Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r her iechyd a lles sy’n effeithio annheg ar y Cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma, a chlywed wrth wasanaethau yng Nghymru sy’n cefnogi’r cymunedau hyn i dderbyn gofal iechyd gan gynnwys galluogi mynediad i Wasanaethau Gofal Sylfaenol.
Mae unigolion o gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn dioddef canlyniadau iechyd gwaeth i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, ond eto maent yn wynebu rhwystrau annheg ac y gellir eu hosgoi wrth geisio cael gofal iechyd a chymorth. Bydd y weminar hon yn dod â siaradwyr ynghyd i rannu mewnwelediad ac arferion gorau wrth fynd i’r afael ag anghenion pobl Sipsiwn, Teithwyr a Roma.
Defnyddiwch y ddolen i gofrestru, ac yna anfonir gwahoddiad i ymuno â’r weminar atoch. Mae croeso i chi rannu'r ddolen gofrestru ag eraill - rydym yn croesawu pob sector, ynghyd â phobl â phrofiad o fywyd, i fynychu’r digwyddiad. Cynhelir y sesiwn yn rhithwir ar Teams, a bydd yn cael ei recordio. Diolch am ddangos diddordeb, a gobeithiwn eich gweld ar 28ain o Dachwedd.