’i gydnabod yn dda mewn nifer o gynlluniau clystyrau ac mae hyn yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer rhoi blaenoriaeth i weithgaredd gwella yn y maes hwn, gan gynnwys:
Mae Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (Llywodraeth Cymru 2018; dolen)
yn amlygu’r angen i symud tuag at fwy o atal ac ymyrraeth gynnar.
Mae’r Cynllun cyflawni canser ar gyfer Cymru 2016–2020 (dolen) yn cydnabod rôl y rhaglenni sgrinio
(ynghyd â gwaith atal wedi’i dargedu a mynediad teg i ofal) o ran cynorthwyo i leihau’r amrywiaethau
economaidd-gymdeithasol a daearyddol mewn canlyniadau canser; mae hefyd yn nodi’r angen i gynyddu’r
niferoedd sy’n cael eu sgrinio.
Mae’r data ynghylch nifer y rheini sy’n cael eu sgrinio / data cwmpas ar gyfer nifer o raglenni sgrinio, sy’n adlewyrchu cyfraniad gofal sylfaenol, yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru fel rhan o ddangosyddion gwella ansawdd y Mesurau Gofal Sylfaenol. (dolen).
Mae’r llif gwaith Atal a llesiant o fewn y Rhaglen Strategol Genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn cynnwys yr amcan o leihau’r amrywiaeth rhwng clystyrau a gwneud gwelliannau cyffredinol i nifer y rheini sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni brechu a sgrinio. Cynghorir y clystyrau i adolygu nifer y rheini sy’n cael eu sgrinio fel rhan o’r Cynllun Tymor Canolig Integredig ac ystyried y rhesymau dros yr amrywiadau rhwng practisau o fewn y clwstwr, gan ddysgu o arferion da a chefnogi’r rheini gyda nifer llai o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglenni.
Beth y gall clystyrau ei wneud i helpu i wella y niferoedd sy’n cael eu sgrinio?
Gall camau gweithredu eang i wella ar lefel clystyrau gynnwys un neu fwy o’r pwyntiau a ganlyn i’w cynnwys yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr:
Pa gymorth sydd ar gael i glystyrau i wella’r niferoedd sy’n cael eu sgrinio?
Mae cymorth ar gael i helpu i sicrhau bod sgrinio’n cael ei ystyried i’w gynnwys ym mhob clwstwr a chynllun tymor canolig integredig. Mae’r offeryn Asesiad o Anghenion Gofal Sylfaenol (AAGS) (dolen) yn darparu data ynghylch nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio a manylion/cyfeiriadau pellach ynghylch y camau gweithredu uchod ar gyfer gwella’r nifer sy’n cael sgrinio eu coluddyn (dolen), eu bronnau (dolen) a’u serfics (dolen). Mae’n bosibl y bydd cyngor tebyg i glystyrau yn cael ei ychwanegu ar gyfer rhaglenni sgrinio eraill wrth i’r offeryn ddatblygu.
Gall Tîm Ymgysylltu â Sgrinio Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnig: