Neidio i'r prif gynnwy

Cydymaith Meddygol

Yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol newydd sydd, er nad yw’n feddyg, yn gweithio i’r model meddygol, gyda’r agweddau, y sgiliau a’r gronfa wybodaeth i gyflwyno gofal a thriniaeth gyfannol o fewn y tîm meddygol cyffredinol a/neu ymarfer meddygol o dan lefelau diffiniedig o oruchwyliaeth

Mae Cydymaith Meddygol yn unigolyn graddedig sydd wedyn yn cael ei hyfforddi yn unol â’r Fframwaith Cymhwysedd a Chwricwlwm ar gyfer y Cynorthwy-ydd Meddygol (teitl blaenorol y Cydymaith Meddygol), i gyflawni naill ai diploma ôlraddedig neu MSc o un o’r prifysgolion sydd wedi cael eu cydnabod a’u cymeradwyo i ddarparu’r hyfforddiant yn y DU. Fel arall, efallai y bydd Cydymaith Meddygol wedi cyflawni cymhwyster cyfatebol mewn prifysgol gydnabyddedig mewn gwlad arall. Diben y rôl yw rhoi cefnogaeth a chymorth i staff meddygol. Mae hyfforddiant Cydymaith Meddygol ar hyn o bryd yn rhaglen dwy flynedd amser llawn, sy’n cynnwys 50% theori a 50% ymarfer clinigol. Ar ôl cymhwyso, bydd gofyn i’r Cydymaith Meddygol gyflawni 50 awr o DPP yn flynyddol.

Rôl Cymdeithion Meddyg