Mae rolau presennol yn y maes fferylliaeth gofal sylfaenol yn cynnwys:
Fferyllwyr Clinigol mewn Ymarfer Cyffredinol a Chlystyrau Gofal Sylfaenol
Mae fferyllwyr clinigol (Uwch fferyllwyr practis) yn cyfrannu at waith clinigol yn ymwneud â meddyginiaethau mewn practisau meddygon teulu. Mae ganddynt wybodaeth drylwyr am glefydau a meddyginiaethau. Gallant weithio mewn maes clinigol arbenigol neu mewn rôl fwy generig, gan fynd i’r afael ag ystod eang o faterion yn ymwneud â meddyginiaethau o fewn y practis. Fel rhan o dîm y practis meddyg teulu, mae fferyllwyr clinigol yn darparu cyngor i gleifion, yn arbennig yr henoed, pobl sy’n cymryd cyfuniad o gyffuriau (polyfferylliaeth) a phobl â chyflyrau niferus. Drwy gymryd cyfrifoldeb dros gleifion â chyflyrau hirdymor, mae fferyllwyr clinigol yn rhyddhau’r meddygon i fynychu apwyntiadau eraill, ac felly’n helpu i leihau niferoedd y bobl sy’n dod i’r adrannau damweiniau ac achosion brys.
Gall fferyllwyr clinigol helpu i adnabod a thrin cleifion sydd “mewn perygl” mewn perthynas â’r defnydd diogel o’u meddyginiaethau. Gallant hefyd gynorthwyo cleifion i reoli eu hiechyd eu hunain, drwy gynnig cefnogaeth, er enghraifft cyngor a phresgripsiynu cymdeithasol. Mae gan fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol gymhwyster Rhagnodi Anfeddygol ychwanegol, i’w galluogi i ragnodi’n annibynnol unrhyw gyflwr o fewn eu cymhwysedd clinigol.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer
gwasanaethau gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018 yn datgan yn glir y bwriad i weld mwy o fferyllwyr yn gweithio mewn rolau clinigol mewn practisau meddyg teulu. Ers lansio’r cynllun, bu cynnydd sylweddol yn nifer y fferyllwyr sy’n gweithio mewn rolau sy’n ymdrin â chleifion wyneb yn wyneb.
Mae’r swyddi hyn yn gweithredu ar lefel practis meddyg teulu neu ar lefel clwstwr (sydd weithiau’n cael ei alw’n rhwydwaith) yn dibynnu ar yr amgylchiadau lleol, i ymdrin â’r llu o faterion a phrobelmau’n ymwneud â meddyginiaethau sy’n codi ym maes gofal sylfaenol.
Mae Fferyllwyr Clinigol sy’n gweithio mewn Practis yn gweithio fel rhan o dîm y practis meddyg teulu, yn unol â blaenoriaethau’r practis hwnnw. Maent yn rhyddhau capasiti clinigol ac yn cynnig gwell cyfarwyddyd a chanllawiau am y defnydd darbodus o feddyginiaethau yn seiliedig ar dystiolaeth. Fel arfer, fe’u cyflogir can y Practis Meddyg Teulu / Bwrdd Iechyd neu fferyllydd cymunedol sydd wedi ei gontractio i wneud gwaith wedi’i leoli mewn practis.
Mae Fferyllwyr Clystyrau Clinigol yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar draws clwstwr o bractisau meddygon teulu, ac wedi eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd ar ran y clwstwr i wireddu blaenoriaethau’r clwstwr gofal sylfaenol. Yn ogystal, gallant hefyd gefnogi’r clwstwr mewn perthynas â thueddiadau rhagnodi a dadansoddiadau, yn dibynnu ar flaenoriaethau’r clwstwr.
Fferyllwyr Cymunedol
Mae fferyllwyr cymunedol o fewn cyrraedd pawb, gyda thros 700 o fferyllfeydd cymunedol yng nghymru wedi eu lleoli lle mae pobl yn byw, yn siopa ac yn gweithio. Maent yn weithwyr iechyd proffesiynol medrus sy’n gallu gweld cleifion heb apwyntiad, yn aml yn ystod oriau estynedig.
Mae’r Fframwaith Cytundebol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol yn canolbwyntio ar yr ystod o wasanaethau a ddarperir gan fferyllwyr o fewn y gymuned. Fe’u rhennir yn dair lefel; hanfodol, uwch ac ychwanegol.
Gwasanaethau Hanfodol er enghraifft gwiriad ac adolygiad clinigol o addasrwydd meddyginiaethau ar bresgripsiwn, dosbarthu meddyginiaethau, dosbarthu presgripsiynau amlroddadwy, cyfeirio pobl at wasanaethau, hunanofal a rhoi cyngor ar feddyginiaethau.
Gwasanaethau Uwch sy’n gallu darparu, er enghraifft, Adolygiadau o’r Defnydd o Feddyginiaethau ac Adolygiadau o Ddosbarthu Meddyginiaethau.
Gwasanaethau Ychwanegol sy’n gallu darparu gwasanaethau ychwanegol wedi’u comisiynu gan y Bwrdd Iechyd neu’r practis meddyg teulu, er enghraifft ‘brysbennu a blaenoriaethu’, salwch cyffredin a gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
(Mae erthygl am fferylliaeth gymunedol wrthi’n cael ei datblygu)
Fferyllwyr Gofal Sylfaenol / Cynghorwyr Rhagnodi
Maent yn gweithio’n agos gydag phractisau meddygon teulu yn unol â blaenoriaethau’r Bwrdd Iechyd.
Gallant ddarparu cefnogaeth i’r practis a’r clystyrau gofal sylfaenol drwy ragnodi data, dadansoddiadau a datblygu’r gwasanaethau sy’n ymwneud â rheoli meddyginiaethau ar draws pob proffesiwn. Cânt eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd.
Technegwyr Fferylliaeth Gofal Sylfaenol
I ymgymryd â holl agweddau technegol ar reoli meddyginiaethau, er enghraifft gwirio techneg defnyddio anadlwr, cydamseru meddyginiaethau, adolygu presgripsiynau amlroddadwy. Maent yn aml yn cyfrannu at archwiliadau rhagnodi mewn practisau meddyg teulu. Mae eu rolau’n datblygu’n gyflym, ac mewn rhai ardaloedd, mae’r technegwyr fferylliaeth yn dadansoddi’r data rhagnodi, ond ni fyddent yn ymgymryd ag adolygiadau clinigol. Cânt eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd.
Darparwyd y delweddau gan: Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr