Dechreuodd Rhaglen Diwygio’r ym mis Medi 2017. Ar ôl seibiant yn ystod y pandemig COVID-19 ailddechreuodd y rhaglen ym mis Ebrill 2022, a hynny drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn arbennig Byrddau Iechyd a gwasanaethau deintyddol.
Gweledigaeth Rhaglen Diwygio’r yw 'darparu mynediad da i ofal deintyddol diogel, o ansawdd uchel, sy’n ymateb i anghenion y boblogaeth, ac sy’n hyrwyddo dull ataliol a ddarperir yn lleol gan dîm deintyddol medrus iawn gan ddefnyddio cymysgedd o sgiliau i sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaeth yn barhaus'.
Mae Rhaglen Diwygio’r yn datblygu, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, o fewn y cyd-destun a ddisgrifir yn y dogfennau strategol allweddol canlynol.
Cysylltwch â ni ar: dentalpublichealth@wales.nhs.uk