Neidio i'r prif gynnwy

Gogledd Sir Fynwy

 
Arweinydd y Clwstwr Dr Brian Harris  

 

Practisau Meddygon Teulu yng Nghlwstwr Gogledd Sir Fynwy 
Mae dau Rwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth (NCN) yn Sir Fynwy (y Gogledd a’r De) sydd â phoblogaeth gofrestredig o 53,701 a 47,353 yn y drefn honno.
Mae saith practis ar waith yn ardal clwstwr (NCN) Gogledd Sir Fynwy.

Meddygfa Castle Gate
Meddygfa Dixton Road
Meddygfa Hereford Road
Meddygfa Old Station  
Y Feddygfa (Brynbuga) 
Meddygfa Tudor Gate 
Practis Dyffryn Gwy 

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Cynllun Blynyddol Clwstwr Gogledd Sir Fynwy 2023-2024 (Saesneg yn unig)
Cynllun Blynyddol Clwstwr Gogledd Sir Fynwy 2022-2023 (Saesneg yn unig)
Clwstwr Gogledd Sir Fynwy NCN IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Cynllun NCN Gogledd Sir Fynwy ar Dudalen IMTP 2020 / 2023 (Saesneg yn unig)

Adroddiad Blynyddol NCN Gogledd Sir Fynwy 2018-19 (Blwyddyn 2) (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth Gogledd Sir Fynwy 2017_20 Blwyddyn 3 (Saesneg yn unig)
Cynllun NCN Gogledd Sir Fynwy ar Dudalen 2019-20 (Saesneg yn unig)

Proffil y Clwstwr

Rydym yn Ardal Clwstwr Cydweithredol Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth (NCN) wledig fawr, gyda’r canlynol yn cefnogi ein poblogaeth leol: 

  • 7 practis meddyg teulu
  • Ysbyty Nevill Hall (Y Fenni)
  • Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Parc Mardy (Y Fenni)
  • Cyfleuster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Monnow Vale
  • Canolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Brynbuga

Mae gennym boblogaeth o oddeutu 55,000 o bobl ac mae tua 5,000 ohonynt yn byw yn Lloegr ac wedi cofrestru â Meddyg Teulu yn Sir Fynwy oherwydd cyfyngiadau daearyddol.

Ein nod fel Clwstwr NCN yw gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn cymorth mor agos at y cartref â phosibl a pharhau i fod yn rhan o’u cymunedau lleol gyda chymorth ein cydweithwyr o bractisau meddygon teulu, gwasanaethau cyswllt lles eang a thimau Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig.

Rydym yn cydnabod bod pob gwasanaeth yn wynebu pwysau digynsail yn sgil y pandemig byd-eang. Mae Sir Fynwy yn gyffredinol yn wynebu heriau penodol o ganlyniad i’w natur wledig, demograffeg, a galw, a hynny mewn cysylltiad â thwf  mewn anghenion cymhleth. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen newid ffyrdd hanesyddol o weithio, ac yn benodol osgoi mynd i’r ysbyty pan fo hynny’n bosibl, ac i greu gwasanaethau sylfaenol ac yn y gymuned cynaliadwy a chadarn.

Bydd ein cysylltiad â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Sir Fynwy a’r cynllun ISPB dros 3 blynedd yn ein cynorthwyo i greu cadernid yn yr hirdymor ac i ategu ein nod o sicrhau bod ein cynlluniau yn adlewyrchu anghenion y bobl leol.

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Mae gweithredu’r Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (ACD) yn gysylltiedig â gwella Cylch Busnes y Clwstwr NCN a chreu cydweithrediaeth proffesiynol ar draws Gofal Sylfaenol – gan gynnwys cynnal proses werthuso eang ar gyfer yr holl gynlluniau a ariennir gan y Clwstwr NCN i sicrhau bod yr amcanion yn cael eu bodloni. 
Gweithio mewn partneriaeth ar draws y Clwstwr NCN, Iechyd y Cyhoedd, Gofal Cymdeithasol a’r 3ydd sector i ddefnyddio’r rhwydwaith eang o gymorth lles anfeddygol er mwyn lleihau’r galw ar feddygon teulu. 
Cynllunio i atgynhyrchu’r Gydweithrediaeth (Imwnieiddio) Cartrefi Gofal 2022-23 lwyddiannus mewn partneriaeth â meddygon teulu, Cartrefi Gofal a Fferyllwyr Cymunedol. 
Cynllunio’r gweithlu mewn ymateb i bryderon ynglŷn â chynaliadwyedd Gofal Sylfaenol a Phwysau’r Gaeaf ar draws y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol (Integredig) ehangach. 
Creu cysylltiadau cryf rhwng y Sector Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector ac ymgysylltu mwy er mwyn rhoi blaenoriaeth i 2il flwyddyn y cynllun ISPB (2023-26) dros 3 blynedd.

Nodi’r blaenoriaethau lleol newydd ar gyfer Cynllun Blynyddol y Clwstwr NCN 2024-25.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Buddsoddiad NCN i sefydlu’r gwasanaeth Cynghorydd Cysylltiadau Lles ymhellach i gefnogi’r galw cynyddol am gymorth gyda phenderfynyddion cymdeithasol salwch gan ddarparu cymorth anfeddygol mewn practisau meddygon teulu. 
Nifer rhagorol yn cael eu brechu fel rhan o’r rhaglen atgyfnerthu rhag y ffliw a Covid-19. 
Gwneud cynnydd da ar hyd y flwyddyn bontio ACD gychwynnol gyda mwy o ymgysylltu a dealltwriaeth ar draws y bartneriaeth – Rheolwr Gwella Gwasanaethau ACD penodedig ar secondiad i gefnogi ffrydiau gwaith allweddol. 
Buddsoddiad NCN mewn fforwm o dan arweiniad Rheolwr y Practis gan greu cysylltiadau cadarnhaol a chydweithredol pellach gyda rheolwyr y practis o ran cynllunio parhad y busnes ayb. 
Buddsoddiad NCN mewn amrywiaeth o atebion digidol i gefnogi effeithlonrwydd busnes ein practisau meddygon teulu. 
Parhau i fuddsoddi mewn Fferyllwyr yn y Practis ac Ymarferwyr Iechyd Seicolegol.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Nodi’r prif flaenoriaethau sy’n ymwneud ag egwyddorion Marmot, yn arbennig o ran Gwasanaethau i Blant – sy’n cael eu cyflwyno drwy’r cynlluniau NCN a ISPB. 
Archwilio’r opsiynau / ffyrdd newydd o weithio gyda chymunedau anodd eu cyrraedd, agored i niwed e.e., ffermio, mudwyr ayb er mwyn canfod yr angen a’r potensial i ymestyn y rhwydwaith lles mewn lleoliadau allweddol.
Parhau i gefnogi’r Clwstwr NCN a ariennir gan y Fforwm Diogelu o dan arweiniad Meddygon Teulu ac i rannu’r arfer gorau.
Parhau i fonitro effaith datblygiad tai newydd o fewn ac o amgylch Gogledd Sir Fynwy sy’n gysylltiedig â chynllunio parhad busnes/ pwysau ar y gweithlu.
Cymorth parhaus i’r rhaglen ‘Ailgynllunio Gwasanaethau i Bobl Hŷn’ ac archwilio’r potensial i ymestyn Gwasanaeth Meddygol Cyflym De Sir Fynwy i Ogledd y fwrdeistref.

Gweithio gyda thimau cymunedol i ystyried yr opsiwn i gael gwasanaeth ‘Cwympiadau’ i leihau’r potensial o gael nifer uchel o dderbyniadau i’r ysbyty.

Diweddariad 20/07/2023