Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio gwrthfiotigau’n gyfrifol ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys gweithgaredd y telir amdano a gweithgaredd organig ar y cyfryngau cymdeithasol, deunydd gan ddylanwadwyr wedi'i anelu at gynulleidfaoedd ifanc, ac ymgysylltu â'r cyfryngau a rhanddeiliaid.
Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr eich cymorth i rannu ein negeseuon.
Gallwch lawrlwytho ein hasedau ymgyrchu, gan gynnwys testun a delweddau ar gyfer negeseuon cyfryngau cymdeithasol, poster y gellir ei argraffu a delwedd sgrin ddigidol, yma: Llyfrgell Asedau Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gellir rhannu'r rhain hefyd ar sgriniau meddygfeydd ac ati; i godi ymwybyddiaeth o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.
Dyma'r wefan: https://icc.gig.cymru/ymwrthedd-gwrthfiotig
Mae gweminarau ac adnoddau eraill ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gael gan AaGIC yma: https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/ymgyrchoedd-ymwybyddiaeth/ymwrthedd-a-stiwardiaeth-gwrthficrobaidd/