Neidio i'r prif gynnwy

Merthyr Tudful

 
Arweinydd Meddygon Teulu – Dr Shyama Velupillai; Dr. David Andrews 


 

Mae’r clwstwr yn gwasanaethu tua 60,000 o gleifion. Bu practisau yn cydweithio ym Merthyr Tudful ers blynyddoedd lawer ac mae trefniadau rhwydweithio wedi’u sefydlu ar gyfer rhai gwasanaethau ychwanegol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Deintyddion, Optometryddion ynghyd ag aelodau’r Awdurdod Lleol a Thrydydd Sector yn mynychu cyfarfodydd er mwyn sicrhau bod gwaith amlddisgyblaethol yn cael ei wneud ar draws Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chymdeithasol.

Arweinwyr Rheolwr y Practis:
Kate Francis
Kevin Rogers
Rheolwr Datblygu Gofal Sylfaenol
Imran Gilani – Ffôn 01685 351357

Practisau Meddygon Teulu:
Ceir wyth practis meddyg teulu sy’n gweithredu yn ardal Clwstwr Merthyr Tudful


Practis Un Parc Iechyd Keir Hardie 
Practis Dau Parc Iechyd Keir Hardie 
Practis Tri Parc Iechyd Keir Hardie 
Practis Meddygol Morlais 
Meddygfa Oakland 
Practis Meddygol Pontcae 
Canolfan Iechyd Treharris 
Troed y Fan Aberfan 

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Meddygon Teulu Merthyr Tudful 2017 - 20  (Saesneg yn unig)

Lluniwyd cynlluniau’r clwstwr drwy:
Ddatblygu cynlluniau a luniwyd gan bractisau;
Gwybodaeth iechyd y cyhoedd am anghenion iechyd allweddol o fewn yr ardal;
Gwybodaeth BIP Cwm Taf am batrymau gweithgareddau/atgyfeirio presennol;
Deall gwasanaethau sylfaenol ein hardaloedd (y gwasanaeth presennol) a chanfod anghenion y ddarpariaeth gwasanaeth posibl sydd heb eu bodloni.  Mae’r cynlluniau hefyd yn croesawu blaenoriaethau allweddol y BIP ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Mae’r cynllun yn nodi amcanion y clwstwr ar gyfer blwyddyn 1-3 (2014/2017) y cytunwyd arnynt yn ôl consensws ar draws practisau, gan ddarparu cefndir perthnasol swyddi cyfredol, amcanion a chanlyniadau a gynlluniwyd a’r camau sy’n ofynnol i gyflwyno gwelliannau. Mae natur y cynllun yn hylifol/hyblyg ac yn esblygu a thros y 3 blynedd nesaf caiff y cynllun ei hun ei adolygu a’i ddiweddaru mewn ymateb i newidiadau yn y broses o gynllunio clwstwr.

Caiff blaenoriaethau unigol ar gyfer y Clwstwr eu cynllunio er mwyn sicrhau bod datblygiadau sy’n rhoi sylw i anghenion iechyd y boblogaeth, gan weithio drwy’r amser tuag at y prif themâu canlynol:
Cyflawni cynaliadwyedd;
Gwella mynediad;
Lleihau anhafaleddau iechyd;
Datblygu’r gweithlu;
Gwaith amlasiantaeth ar draws y sectorau;
Trosglwyddo gwasanaethau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol;

Ymgysylltu ag eraill er mwyn sicrhau bod gweithwyr iechyd Gofal Sylfaenol proffesiynol yn cydweithio Meddygon Teulu, Optometryddion, Deintyddion, Fferyllwyr yn ogystal â gweithio gyda’r Gymuned a chydweithwyr y 3ydd sector.

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Swyddog Cymorth Practis Cyffredinol (GPSO) – Mae’r prosiect yn treialu’r defnydd a wneir o GPSO mewn practisau meddyg teulu ac yn cydweithio â’r Awdurdod Lleol.  Nod cyffredinol y prosiect yw cael adnoddau ar y rheng flaen sy’n canfod ac yn datrys/addysgu defnyddwyr gwasanaeth sy’n mynychu practis y meddyg teulu yn aml ar gyfer ymyriadau anfeddygol.

Y prif amcanion i gefnogi’r gwaith hwn yw:

Dylanwadu ar newidiadau diwylliannol ac ymddygiadol i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn lleoliad gofal sylfaenol ym Merthyr Tudful;

Cynghori/asesu defnyddwyr gwasanaeth a rhoi sylw i faterion cymdeithasol a chynnig cymorth mewn cysylltiad â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles;

Hyrwyddo annibyniaeth a galluogi defnyddwyr gwasanaeth i fod yn gyfrifol am eu hiechyd a lles eu hunain;

Cefnogi’r broses o leihau’r bobl sy’n mynychu practis cyffredinol ar gyfer ymyrraeth anfeddygol, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau priodol yn yr ardal a allai gynnwys rhwydweithio ag asiantaethau eraill y trydydd sector ac adnoddau cymunedol eraill;

Lleolir chwe swyddog sy’n gyfystyr â GPSO ar draws 9 practis meddyg teulu ledled Merthyr Tudful.  Bydd y GPSO yn gweithio yn ystod oriau’r feddygfa rhwng 08.00 a 18.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener;

Y GPSO fydd y prif gyswllt er mwyn sicrhau bod cleifion/gofalwyr/teuluoedd yn cael eu cynghori a’u cyfeirio at wasanaethau cymunedol megis y trydydd sector a gofal sylfaenol os yw’n briodol ac os bydd angen.  Bydd y GPSO yn defnyddio Gwefan DEWIS ac yn cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol mewn lleoliadau gofal sylfaenol;

Mae’r GPSO bellach yn gweithio mewn practis meddyg teulu neu’n cwblhau’r rhaglen sefydlu chwe wythnos yn barod i gael eu cyflwyno i’w bractis penodedig.

Cardioleg Merthyr  - Darperir y Clinig Cymunedol Cardioleg Mynediad Uniongyrchol Un Stop gan dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys ystod eang o staff arbenigol.  Cysyniad y clinig yw y bydd y rhan fwyaf o’r cleifion yn cael profion priodol ar y diwrnod ac yna’n derbyn esboniad o’u cynllun rheoli a diagnosis. Ar hyn o bryd, caiff y cleifion sydd angen eu hymchwilio eu hatgyfeirio i ofal eilaidd a gallant aros o leiaf 26 wythnos i gael eu hymchwilio a chael apwyntiad claf allanol os bydd angen.

Mae’r Clinig Cardioleg Un Stop yn lleihau’r amser aros am ddiagnosis a chleifion allanol ac yn lleihau’r amser atgyfeirio i gael triniaeth ar gyfer y cleifion sy’n addas ar gyfer y gwasanaeth;

Er mwyn gwella’r cyfathrebu ymhellach, ym mis Mai 2017 lansiwyd ateb rhyngweithredol sy’n galluogi’r Clinig Cardioleg ysgrifennu’n uniongyrchol at gofnod y meddyg teulu.   Fe’i gelwir yn Vision 360.  Mae’n rhyng-gysylltu’n llawn â Vision ac EMIS ac yn galluogi pob practis meddyg teulu sy’n cymryd rhan ym Merthyr i edrych ar bob ymgynghoriad a gynhaliwyd yn y Clinig Cardioleg ychydig funudau ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.

Gwaith Cyfredol

Swyddog Cymorth Ymarfer Cyffredinol

Mae’r prosiect hwn wedi cyflwyno Swyddog Cymorth Ymarfer Cyffredinol

i adnoddau rheng flaen y practis.

Mae chwe Swyddog Cymorth Ymarfer Cyffredinol llawn amser wedi’u lleoli yn holl bractisau meddygon teulu Merthyr Tydfil, yn gweithio yn ystod oriau’r practis (Llun-Gwener 08.00 - 18.30). Bydd y Swyddogion Cymorth yn cael atgyfeiriadau oddi wrth staff y practisau neu hunanatgyfeiriadau cleifion. Mae’r meini prawf atgyfeirio yn eang ac yn galluogi unrhyw un â phroblem anfeddygol i wneud apwyntiad i weld Swyddog Cymorth. Bydd hyd ac amlder yr apwyntiadau yn amrywio. Mae angen cymorth ymarferol ar rai cleifion dros un neu ddau apwyntiad, a bydd eraill yn elwa o gael cymorth parhaus, gan gynnwys ymweliadau cartref i gael asesiad cyfannol, atgyfeiriadau amlweddog i wasanaethau’r trydydd sector neu gymunedol, gan annog cleifion i feithrin sgiliau a hyder.

Mae staff, cleifion a’r tîm ehangach yn gweld manteision y grŵp staff hwn ac yn darparu adborth cadarnhaol.

Mae’r prosiect eisoes yn llwyddiant ac yn sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau clinigol prin y practis. Mae’r prosiect wedi cael arian gan y clwstwr tan ddiwedd mis Mawrth 2019.

Gwasanaethau Ffisiotherapi’r Clwstwr

Mae’r ffisiotherapyddion yn y practisau meddygon teulu ar draws y clwstwr
wedi cyflymu’r broses o gael apwyntiad mewn practis, ac yn darparu ymateb
mwy addas i gleifion â phroblemau cyhyrysgerbydol.

Mae Gwasanaethau’r Clwstwr Ffisiotherapi yn darparu 13 sesiwn wythnosol
ym Merthyr mewn lleoliad gofal sylfaenol. Darperir y gwasanaeth gan ddau ddarparwr lleol ac mae wedi bod yn allweddol i sicrhau’r defnydd gorau o amser y clinig a darparu gofal iechyd darbodus. Mae’r adnodd wedi gweithio’n arbennig o dda ar draws y clwstwr, ac estynnwyd y gwasanaeth i fis Mawrth 2019 drwy arian gan y clwstwr.

Diwygiwyd y gwasanaethau i wella profiad claf sy’n cael atgyfeiriad i Wasanaethau Gofal Sylfaenol Ffisiotherapi.

Cydlynydd Gofal

Bydd staff gweinyddol y practisau yn cael hyfforddiant Llywio Gofal. Bwriad y cwrs yw galluogi staff gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid a gwella profiad claf, a hynny mewn amgylchedd gwaith prysur.

Mae dirprwyon wedi darparu adborth cadarnhaol, ac yn barod yn teimlo bod yr hyfforddiant wedi rhoi mwy o hyder ac wedi grymuso’r staff i allu addasu i newid ac felly gwella’r gofal a ddarperir.

Cymorth Canser

Gwasanaeth cymorth lleol sy’n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i gleifion sy’n dioddef o ganser, eu teuluoedd a’u gofalwyr, drwy gyfrwng cwnsela a therapi cyflenwol.

Yn ystod y chwarter diwethaf, cafodd 32 o gleifion newydd eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth, a phawb yn cael cynnig apwyntiad cwnsela a therapi cyflenwol o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae cleifion a gofalwyr wedi mynegi bod eu lefelau straen a gorbryder wedi gostwng. Nodwyd gwell llesiant yn gyffredinol hefyd.

Mae Dannedd Babi YN Bwysig

Mae’r clwstwr yn cefnogi ac yn rhan o fenter “Mae Dannedd Babi YN Bwysig” y Bwrdd Iechyd – sy’n rhoi blaenoriaeth i wella iechyd y geg ein plant. Mae practisau deintyddol wedi’u paru â phractisau meddygon teulu i ddarparu a hyrwyddo’r gwasanaeth.

Bwriad yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mabwysiadu arferion deintyddol iach yn gynnar er mwyn atal pydredd dannedd.

Dangosodd adolygiad canol blwyddyn o’r peilot “Mae Dannedd Babi YN Bwysig”
bod cynnydd o 70.25% wedi’i gofnodi yn nifer plant o dan 2 oed sy’n ymweld â phractis deintyddol o’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Cynhelir adolygiad llawn o’r peilot ym mis Ebrill 2018 i benderfynu a ddylid cyflwyno’r fenter i leoliadau eraill.

Sefydliad Gofal Sylfaenol

Sefydlwyd y Sefydliad Gofal Sylfaenol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu arfer da ym maes gofal sylfaenol. Comisiynwyd y Sefydliad i gydweithio â’r practisau a oedd yn cymryd rhan i adolygu’r galw a’r capasiti, ac i archwilio newidiadau ymarferol yng ngweithdrefnau’r practisau.

Mae’r practisau sy’n cymryd rhan wedi cytuno i ddefnyddio’r offeryn archwilio (bydd data’r practis yn cael ei gipio am wythnos) ym mhedwerydd chwarter 2017-18. Disgwylir i ganlyniadau’r contractwyr sy’n cymryd rhan fod ar gael yn 2018/2019.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Optimeiddio’r Llif Gwaith – Mae’r fenter hon yn cyfuno’r broses o ail-gynllunio systemau â datblygu’r gweithlu drwy hyfforddi staff gweinyddol i brosesu tasgau gweinyddol arferol a fyddai fel arfer yn cael eu gwneud gan feddyg teulu.  O ganlyniad, caiff 80% o ohebiaeth cleifion ei chwblhau heb feddyg teulu.  Mae’r clwstwr bellach wedi cwblhau’r hyfforddiant ac yn cyflwyno newidiadau arloesol i’r dull o weithio.  Bu’r adborth yn gadarnhaol a bydd yn cael ei werthuso diwedd y flwyddyn.  Mae gwybodaeth bellach ar gael yma:  http://www.workflowoptimisation.co.uk 

Web GP/Econsult

Hwn yw’r unig declyn cynghori ar-lein a grëwyd gan Feddygon Teulu sy’n adnabod symptomau clinigol yn gynnar er mwyn cynnig gwasanaeth ymgynghori a brysbennu effeithiol o bell, sy’n arbed amser. Mae’r llwyfan eConsult yn darparu gwell mynediad i gleifion, ac mae wedi’i sefydlu ar wefan pob practis meddyg teulu. Mae’n cyflymu mynediad i ofal diogel ac effeithlon ac ar yr un pryd yn ysgafnhau llwyth gwaith y practisau. Mae un practis wedi defnyddio’r gwasanaeth ers dros 18 mis. Yn y 6 mis diwethaf, mae’r practis yn amcangyfrif ei fod wedi arbed 30 apwyntiad yr wythnos.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Datblygu’r dulliau o weithio mewn partneriaeth – ehangu gwasanaethau’r Swyddog Cymorth Ymarfer Cyffredinol drwy weithio’n agos gyda phartneriaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Y canlyniadau a ddisgwylir yw lleihau mynychiadau amhriodol niferus, gan wella profiad cleifion a gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin a chyfyngedig.   

Cynnal gwasanaethau gofal sylfaenol, gwella’r broses o recriwtio a chadw staff, archwilio rolau newydd a ffyrdd o weithio drwy ddigwyddiadau cydlynol o gynllunio’r gweithlu.

Gwella gwaith gofal sylfaenol ac eilaidd er mwyn gwella cyfathrebu, llwybrau atgyfeirio, rhyddhau a chynllunio gofal.

Datblygu’r broses o weithio mewn partneriaeth ymhellach ymysg contractwyr gofal sylfaenol a sefydliadau’r sector gwirfoddol, gan gynnwys llwybrau atgyfeirio cydgysylltiedig.

Ymwybyddiaeth cleifion o gymorth iechyd a lles – datblygu llwybrau eglur, cyfeirio gwybodaeth. 

Cymysgu sgiliau’r staff a datblygu hyfforddiant staff gofal sylfaenol.  Er mwyn gwella’r hyfforddiant sydd ar gael ac ystod yr hyfforddiant ceir ymagwedd gydgysylltiedig at y cyfleoedd sydd ar gael ar draws y clystyrau yng Nghwm Taf.

 

Diweddariad arweiniol clwstwr 14/09/2021