Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Cynhwysiad Iechyd Cymru

Disgrifiad o’r gwasanaethau sy’n darparu Gofal Iechyd Sylfaenol i grwpiau agored i niwed ledled Cymru.

 

Mae’r fanyleb Cynhwysiad Iechyd newydd ar gyfer clystyrau’n disgrifio gwasanaethau ar gyfer pobl nad ydynt efallai’n defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru er gwaethaf yr angen cynyddol. Mae yna lawer o wasanaethau rhagorol ledled Cymru a fyddai’n dod o dan y categori ‘Cynhwysiad Iechyd.’ Mae gan y gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru wahanol hanes a diwyg. Nid oes gan bob ardal o Gymru wasanaethau. Themâu cyffredin:

  • Amlddisgyblaethol a chydweithredol o ran cynllunio a darpariaeth, gan gynnwys pobl â phrofiad personol. 
  • Gwasanaethau sy’n cyfuno galw-heibio, allgymorth ac mewngymorth gydag ymagwedd anfeirniadol, yn seiliedig ar drawma. 
  • Mae cyllid yn aml yn fyr-dymor ac yn ansicr.
  • Mae’n anodd cael mynediad at rai gwasanaethau penodol gan gynnwys iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol, iechyd meddwl, cymorth seicolegol, a thriniaeth ar gyfer trawma cymhleth

Disgrifiad o’r gwasanaethau sy’n darparu Gofal Iechyd Sylfaenol i grwpiau agored i niwed ledled Cymru.