Neidio i'r prif gynnwy

1. Atal a Llesiant


 

Pam

Mae angen dybryd i drawsnewid y system iechyd a gofal, y mae gofal sylfaenol yn elfen allweddol ohoni, tuag at ddull sy'n blaenoriaethu atal.

Caiff ffocws ar atal ei flaenoriaethu mewn nifer o ddogfennau strategol allweddol gan gynnwys Cymru Iachach, Adeiladu Cymru Iachach ac mewn deddfwriaeth gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Beth

Mae'r ffrwd waith hon yn cynnwys un o'r pedwar maes blaenoriaeth strategol - Lles Meddyliol yn ogystal â thri maes gwaith allweddol arall sy'n cael eu datblygu mewn partneriaeth â'r Ganolfan Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru: Atal gordewdra, Atal Diabetes: Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, a Presgripsiynu Cymdeithasol Mae'r ffrwd waith hefyd yn gweithredu fel bwrdd rhaglen y Rhaglen Cyfraith Gofal Gwrthdro.

Pwy

Mae aelodaeth y ffrwd waith yn cynnwys cynrychiolwyr o feysydd allweddol gofal sylfaenol a chymunedol, arbenigwyr ar y pwnc, a rhanddeiliaid cenedlaethol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr aelodaeth, e-bostiwch SPPC@wales.nhs.uk.

Prosiectau

Mae pob prosiect sy’n cael ei redeg gan y ffrwd waith yn cael ei gymeradwyo gan y grŵp llif gwaith, ac yna’n cael ei gadarnhau gan y Bwrdd Rhaglen Strategol ac yna'n cael ei gadarnhau gan yr NPCB. Gwahoddir gweithgarwch atal a lles cysylltiedig a allai effeithio ar ofal sylfaenol neu gymunedol hefyd i gyflwyno i'r ffrwd waith i gefnogi aliniad a chydweithio.  Nodir y prosiectau presennol sy'n cael eu datblygu isod. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cylch Gorchwyl cyfredol ar gyfer y ffrwd waith, e-bostiwch SPPC@wales.nhs.uk

Bydd Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan dan arweiniad ICC, yn gweithio i gyflwyno’r rhaglen atal diabetes math 2 genedlaethol (DPP) a gyflwynwyd yn 2022. Mar hwn yn ddull 'Unwaith i Gymru' o ddarparu ymyrraeth fer i bobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes math 2 (HbA1c yn yr ystod cyn diabetes). Bydd y rhaglen yn gweithio ar ddatblygu safonau ymarfer craidd, datganiadau ansawdd sylfaenol a nodi gofynion a safonau data i gefnogi gwerthuso proses, gwerth ac effaith y DPP.

Bwriad y Cynllun Iechyd Meddwl a Lles yw darparu gwell dealltwriaeth o'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael yn y trydydd sector ar lefel Gofal Sylfaenol yn ogystal â’r galw, gweithgarwch a’r amrywiaeth owasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol; edrych yn fanwl ar opsiynau a gofynion 'Cynnig Gofynnol Cenedlaethol'.

Bydd y prosiect Atal Gordewdra prosiect Atal Gordewdra, dan arweiniad ICC, yn cyflwyno'r Cynllun Gweithredu Gordewdra Gofal Sylfaenol (2022-24) a fydd yn helpu i weithredu elfennau gofal sylfaenol a chymunedol Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â Cymru Iachach, Model Gofal Sylfaenol Cymru (PCMW) a Chymru Iach Pwysau Iach (HWHW).

Bwriad y prosiect Presgripsiynu Cymdeithasol, dan arweiniad ICC, yw cefnogi'r gwaith o ddarparu fframwaith cymhwysedd ar gyfer ymarferwyr rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru trwy ennill gwell dealltwriaeth a safoni rôl a gofynion ymarferwyr rhagnodi cymdeithasol, ac o ganlyniad cefnogi pobl yn well i reoli eu hanghenion lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol a lles cymunedol unigol,  ac i gydnabod effaith y system ar benderfynyddion ehangach iechyd.

Cynhyrchion

Gellir gweld gwybodaeth am y cynhyrchion a ddarperir gan ffrydiau gwaith y Rhaglen Strategol fel rhestr barhaus neu drwy ffrwd waith a blwyddyn cyflawniad er mwyn ei gwneud yn haws i lywio. Cliciwch ar y ddolen isod i gael mynediad i'r llyfrgell.

Llyfrgell cynhyrchion - Gofal Sylfaenol Un (GIG.cymru)

Cyswllt

Os hoffech fwy o wybodaeth am y ffrwd waith hon neu’r gwaith cysylltiedig sy'n cael ei gyflawni, cyflwynwch eich ymholiad ar y dudalen Cysylltu â ni

 

Tudalen wedi ei diweddaru fis Medi 2023