Mae’r Cynllun bellach ar agor ar gyfer blwyddyn 4 a 5 ar ôl 3 blynedd lwyddiannus.
Mae'n gyflym ac yn hawdd cychwyn arni. Yn syml, ewch i'r wefan hon Log in - SOS-UK, crëwch gyfrif am ddim, a phorwch drwy ein detholiad o gamau gweithredu sy'n ystyriol o'r hinsawdd a ddewiswyd yn ofalus. Chi sy'n dewis pa gamau i'w rhoi ar waith, sawl un ac ym mha drefn, a phan fyddwch wedi gorffen byddwch yn derbyn gwobr genedlaethol i gydnabod eich gwaith caled a'ch ymroddiad.
Os ydych yn dîm sy'n dychwelyd o flynyddoedd blaenorol, ni allwn aros i'ch croesawu'n ôl a'ch cefnogi i gyflawni hyd yn oed mwy o gamau gweithredu sy'n ystyriol o'r hinsawdd.
Ar gyfer 2025, rydym wedi datblygu'r Cynllun mewn ymateb i adborth gan dimau, fel bod cyfnod estynedig o 2 flynedd bellach i roi camau gweithredu ar waith er mwyn ennill gwobr, yn hytrach na'r 1 flwyddyn flaenorol.