Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg

Arbenigwyr ym mhob agwedd ar swyddogaeth ac iechyd y traed a’r coesau yw podiatryddion.  Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus iawn ydynt sydd wedi’u hyfforddi i wneud diagnosis, trin, adsefydlu ac atal clefydau ac annormaleddau’r traed, y ffêr a’r coesau.  Gallant atal a rheoli poen yn y traed, haint yn y traed a chynorthwyo gydag anghysondebau’r traed, er mwyn cadw pobl o bob oedran ar eu traed ac yn actif.

Mae podiatryddion mewn sefyllfa ddelfrydol i ddefnyddio eu harbenigedd mewn lleoliadau gofal sylfaenol drwy ddatblygu a sefydlu gwasanaethau sy’n ymestyn gallu Ymarferwyr Cyffredinol a thimau gofal sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Bydd lleoli podiatryddion yng nghanol lleoliadau gofal sylfaenol yn:

  • Lleihau effaith a chanlyniadau cyflyrau hirdymor
  • Atal ac oedi dirywiad cynnar mewn cyflyrau cronig
  • Cynnal a manteisio ar symudedd i’r eithaf
  • Lleihau’r posibilrwydd o gwympo
  • Creu annibyniaeth sy’n arwain at well ansawdd bywyd a lleihau allgau cymdeithasol
  • Lleihau’r angen am ymyrraeth eilaidd, llawfeddygol neu fferyllol
  • Lleihau’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a’r nifer sy’n cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty yn ddiangen
  • Cefnogi cleifion sy’n byw â chyflyrau hirdymor
  • Cadw pobl ar eu traed ac mewn gwaith
  • Lleihau’r baich ar ymarferwyr cyffredinol a thimau gofal sylfaenol
    Gall gwasanaeth podiatreg gofal sylfaenol cwbl integredig wneud diagnosis, rheoli, adsefydlu ac atal cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chlefydau’r traed, y ffêr a’r coesau, yn arbennig clefydau cyhyrysgerbydol, diabetes, cyflyrau gwynegol a chlefydau rhydwelïol perifferol. Mae gan bodiatryddion hefyd rôl bwysig yn yr agenda iechyd cyhoeddus ac atal celfydau sy’n ymwneud yn benodol ag atal cwympiadau, lleihau risg cardiofasgwlaidd, rheoli a chysoni meddyginiaethau, goruchwylio gwrthfiotigau a chadw pobl ar eu traed ac yn weithgar.
    Mae gan bodiatryddion y gallu i ddefnyddio technegau diagnostig uwch gan gynnwys delweddu a gallant roi presgripsiwn yn annibynnol ar gyfer ystod o gyflyrau sy’n ymwneud â’r traed a’r coesau, gan arbed amser ac adnoddau meddygon teulu.
    Fel arbenigwyr ar iechyd a chlefydau’n ymwneud â’r traed a’r coesau, mae Podiatryddion yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol i weithio fel y pwynt cyswllt cyntaf mewn gofal sylfaenol.
     
    Darllenwch fwy am bodiatreg:
    Datganiad sefyllfa y Coleg Podiatreg ar ofal sylfaenol (Saesneg yn unig)
    Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Podiatreg
    Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Podiatreg 
    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Podiatreg
    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Podiatreg
    Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwy Podiatreg
    Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Podiatreg
    Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Podiatreg