Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau/ safonau ansawdd NICE a'u rhoi ar waith
Mae Chronic obstructive pulmonary disease in over 16s: diagnosis and management (NG115) (Saesneg yn unig) yn trafod gwneud diagnosis a rheoli clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint neu COPD (sy'n cynnwys emffysema a broncitis cronig) mewn pobl 16 oed a hŷn; ei nod yw helpu pobl â COPD i gael diagnosis yn gynt fel y gallant elwa o driniaethau i leihau symptomau, i wella ansawdd bywyd a'u cadw'n iach am gyfnod hwy.
Mae Chronic obstructive pulmonary disease in adults (QS10)(Saesneg yn unig) yn trafod asesu, gwneud diagnosis a rheoli clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD); mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella sydd â blaenoriaeth.
Mae Smoking: supporting people to stop (QS43)(Saesneg yn unig) yn trafod rhoi cymorth i bobl roi'r gorau i ysmygu; mae'n cynnwys atgyfeirio i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu a thriniaethau i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.
Mae Chronic obstructive pulmonary disease (acute exacerbation): antimicrobial prescribing (NG114)(Saesneg yn unig) yn nodi strategaeth rhagnodi gwrthficrobaidd ar gyfer gwaethygiadau aciwt o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD); ei nod yw gwneud y defnydd gorau o wrthfiotigau ac i leihau ymwrthedd i wrthfiotigau.
Mae Air pollution: outdoor air quality and health (NG70)(Saesneg yn unig) yn trafod llygredd aer sy'n gysylltiedig â thraffig ffordd a'i gysylltiadau ag afiechyd; ei nod yw gwella ansawdd aer a thrwy hynny atal amrywiaeth o gyflyrau iechyd a marwolaethau.
Mae Air pollution: outdoor air quality and health (QS181)(Saesneg yn unig) yn trafod llygredd aer sy'n gysylltiedig â thraffig ffordd a'i effaith ar iechyd; mae'n disgrifio camau gweithredu o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella sydd â blaenoriaeth.