Ymarfer Uwch Ymarferwyr Parafeddygol
Clinigwyr arbenigol ac annibynnol sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn lleoliadau gofal brys a gofal heb ei drefnu yw Uwch Ymarferwyr Parafeddygol.
Mae’r Uwch Ymarferwyr Parafeddygol yn darparu sgiliau asesu clinigol uwch, diagnosis, triniaethau ac atgyfeiriadau ar gyfer cleifion gan ddefnyddio model gofal meddygol/rheoli.
Buddiannau:
Bu Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (APP) wrthi’n cefnogi gofal sylfaenol ers dechrau’r pandemig drwy addasu i greu model ymgynghori dros y ffôn a llwyddodd llawer ohonynt hefyd i gefnogi rhaglen frechu COVID-19 mewn Canolfannau Brechu Torfol. Mae gennym bellach APP sy’n meddu ar ddigon o brofiad mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol i weithio fel DMP/mentor i ddatblygu a hyfforddi APP, ac mae hyn yn hollbwysig wrth i ni geisio ymestyn y cynllun APP ledled Cymru.
Ein Cynnig Clinigol:
Mae gan APP fynediad at fwy o fformiwlâu meddyginiaethau a gefnogir gan Gyfarwyddeb Grŵp Cleifion er mwyn iddynt allu trin amrywiaeth o gyflyrau meddygol acíwt. Mae llawer o APP bellach wedi cymhwyso fel Presgripsiynwyr Annibynnol hefyd ac mae hynny’n eu galluogi i ddarparu dewisiadau ychwanegol o ran triniaethau yn unol â’r arfer gorau cyfredol, gan olygu llai o atgyfeiriadau i feddygon teulu mewn gofal sylfaenol ac wrth ymateb i gleifion sy’n defnyddio’r system 999 hefyd.