Neidio i'r prif gynnwy

Dogfennau ac Adnoddau Allweddol, Newyddion a Wybodaeth Ddiweddaraf

Bydd y dolenni canlynol yn eich helpu i gyrraedd dogfennau allweddol , adnoddau cefndir a newyddion a ddiweddariadau.

Pecyn Adnoddau Proffesiynol

Mae'r pecynnau adnoddau hyn wedi'i lunio i cefnogi'r pedwar contractwr gofal sylfaenol benodol i helpu practisau cofrestredig ystyried ffyrdd sut y gallant fod yn fwy cyfeillgar i'r hinsawdd drwy gymryd rhan yng Ngynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.
Pecyn Adnoddau ar gyfer Deintydd Cymunedol
Pecyn Adnoddau ar gyfer practisau Ymarfer Cyffredinol
Pecyn Adnoddau ar gyfer Optometreg Cymunedol
Pecyn Adnoddau ar gyfer Fferyllfeydd Cymunedol

Fideo Astudiaeth Achos 

Casgliad o astudiaethau achos yn arddangos enghreifftiau o bob un o'r pedwar contractwr gofal sylfaenol a gymerodd ran yn y Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach a'r Cynllun Gwobrwyo.
Fideo Astudiaeth Achos: Fferyllfa gymunedol
Fideo Astudiaeth Achos: Deintyddol Gofal Sylfaenol
Fideo Astudiaeth Achos: Ymarfer Cyffredinol
Fideo Astudiaeth Achos: Optometreg Gofal Sylfaenol

Dogfennau Allweddol

Ffilm AWTTC [Cymraeg isdeitlo DTC]

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ynghyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asthma and Lung UK a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi llunio’r animeiddiad hwn i gleifion gyda’r nod o wella rhagnodi, defnyddio a gwaredu anadlyddion yng Nghymru.

Cyfrifianellau Ôl-troed Carbon iw defnyddio gan Gontractwyr Gofal Sylfaenol eu defnyddio

Papur sy’n argymell y cyfrifyddion ôl troed carbon gorau i chi eu defnyddio yn eich practis er mwyn canfod eich ôl-troed carbon. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Ecosia: Peiriant chwilio ‘gwyrddach’ ar y we

Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth gefndir a chanllawiau cam-wrth-gam ar sut i lawrlwytho a gosod Ecosia fel chwilotwr diofyn ar ddyfais gwaith neu ddyfais bersonol electronig. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Pamffled Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Taflen wybodaeth sy’n amlygu beth yw Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a sut y gallwch gymryd rhan. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Cwesitynau Cyffredin Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Ein cwestiynau mwyaf cyffredin am y Cynllun ar gyfer timau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Taflen Canlyniadau Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Mae’n amlinellu’r canlyniadau a ragwelir ar gyfer Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Ffeithlun Aliniad Strategol Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Ffeithlun sy’n amlinellu sut y mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cyd-fynd â pholisïau, strategaethau a deddfwriaethau allweddol. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Blwyddlyfr Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2022 

Casgliad o astudiaethau achos o bob cwr o Gymru sy’n arddangos ac yn dathlu cyflawniadau’r timau a gymerodd ran ym mlwyddyn gyntaf Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol. 

Fframwaith a’r Cynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2024

Crynodeb o'r Fframwaith a’r Cynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2024.
Cynghorion ar Gychwyn Cynhyrchwyd y ddogfen un dudalen hon i'ch helpu i ddarganfod ble i ddechrau, yn seiliedig ar amgylchiadau eich practis.

Templed Archwiliad Teithio

Adnodd syml i gefnogi’r broses o roi’r camau ar waith o fewn y fframwaith sy’n ymwneud â chynnal archwiliad teithio staff. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

 

Adnoddau Cefndir

Cymru Iachach: Cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfen sy’n amlinellu’r weledigaeth hirdymor o ‘system gyfan iechyd a gofal cymdeithasol’ yn y dyfodol.

Cynllun Gweithredu Teithio Llesol i Gymru

Diben y Cynllun hwn yw amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol – mae hyn yn cysylltu â’r camau o fewn y fframwaith sy’n ymwneud ag annog staff a chleifion i ddefnyddio dulliau teithio llesol.

Centre for Sustainable Healthcare

Sefydliad sy’n cynnig mewnbwn strategol a gwasanaeth ymgynghori ar ymchwil ac ymarfer gofal iechyd cynaliadwy i raglenni cenedlaethol a lleol.

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod busnesau yn integreiddio pryderon cymdeithasol ac amgylcheddol fel rhan o’u gweithrediadau ac wrth ryngweithio â rhanddeiliaid yn wirfoddol.

e-Gatalog Adnoddau

Adnoddau Iechyd Cynaliadwy i helpu sefydliadau ac unigolion i ystyried yr amgylchedd naturiol ac iechyd y blaned ac iechyd pobl ym mhopeth a wnânt.

Cael tystysgrif perfformiad ynni newydd (EPC)

Gwybodaeth am sut i gael tystysgrif ynni newydd ar gyfer eich cartref, safle busnes neu adeilad cyhoeddus.

Iechyd Gwyrdd Cymru

Rhwydwaith o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ledled Cymru yw Iechyd Gwyrdd Cymru sy’n cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn argyfwng iechyd.

Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol – sut y gall staff y GIG a sefydliadau gymryd rhan

Sefydlwyd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i arwain yr agenda newid hinsawdd a datgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac i gefnogi’r broses o gyflawni Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.  Gallwch gael gwybod mwy am y rhaglen a sut y gallwch helpu i leihau Ôl-troed Carbon y GIG.

Iechyd a Chynaliadwyedd: Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’i gyfraniadau tuag at nodau llesiant Cymru ac wrth gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ochr yn ochr â Nodau Datblygu Cynaliadwy ehangach y Cenhedloedd Unedig, i ddod yn sefydliad enghreifftiol, sy’n hyrwyddo ac yn gynaliadwy.
Cronfa ddata o asesiadau amgylcheddol ym maes gofal iechyd.

Posteri Cael Gwared ar Hen Anadlyddion ar gyfer Fferyllfeydd 

Posteri y gall fferyllfeydd eu defnyddio i hyrwyddo cael gwared ar hen anadlyddion yn ddiogel.

Dangosfwrdd newydd i helpu GIG Cymru leihau ôl-troed carbon anadlyddion

Datblygodd yr Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol GIG Cymru ddangosfwrdd i gofnodi’r cynnydd a wneir i leihau ôl-troed carbon yr anadlyddion a ddefnyddir o fewn gofal sylfaenol yng Nghymru.

Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru 2021-2030

Cynllun Llywodraeth Cymru i leihau effaith amgylcheddol y GIG ac i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Yr Hanfodion

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

 

Newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol.

E-fwletin 

E-fwletin misol Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae pob e-fwletin yn cynnwys erthyglau ar: Tîm y Mis, diwrnodau amgylcheddol i ddod a gwybodaeth ddefnyddiol.

2024

2023

2022

Newyddion Eraill a’r Wybodaeth Ddiweddaraf

Astudiaeth Achos "Ennillion Cyntaf" (Saesneg yn unig) ATACH (Alliance for Transformative Action on Climate and Health) rhwydwaith a gynhelir gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi astudiaeth achos “buddugoliaeth gyntaf” yn ddiweddar sy’n cefnogi gwaith Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a’i ymdrechion i ymgysylltu â gwaith gofal sylfaenol ar arferion carbon isel cynaliadwy yng Nghymru. Cyhoeddir yr astudiaeth achos yn llyfrgell Cymuned Ymarfer ATACH [Mehefin 2024]. 

Hyrwyddwyr a Chynllun Dyfarnu Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Wythnos Hinsawdd Cymru (Diwrnod 5): Cynllun Dyfarnu a Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [Rhagfyr 2023].

Y Rhaglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau

Rhaglen sy’n sbarduno arloesedd, yn cefnogi technoleg ac yn ysgogi partneriaethau ar draws Iechyd a Gofal yng Nghymru [Mawrth 2023]. 

Gofal sylfaenol yn arbed 44000kg o CO2 

Erthygl newyddion sy’n sôn am flwyddyn gyntaf Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [Mawrth 2023].

Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2023

Datganiad gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag ail-lansio’r Cynllun ar gyfer yr ail Flwyddyn yn 2023 [Mawrth 2023].
Newyddlen Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol  Rhifyn Tachwedd o Newyddlen Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol [Tachwedd 2022].

Optometry Today

Sgyrsiau gyda gweithwyr gofal llygaid proffesiynol yng Nghymru am sut y gall y proffesiwn gydweithio i greu dyfodol cynaliadwy, gan gynnwys tri optegydd a gymerodd ran ym Mlwyddyn gyntaf y Cynllun [Awst 2022].

Golwg ar Ofal Llygaid Mae rhifyn 2022 Golwg ar Ofal Llygaid yn trafod ‘Cymru Wyrddach’ ac yn annog practisau optometreg i ddefnyddio Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [July 2022].

Lansio gweminar Cenedlaethol ar gyfer Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Recordiad or lansiad cenedlaethol Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Gwybodaeth am sut i gofrestru ac i gymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. https://rhwydwaithiechydcyhoeddus.cymru/Digwyddiad/gofal-sylfaenol-gwyrddach-sut-gall-gofal-sylfaenol-a-chymunedol-ddechraur-daith-tuag-at-gynaliadwyedd-amgylcheddol-a-datgarboneiddio/ [Mehefin 2022]. 

Newyddlen Flynyddol Gofal Sylfaenol Gwyrddach

Rhifyn cyntaf y Newyddlen Gofal Sylfaenol Gwyrddach flynyddol a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol [Mehefin 2022]. 

Annog Gofal Sylfaenol i ddechrau’r daith i gynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio gyda Chynllun gwobrwyo newydd  Eitem newyddion Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [Mehefin 2022].

Newyddlen Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Rhifyn Tachwedd o Newyddlen Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol [Tachwedd 2022].

Diweddariad Chwarterol

Y diweddariad chwarterol cyntaf sy’n nodi’r Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol [Ebrill 2022]. 

Effaith Hinsawdd, Natur ac Iechyd yng Nghymru

E-fwletin sy’n nodi effaith hinsawdd, natur ac iechyd yng Nghymru – darparwyd gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru [Ebrill 2022].

Cyhoeddwyd ddiwethaf 16/04/2024