Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Gofal Sylfaenol Un Cymru:  https://gofalsylfaenolun.gig.cymru/

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gofal Sylfaenol Un Cymru.

Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei lywio gan safonau'r llywodraeth ac mae'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe WCAG yn cael eu derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn anelu at wneud y wefan hon yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr a chyflawni lefel cydymffurfio 'AA'; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau y cedwir at lefel cydymffurfio 'A' o leiaf.

Os ydych chi'n profi unrhyw fater hygyrchedd ar y wefan hon neu os oes gennych unrhyw sylw,

cysylltwch â ni.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon 

Fersiwn 1, wedi'i chyhoeddi ar 17 Medi 2020 (diweddarwyd 15 Medi 2022) 

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • Efallai na fydd rhannau o’r tudalennau yn gweithio’n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel rhaglenni darllen sgrin
  • Nid yw rhai dewislenni yn gwbl hygyrch
  • Nid oes gan rai botymau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys testun sydd â lliwiau gwrthgyferbyniol gwael
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau nad ydynt wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol
  • Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  • Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws
  • Mae eitemau eilaidd y ddewislen yn newid trefn pan ddewisir eitem
  • Mae rhai ffurflenni yn cynnwys negeseuon gwall neu labeli aneglur
  • Ni ellir oedi na stopio rhywfaint o’r cynnwys sy’n symud

Adborth a chysylltu 

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn orfodi 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd  y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau gygyrchedd

Fersiwn 1 wedi'i chyhoeddi ar 17 Medi 2020 (diweddarwyd 15 Medi 2022)

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘WCAG 2.1 AA’ mae gennym y materion canlynol o ddiffyg cydymffurfio ar hyn o bryd:

  • Mae rhai dewislenni, a rhannau o rai tudalennau, wedi’u marcio mewn ffordd a allai eu gwneud yn ddryslyd wrth gael atynt trwy Dechnolegau Cynorthwyol.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Mae dewislen wag yn bresennol ar rai tudalennau.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.1 WCAG 2.1, Dosrannu (Lefel A), na maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Nid oes gan y botwm a ddefnyddir i gael gwared ar unrhyw destun a nodir yn y blwch chwilio label hygyrch.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Mae’r botwm/dolen a ddefnyddir i newid iaith yn cynnwys label gwahanol, llai penodol i Dechnolegau Cynorthwyol nag i ddefnyddwyr gweledol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 WCAG 2.1, Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A)
  • Nid oes gan rywfaint o destun ddigon o gyferbynnedd â’i gefndir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, Cyferbynnedd (Lleiafswm) (Lefel AA)
  • Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
  • Ni ellir defnyddio rhai rhannau o rai tudalennau yn llawn gyda’r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1, Bysellfwrdd (Lefel A)
  • Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1, Trefn Ffocws Lefel A
  • Mae eitemau eilaidd y ddewislen yn newid trefn pan ddewisir eitem.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.2.3 WCAG 2.1, Gwe-lywio Cyson (Lefel AA)
  • Mae rhai ffurflenni yn cynnwys negeseuon gwall neu labeli aneglur.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 WCAG 2.1, Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A)
  • Nid oes gan rai carwselau (a arddangosir ar sgriniau bach neu ar lefelau chwyddo uchel) ddull i’w hoedi neu i’w stopio rhag symud. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.2.2 WCAG 2.1, Oedi, Stopio, Cuddio (Lefel A)

Baich anghymesur 

Mae rhai adrannau o’n gwefan nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, mae'r adrannau hyn wedi'u rhestru fel isod (a gallant newid):

  • Cyhoeddiadau a allai fod wedi'u cynhyrchu'n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai'n rhaid i drydydd parti eu pennu.

Llywio a chyrchu gwybodaeth

  • Nid oes unrhyw ffordd i neidio’r cynnwys sy’n cael ei ail-adrodd ar bennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidio i’r prif gynnwys’).
  • Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o llorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd. 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd, neu roi tudalennau HTML hygyrch neu ffurflenni ar-lein yn eu lle.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn gyntaf ym mis Medi 2020. Yr adolygiad nesaf fydd mis Rhagfyr 2022.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Awst 2020. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.