Neidio i'r prif gynnwy

Rolau Gofal Sylfaenol yng Nghymru

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn darparu’r pwynt gofal cyntaf, ddydd neu nos, ar gyfer mwy na 90% o gyswllt pobl â’r GIG yng Nghymru. Mae ymarfer cyffredinol yn un o elfennau craidd gofal sylfaenol ond nid dyma’r unig elfen – mae gwasanaethau eraill megis fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg yn gynyddol yn darparu gofal yn uniongyrchol ar gyfer y cyhoedd.

Mae a wnelo’r cyfraniad gan ofal sylfaenol hefyd – yn bwysig – â chydgysylltu mynediad ar gyfer pobl at yr ystod eang o wasanaethau yn y gymuned leol i helpu i ddiwallu eu hanghenion o ran iechyd a lles.

Mae’r gwasanaethau cymunedol hyn yn cynnwys ystod eang iawn o staff, megis nyrsys cymunedol ac ardal, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, timau iechyd meddwl, timau hybu iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, gwaedyddion, parafeddygon, gwasanaethau cymdeithasol, staff arall mewn awdurdodau lleol a’r holl bobl hynny sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y cyfoeth o sefydliadau yn y sector annibynnol a gwirfoddol sy’n cefnogi pobl yn ein cymunedau.

Gwaith Tîm Amlddisgyblaethol o fewn Lleoliadau Ymarfer Cyffredinol 2020
Modelau Aml-broffesiwn o fewn Model Trawsnewid Gofal Sylfaenol yng Nghymru 2018
Gweithlu Gofal Sylfaenol Wedi’i Gynllunio i Gymru 2018
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Datblygu Addysg Gweithlu (GDAG)
Cynllunio'r Gweithlu mewn Gofal Sylfaenol: Canllawiau ac Adnoddau
Rheoleiddio gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal
Gyrfa Cymru
Compendiwm o Rolau a Modeli Newydd mewn Gofal Sylfaenol