Neidio i'r prif gynnwy

Therapyddion Galwedigaethol

Gall Therapyddion Galwedigaethol leihau’r galw ar Feddygon Teulu drwy ymdrin â materion gweithredol sylfaenol sydd wrth wraidd amryw o gysylltiadau a chysylltiadau rheolaidd â’r Practis, a’u datrys.

Gan feddu ar wybodaeth unigryw ac arbenigol i wella eich tîm, sgiliau galluogi ymarferol a sgiliau datrys problemau i gynorthwyo pobl i fyw eu bywydau fel y mynnont, yn ogystal â chwmpas eang o ymarfer sy’n addasu i ymateb i flaenoriaethau poblogaeth eich practis, mae Therapyddion Galwedigaethol yn berffaith ar gyfer Gofal Sylfaenol.

Mae Therapyddion Galwedigaethol eisoes yn llwyddo i weithio mewn amryw o leoliadau Gofal Sylfaenol yng Nghymru a’r DU, gan drawsnewid gwasanaethau a gweithio’n rhagweithiol mewn meysydd megis eiddilwch, presgripsiynu cymdeithasol, hunanreoli cyflyrau cronig, iechyd meddwl ac addasrwydd i weithio.  Drwy wneud hyn, rydym wedi dangos gwerth ychwanegol Therapyddion Galwedigaethol sy’n gweithio fel aelodau craidd o’r tîm Gofal Sylfaenol.

“Dyma adnodd rhagorol nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol o bell ffordd gan y maes gofal sylfaenol ond a ddylai fod yno.  Ceir llawer o fuddiannau yn sgil cael therapyddion galwedigaethol ynghlwm â’r practis.  Bydd angen ymdrin â’r rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau yn gyflym gan fod y problemau yn rhai acíwt.  Gwelwyd arbedion mewn nifer y derbyniadau cymdeithasol [a] mwy o hunanhyder i gleifion a theuluoedd eisoes.  Gall y therapyddion galwedigaethol ymateb yn briodol yn ystod y cyfnod hwnnw o 24 awr yn hytrach nag mewn sawl wythnos fel ag o’r blaen, gan gysylltu â’r bobl briodol i ymdrin â’r unigolyn, ac maent yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr o’r hyn sydd ar gael gan y trydydd sector er mwyn helpu pobl i aros adref yn ddiogel ac yn gyfforddus.  Rydym bellach yn recriwtio i gael dau therapydd galwedigaethol ychwanegol ar gyfer clwstwr De Sir Benfro gan y bu’r treial mor llwyddiannus a gobeithio y byddant yn rhan annatod o’n tîm gofal iechyd sylfaenol.”

Meddyg Teulu, Clwstwr De Sir Benfro
 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Therapyddion Galwedigaethol i’w gynnig i ofal sylfaenol; 

Adnoddau (Saesneg yn unig)