Neidio i'r prif gynnwy

Parafeddygon

Ymarfer Uwch Ymarferwyr Parafeddygol

Clinigwyr arbenigol ac annibynnol sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn lleoliadau gofal brys a gofal heb ei drefnu yw Uwch Ymarferwyr Parafeddygol.

Mae’r Uwch Ymarferwyr Parafeddygol yn darparu sgiliau asesu clinigol uwch, diagnosis, triniaethau ac atgyfeiriadau ar gyfer cleifion gan ddefnyddio model gofal meddygol/rheoli.

Buddiannau:

  • Yn dilyn cwblhau cynllun peilot 18 mis yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cydnabod buddiannau strategol ehangu nifer yr ymarferwyr yn sylweddol.
  • Mae’r prif fuddiannau’n cynnwys lleihau effaith y cleifion sy’n defnyddio’r system 999 a chludo cymesur i ofal eilaidd yn ogystal â chefnogi capasiti Gofal Sylfaenol a’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau i helpu i liniaru’r pwysau ar y System Gofal Heb ei Drefnu ehangach. 
  • Mae Uwch Ymarferwyr Parafeddygol WAST yn cynnal Ymweliadau yn y Cartref ac Ymgyngoriadau mewn Canolfannau Triniaeth/Meddygfeydd, gan gydweithio â meddygon teulu a’r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal.
  • Mae Uwch Ymarferwyr o dan Hyfforddiant yn cael eu cefnogi o fewn y modelau hyn i ddatblygu ein clinigwyr yn y dyfodol a chefnogi datblygiad modelau pwrpasol sy’n gweithio ar y cyd gyda’n Partneriaid mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru.
  • Bellach, ceir cynlluniau sefydledig yn ardaloedd yr Uned Reoli Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Bwrdd Iechyd Aneirin Bevan.
  • Bu Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (APP) wrthi’n cefnogi gofal sylfaenol ers dechrau’r pandemig drwy addasu i greu model ymgynghori dros y ffôn a llwyddodd llawer ohonynt hefyd i gefnogi rhaglen frechu COVID-19 mewn Canolfannau Brechu Torfol. Mae gennym bellach APP sy’n meddu ar ddigon o brofiad mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol i weithio fel DMP/mentor i ddatblygu a hyfforddi APP, ac mae hyn yn hollbwysig wrth i ni geisio ymestyn y cynllun APP ledled Cymru.

Ein Cynnig Clinigol:
Mae gan APP fynediad at fwy o fformiwlâu meddyginiaethau a gefnogir gan Gyfarwyddeb Grŵp Cleifion er mwyn iddynt allu trin amrywiaeth o gyflyrau meddygol acíwt. Mae llawer o APP bellach wedi cymhwyso fel Presgripsiynwyr Annibynnol hefyd ac mae hynny’n eu galluogi i ddarparu dewisiadau ychwanegol o ran triniaethau yn unol â’r arfer gorau cyfredol, gan olygu llai o atgyfeiriadau i feddygon teulu mewn gofal sylfaenol ac wrth ymateb i gleifion sy’n defnyddio’r system 999 hefyd.