Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Gofal Sylfaenol Un Cymru: https://gofalsylfaenolun.gig.cymru/
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gofal Sylfaenol Un Cymru.
Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei lywio gan safonau'r llywodraeth ac mae'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe WCAG yn cael eu derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er ein bod yn anelu at wneud y wefan hon yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr a chyflawni lefel cydymffurfio 'AA'; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau y cedwir at lefel cydymffurfio 'A' o leiaf.
Os ydych chi'n profi unrhyw fater hygyrchedd ar y wefan hon neu os oes gennych unrhyw sylw,
Fersiwn 1, wedi'i chyhoeddi ar 17 Medi 2020 (diweddarwyd 15 Medi 2022)
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Fersiwn 1 wedi'i chyhoeddi ar 17 Medi 2020 (diweddarwyd 15 Medi 2022)
Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘WCAG 2.1 AA’ mae gennym y materion canlynol o ddiffyg cydymffurfio ar hyn o bryd:
Mae rhai adrannau o’n gwefan nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018.
Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.
Ar hyn o bryd, mae'r adrannau hyn wedi'u rhestru fel isod (a gallant newid):
Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd, neu roi tudalennau HTML hygyrch neu ffurflenni ar-lein yn eu lle.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.
Paratowyd y datganiad hwn gyntaf ym mis Medi 2020. Yr adolygiad nesaf fydd mis Rhagfyr 2022.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Awst 2020. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.