Neidio i'r prif gynnwy

Cyfiawnder Troseddol, Iechyd Cyhoeddus, a Gofal Sylfaenol yng Nghymru

Fe'ch gwahoddir i ymuno â ni ddydd Mercher 10fed Gorffennaf rhwng 1pm a 2.30pm ar gyfer gweminar fydd yn trafod:

Cyfiawnder Troseddol, Iechyd Cyhoeddus, a Gofal Sylfaenol yng Nghymru – Cydweithio i sicrhau dilyniant ar draws cyfiawnder a chymuned

Nid yw cyflwr iechyd pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder troseddol cystal â’r boblogaeth gyffredinol, ond maent yn wynebu mwy o rwystrau wrth geisio diwallu eu hanghenion iechyd. Mae parhad gofal rhwng amgylcheddau cymunedol a lleoliadau dan glo yn allweddol i leihau’r risg i rai sy’n perthyn i un o’n poblogaethau mwyaf agored i niwed. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno ymagwedd iechyd cyhoeddus at ofal iechyd sylfaenol a chyfiawnder troseddol, yn ogystal â rhannu tystiolaeth gan broffesiynwyr a phobl sydd â phrofiad bywyd. Bydd hefyd cyfle i gyfrannu at ganllawiau Cymru Gyfan ar barhad gofal i bartneriaid ar draws gofal sylfaenol a chyfiawnder, gan rannu profiad ac arfer gorau, fel y gallwn ni oll gydweithio i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y boblogaeth.

Cynhelir y sesiwn yn rhithwir ar Teams, a bydd yn cael ei recordio.

Diolch am ddangos diddordeb, a gobeithiwn eich gweld ar 10fed Gorffennaf. 

Lawrlwytho'r agenda.

Lawrlwytho'r cyflwyniad.

Gweld y fideo ar Youtube.