Neidio i'r prif gynnwy

Mynd i'r afael ag anghenion iechyd a llesiant Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Mae unigolion sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid yn grŵp agored i niwed sy’n wynebu mwy o risg o iechyd gwael, yn debygol o fod ag anghenion cymhleth ac yn fwy tebygol o fod wedi profi trawma a/neu drais yn eu bywydau. Fodd bynnag, mae'r grŵp hwn yn wynebu rhwystrau annheg y gellir eu hosgoi wrth ddod o hyd i ofal iechyd a chefnogaeth.

Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg o anghenion iechyd a llesiant ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan ddod â siaradwyr ynghyd i rannu mewnwelediad ac arfer gorau ar ddulliau o fynd i'r afael ag anghenion ceiswyr lloches a ffoaduriaid drwy wasanaethau gofal iechyd hygyrch a chynhwysol gan gynnwys gofal sylfaenol. 

Cynhelir y sesiwn yn rhithwir ar Teams a bydd yn cael ei recordio. Diolch am eich diddordeb, ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar 30 Ionawr.

Os na allwch ddod i'r sesiwn ddydd Iau 30 Ionawr ond yr hoffech dderbyn gwybodaeth ar y mater hwn, nodwch hynny ar y ffurflen gofrestru.