Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.
A. Cyd-destun strategol
Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol). Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.
- Ysmygu yw'r prif ffactor risg ymddygiadol sy'n cyfrannu at flynyddoedd oes wedi'u haddasu gan anabledd y gellir eu hosgoi (DALY). (Saesneg yn unig)
- Mae ysmygu yn gyfrifol am dros 40% o flynyddoedd oes wedi'u haddasu gan anabledd (DALY) oherwydd canser (neoplasmau) a dwy ran o dair o’r risg y gellir ei briodoli i flynyddoedd oes wedi'u haddasu gan anabledd (DALY) oherwydd clefyd anadlol cronig (Health and its determinants in Wales; PHW 2018). (Saesneg yn unig)
- Mae ysmygu i gyfrif am tua thraean o gyfanswm yr anghydraddoldebau mewn marwolaethau rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru 2012). (Saesneg yn unig)
- Mae Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (LlC 2018) yn tynnu sylw at yr angen i symud tuag at fwy o ataliaeth ac ymyrraeth gynnar.
- Mae lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu er mwyn lleihau baich clefydau y gellir eu hosgoi wedi’i nodi fel blaenoriaeth ar y cyd i Gyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ledled Cymru.
- Cymru Ddi-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco (LlC 2022). Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon o gael Cymru ddi-fwg, byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith ar draws ein tair thema allweddol, sef Lleihau Anghydraddoldebau, Cenedlaethau’r Dyfodol a Dull System Gyfan ar gyfer Cymru Ddi-fwg.
- Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (LlC 2017) (Saesneg yn unig) yn bwriadu dad-normaleiddio ysmygu a chyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus; gan fod nicotin yn hynod gaethiwus, mae angen cymorth ar lawer o ysmygwyr i roi'r gorau iddi.
- Mae'r galw mewn gofal sylfaenol hyd at 34% yn uwch ymhlith ysmygwyr. Mae hyn yn golygu, ar gyfer y practis cyffredin bob blwyddyn, hyd at 142 o apwyntiadau ychwanegol gyda meddygon teulu a hyd at 570 o apwyntiadau nyrs neu ymarferydd nyrsio ychwanegol.
- Adroddir ar ddangosyddion ar gyfer y pwnc hwn drwy Fesurau Gofal Sylfaenol a Fframwaith Cyflawni GIG Cymru
B. Dadansoddiadau data
Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.
- Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
- Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
- Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.
- Math o boblogaeth: Mae poblogaeth gofrestredig fel arfer yn cynnwys echdynnu data o systemau clinigol meddygon teulu, wedi'i agregu o lefel practis. Mae data ar boblogaethau preswyl fel arfer yn dod o ffynhonnell anghlinigol, y gellir ei agregu i unedau daearyddol mwy. Llwyd = ddim ar gael.
- Ôl Troed: Gall data ar ôl troed llai fod yn fwy disgrifiadol o statws lleol, ond yn llai sicr oherwydd niferoedd llai. Er ei fod yn fwy cadarn ar y cyfan, gall data ar ôl troed mwy guddio amrywiadau lleol pwysig. Llwyd = ddim ar gael.
C. Camau gwella
Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.
Adolygwyd gan: VT/BM | Dyddiad adolygu: 27/06/22 | Côd pwnc: BFR-001