Grwpiau Cynllunio Trawsglwstwr (GCTG) yw’r mecanweithiau a ddefnyddir gan gynrychiolwyr clystyrau i ddod at ei gilydd ar ôl troed poblogaeth y sir i gydweithio â chynrychiolwyr byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, arbenigwyr iechyd y cyhoedd, cynllunwyr a chynrychiolwyr y gwasanaethau hynny nad yw Cydweithfeydd Proffesiynol yn briodol ar eu cyfer e.e. gwasanaethau y dylid eu cynllunio ar lefel sirol, bwrdd iechyd/rhanbarthol neu genedlaethol hyd yn oed.
Pwrpas y GCTG yw cyflawni nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (y Ddeddf), Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Cymru Iachach. Mae hyn yn adeiladu ar arfer arloesol presennol ac yn ceisio cynyddu cyfatebiaeth ac ymgysylltiad rhwng trefniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a'r Clwstwr gan ddod â gwasanaethau ynghyd ar lefel leol. Bydd y GCTG yn cael eu sefydlu fel is-grwpiau o Fyrddau Iechyd a byddant yn gweithredu dan nawdd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol [BPRh] gan roi llwybr uniongyrchol ar gyfer rhannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau rhwng gwasanaethau rheng flaen ac arweinyddiaeth strategol.
Bydd GCTG yn cytuno ar asesiad o anghenion poblogaeth y sir ac yn arwain datblygiad cynlluniau integredig ar lefel sirol, gan wneud defnydd doeth o'r holl gyllid, y gweithlu, ac adnoddau eraill a mynd i’r afael ag anghenion iechyd, gofal a llesiant y boblogaeth leol. Mae’n rhaid i asesiad GCTG o anghenion a chynlluniau lywio a chael eu llywio gan asesiadau o anghenion ar lefel ranbarthol (sy’n swyddogaeth statudol y BPRh). Dylid eu hystyried yn gyfres gyfunol o asesiadau a chynlluniau cydgysylltiedig o anghenion. Bydd GCTG yn cefnogi gweithrediad yr agenda partneriaeth ar y cyd, gan gynnwys darparu newid ar amrywiaeth o lefelau, sy'n briodol i'r angen.
Bydd GCTG yn dod ag uwch arweinwyr ynghyd o’r GIG, Awdurdodau Lleol a phartneriaid allweddol yn y Trydydd Sector i ddarparu arweinyddiaeth system integredig sy’n galluogi cydweithio rhwng sefydliadau partner. Bydd y Grwpiau’n cael eu llywio gan adborth cleifion a’r cyhoedd, asesiadau o anghenion yn seiliedig ar ddata ac asesiad proffesiynol o fylchau, rhwystrau a chyfleoedd mewn perthynas â llwybrau gwasanaeth.
Bydd GCTG hefyd yn comisiynu gwasanaethau ac yn datblygu cytundebau i gefnogi gweithio mewn partneriaeth. Bydd cydweithredu lleol cryfach a chydbwrpas yn flaenoriaeth i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol) ac yn cael eu llywio gan strategaethau datblygu sefydliadol lleol. Dylai ymreolaeth leol gynyddu wrth i systemau aeddfedu.
Rolau a chyfrifoldebau
Drwy arwain a goruchwylio ffrydiau gwaith allweddol, bydd aelodau’r GCTG yn:
Nodi meysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer gwella sy'n gofyn am gydweithio cryfach i gyflawni canlyniadau gwell o fewn yr adnoddau sydd ar gael;
Datblygu a chyflwyno cynllun comisiynu ar gyfer yr ardal leol;
Hyrwyddo a “byw” diwylliant sy'n mynd ati i ddileu rhwystrau a seilos o fewn sefydliadau i sicrhau gwasanaethau di-dor i'r boblogaeth leol;
Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol mewn cymunedau, gan gyfeirio'n benodol at grwpiau lleiafrifol a grwpiau ymylol.
Cefnogi gwaith ar y cyd a, lle bo angen, sicrhau awdurdod priodol o fewn eu sefydliadau eu hunain ar gyfer hynny.
Sicrhau bod llywodraeth leol, y GIG a swyddogion y trydydd sector yn gallu gweithio ar y cyd o fewn trefniadau llywodraethu statudol a sefydliadol sy’n darparu fframwaith atebolrwydd clir:
Goruchwylio’r ffordd y mae adnoddau’n cael eu defnyddio, gan gynnwys grantiau perthnasol gan Lywodraeth Cymru;
Datblygu ei gapasiti a’i allu i ddarparu trefniadau llywodraethu effeithiol.
Awdurdodi gwaith ar y cyd a, lle bo angen, cael awdurdod priodol o fewn eu sefydliadau eu hunain ar gyfer hynny.
Aelodaeth
Sefydliad | Rôl |
Awdurdod Lleol | Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol |
Bwrdd Iechyd | Cyfarwyddwr Sir / Ardal |
Cyfarwyddwr Cynllunio | |
Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol | |
Clystyrau [Sirol] | Arweinwyr Cydweithfeydd Clwstwr |
Iechyd Cyhoeddus Cymru | Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus |
BI / ALl | Uwch Nyrs Gymunedol |
Uwch Arweinydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd | |
Arweinwyr Tîm Integredig | |
Y Trydydd Sector | Prif Swyddog Cyngor Gwirfoddol Sirol |
Cyngor Iechyd Cymuned |
Cynrychiolydd Cyngor Iechyd Cymuned |
Sefydliad Partner Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol | Pennaeth Partneriaethau neu berson cyfatebol |
Yn ogystal, bydd rhanddeiliaid ehangach yn bresennol yn y cyfarfod:
Sefydliad | Rôl |
Awdurdod Lleol | Pennaeth Comisiynu ar y Cyd Strategol |
Pennaeth Gofal Oedolion | |
Pennaeth Gwasanaethau Plant | |
Uwch Reolwr Comisiynu Strategol | |
Cynrychiolydd Tai | |
Cynrychiolydd Addysg | |
Bwrdd Iechyd | Rheolwr Cyffredinol - Ysbyty Cyffredinol Dosbarth |
Rheolwr Cyffredinol – Cymuned | |
Iechyd Meddwl / Anabledd Dysgu | |
Gwasanaethau Plant | |
Pennaeth Gofal Sylfaenol |
Dylid comisiynu ar sail egwyddorion y cytunwyd arnynt:-
Deall anghenion defnyddwyr a chymunedau drwy ymgysylltu'n effeithiol a chynhwysfawr;
Ymgynghori â sefydliadau cyflawni posibl a rhai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rhai o’r trydydd sector, ac arbenigwyr lleol ymhell cyn comisiynu gwasanaethau newydd, gan weithio gyda nhw i bennu canlyniadau sy'n flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth hwnnw;
Rhoi canlyniadau i ddefnyddwyr wrth galon y broses gynllunio strategol;
Mapio’r ystod lawnaf bosibl o ddarparwyr gyda'r nod o ddeall y cyfraniad y gallent ei wneud i gyflawni’r canlyniadau hynny;
Buddsoddi yn natblygiad y darparwyr,
Sicrhau bod prosesau contractio yn dryloyw ac yn deg, gan hwyluso cyfranogiad yr ystod ehangaf o gyflenwyr
Sicrhau contractau hirdymor a rhannu risg, lle y bo’n briodol, fel ffyrdd o sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a
Gofyn am adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, cymunedau a darparwyr er mwyn adolygu effeithiolrwydd y broses gomisiynu o ran diwallu anghenion lleol.
Cyllid
Canllaw Ariannol Clystyrau Gofal Sylfaenol
Cylchlythyr Iecyd Cymru WHC (2018)
Gwrthdaro buddiannau
Gwrthdaro buddiannau
Arweinyddiaeth and Datblygiad Sefydiadol
Arweinyddiaeth / Datblygu Sefydliadol
Mae'r enghraifft o Gylch Gorchwyl yn cynnwys:
Llywodraethu
DCC Cefnogi Llywodraethu (Papur enghreifftiol ar gyfer defnydd ar draws y bwrdd iechyd)
Mae'r papur yma wedi ei ysgrifennu er mwyn darparu fframwaith i Fyrddau Iechyd ei ddefnyddio, fel eu bod yn gallu cyfleu'r berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd, Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr a Chlystyrau yn glir. Bydd hyn yn caniatáu i'r Bwrdd Iechyd, maes o law, fod yn hyderus wrth arfer swyddogaethau cynllunio, comisiynu a dirprwyo / cymeradwyo adnoddau.
Mae'r papur hwn yn nodi'r egwyddorion llywodraethu allweddol, deddfwriaeth gyffredinol ac awgrymiadau llywodraethu i'w hystyried gan fyrddau iechyd wrth ddatblygu a gweithredu'r dulliau cynllunio a chyflawni sy'n cael eu disgrifio yn y rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam.
Gwneud penderfyniadau
Bydd aelodaeth y GCTG, y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn cael eu hadolygu'n flynyddol. Bydd yr aelodaeth yn cytuno ar y cadeirydd ond disgwylir y bydd y Cadeirydd yn cylchdroi bob dwy flynedd.
Bydd swyddogaeth, pwrpas, aelodaeth a threfniadau llywodraethu’r GCTG yn cael eu hadolygu’n flynyddol a’r Cylch Gorchwyl yn cael ei newid yn unol â hynny.
Efallai y bydd angen a nodwyd i gynnal adolygiad ar adegau eraill yn unol â gweithredu diwygiadau polisi cenedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol a chanllawiau dilynol.
Map o'r GCTG
Map o'r GCTG
DCC: Egwyddorion Sut Beth yw Da
DCC: Egwyddorion Sut Beth yw Da