Mae Tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus Cymru Gyfan (AWDPHT) yn rhoi cyngor a chymorth, yn bennaf i Fyrddau Iechyd (BI), Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru a thimau deintyddol.
Nod y Tîm yw:
1. Rhoi cyngor ac arweinyddiaeth iechyd cyhoeddus deintyddol arbenigol ar faterion iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol
2. Rhoi cyngor ar gyfer cynllunio gwasanaethau deintyddol a datblygu polisi a strategaeth
3. Asesu statws iechyd y geg ac anghenion a galwadau poblogaethau lleol
4. Cynghori ar raglenni sgrinio ac arolygu
5. Cynghori a helpu i weithredu cynlluniau gweithredu iechyd y geg lleol a chenedlaethol a rhaglenni hybu iechyd
6. Cynghori BILlau ar fonitro a sicrwydd ansawdd gwasanaethau deintyddol
7. Helpu a chynghori BI mewn achosion o berfformiad gwael
8. Helpu gydag ymchwil a hyfforddiant yn Arbenigedd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus
9. Cynllun Gwên / Gwybodaeth i weithwyr proffesiynol
10. Tudalennau Deintyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru