Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau pennu cyfeiriad 2018-2020

 

Bwrdd Iechyd

Teitl y prosiect

Disgrifiad o'r prosiect

Bwrdd Iechyd
Aneurin Bevan
Gweithredu’r Model Trawsnewid o fewn y maes Gofal Sylfaenol Nod y cynllun yw cefnogi Meddygon Teulu mewn practisau a reolir drwy drawsnewid y dull o ddarparu gofal, a thrwy hynny cynnal y gwasanaethau Gofal Sylfaenol a rhyddhau Meddygon Teulu i ganolbwyntio ar apwyntiadau acíwt yn eu Practisau a sicrhau gwell boddhad i gleifion. 
Bwrdd Iechyd
Aneurin Bevan
Cynnig lleoliadau hyfforddi Nyrsys Ymarfer Cyffredinol mewn Gofal Sylfaenol Y nod yw datblygu gweithlu nyrsio o fewn y maes Ymarfer Cyffredinol mewn niferoedd addas a gyda chymysgedd ddigonol o sgiliau er mwyn gwella iechyd a lles y boblogaeth leol ac atal problemau iechyd y mae modd eu hosgoi, ac ar yr un pryd bodloni unrhyw ofynion iechyd wedi’u cynllunio neu heb eu cynllunio. 
Bwrdd Iechyd
Abertawe Bro Morgannwg
Y Ganolfan Driniaeth Gymunedol Cwtogi’r baich gwaith mewn ymarfer cyffredinol a mynd i’r afael â chynaliadwyedd parhaus drwy drosglwyddo’r baich gwaith o ymarfer cyffredinol ac adrannau cleifion allanol gofal eilaidd i ganolfannau triniaeth wedi’u lleoli yn y gymuned, wedi’u staffio ag ymarferwyr arbenigol (ee nyrsys fasgwlaidd a Hyfywedd Meinwe, / timau chwistrellu, technegwyr podiatreg).
Bwrdd Iechyd
Abertawe Bro Morgannwg
Model Prif Ganolfan a Lloerennau Gofal Sylfaenol  Y nod yw gwneud mwy o waith yn ddi-oed ar y model Prif Ganolfan Gofal Sylfaenol i alluogi ystod ehangach o Bractisau Meddyg Teulu a’u cleifion i gael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau craidd ac estynedig yn y gymuned. 
Bwrdd Iechyd
Abertawe Bro Morgannwg
Rhaglen Internet Cydymaith Meddygol Ymarfer Cyffredinol (PA) Sefydlu interniaeth Cydymaith Meddygol un flwyddyn ar ôl cymhwyso ar draws clystyrau BIP Abertawe Bro Morgannwg.
Bwrdd Iechyd
Abertawe Bro Morgannwg
Archebu Presgripsiynau Amlroddadwy yn Uniongyrchol (POD)  Cynnal y Gwasanaeth Archebu Presgripsiynau Amlroddadwy yn Uniongyrchol (POD) yn Nwyrain y Clwstwr.
Bwrdd Iechyd
Betsi Cadwaladr
Uwch Barafeddygon – Gwasanaeth Ymweliad Cartref Brys Y cynnig yw model gwasanaeth 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn  gan Uwch Barafeddygon i ymateb yn gyflym i gleifion y mae angen ymweliadau cartref arnynt, sef gwasanaeth y byddai eu Meddyg Teulu wedi’i ddarparu o’r blaen.
Bwrdd Iechyd
Betsi Cadwaladr
Adolygiad allanol o wasanaeth Fferylliaeth a Rheolaeth Meddyginiaethau  Nod y prosiect yw datblygu model ar gyfer gwasanaethau sy’n sicrhau trefniadau llywodraethu meddyginiaethau, cymorth technegol arbenigol a gwasanaeth clinigol i ddarparu’r gofal gorau i gleifion. 
Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro Ehangu’r Adnodd Rheoli Meddyginiaethau – Clinigau Poen gan ddefnyddio cymwysterau rhagnodwr annibynnol   Nod y prosiect yw treialu a datblygu clinig a arweinir gan fferyllydd, mewmn gofal sylfaenol, i adolygu meddyginiaeth poen. 
Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro Llwybr Presgripsiynu Cymdeithasol – Datblygu model presgripsiynu cymdeithasol ar draws  Cynigir model rhagnodi cymdeithasol sy’n seiliedig ar system dair haen: Haen 1 Cyfeirio, Haen 2. Rhagnodi cymdeithasol, Haen 3 Ymyrraeth ymddygiadol.
Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro Llwybr Cwympiadau Cymunedol Cydweithredol – I leihau cwympiadau yn ardal Caerdydd a’r Fro.  Nod allweddol y prosiect yw treialu’r dull a ddefnyddir yng  Nghaergaint yn ardal Caerdydd a’r Fro, gan weithio ar draws sefydliadau partner yng Nghaerdydd a’r Fro i ddatblygu a darparu llwybr/model ymateb cymunedol cydlynus i leihau cwympiadau. 
Bwrdd Iechyd
Cwm Taf Morgannwg
Deallusrwydd Artiffisial (fideo-gynadledda a rhaglen gwirio symptomau) i gynorthwyo’r broses brysbennu glinigol yn y Gwasanaeth Y Tu Allan i Oriau Nod y prosiect yw treialu dull newydd o gynnig mynediad amgen i gyngor gofal heb ei drefnu brys a gwasanaeth brysbennu i gleifion gan ddefnyddio technoleg.
Bwrdd Iechyd
Cwm Taf Morgannwg
Datblygu Canolfannau Hyfforddi Ymarfer Uwch ar gyfer rolau Uwch-ymarferwyr
a Nyrsys Cyn-gofrestredig
Mae’r Prosiect Pennu Cyfeiriad hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithlu nyrsio cynaliadwy yn ystod y cyfnodau cyn-gofrestredig yn ogystal ag Uwch-ymarferwyr Nyrsio. Mae anghenion y nyrsys practis presennol yn cael eu cefnogi yn barod gan yr Uned Gymorth Gofal Sylfaenol drwy fentora, anogaeth a rhaglenni hyfforddi. 
Bwrdd Iechyd Hywel Dda Model Rhwydweithiol i Gontractwyr Gofal Sylfaenol  Mae’r cynnig hwn yn canolbwyntio ar y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol fel prif ddarparwr gofal iechyd gydol oes i unigolion, teuluoedd a chymunedau a sut y bydd sefydlogi’r sector hwn, drwy wahanol agweddau ar ddarparu gwasanaeth cydweithredol yn cefnogi’r gwaith o newid system gyfan. 
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Datblygu’r Model Newydd Ar Draws Nifer o Bractisau Bach Yng Nghefn Gwlad Powys  Darparu gwasanaethau gofal sylfaenol cynaliadwy a thrawsnewidiol i Lanandras a’r cyffiniau yn seiliedig ar y model datblygol.