Neidio i'r prif gynnwy

Rhagnodi Cymdeithasol

Beth yw Rhagnodi Cymdeithasol?
Gan gydnabod mai ystod o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn anad dim sy’n cael effaith ar iechyd pobl, mae rhagnodi cymdeithasol yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pobl mewn ffordd holistaidd. Mae hefyd yn anelu at gefnogi unigolion i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd ei hunain.
Pwy sy’n rhan o Ragnodi Cymdeithasol?
Mae rhagnodi cymdeithasol, y cyfeirir ato weithiau fel atgyfeiriad cymunedol, yn fodd o alluogi Meddygon Teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol i atgyfeirio pobl at ystod o wasanaethau anghlinigol lleol.
Mae sawl model gwahanol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol, ond mae’r rhan fwyaf yn cynnwys gweithiwr neu lywiwr cyswllt sy’n gweithio gyda phobl i gael mynediad i ffynonellau cymorth lleol (Cronfa’r Brenin; Chwefror 2017)
Lle mae Rhagnodi Cymdeithasol yn digwydd?
Gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a ddarperir gan amlaf gan sefydliadau o’r sector gwirfoddol a chymunedol. Enghreifftiau yw gwirfoddoli, gweithgareddau celfyddydol, dysgu mewn grŵp, garddio, bod yn gyfaill, coginio, cyngor ar fwyta’n iach ac ystod o chwaraeon. 
Pam Rhagnodi Cymdeithasol?
Yn ogystal â chefnogi unigolion i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain, mae’n bosibl y gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol arwain hefyd at ostyngiad yn y nifer sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG.
Cynlluniwyd rhagnodi cymdeithasol i gefnogi pobl ag ystod eang o anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol, ac mae amryw o gynlluniau’n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles corfforol. Mae’r rhai a allai gael budd o gynlluniau rhagnodi cymdeithasol yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn neu hirdymor, grwpiau sy’n agored i niwed, pobl sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, a’r rhai sy’n mynychu naill ai ofal iechyd sylfaenol neu eilaidd yn gyson.
Ffynhonnell: Wedi’i addasu o Wefan Cronfa’r Brenin fel ar 27/03/2017 
Ymrwymiadau Hwb Gofal Sylfaenol i Ragnodi Cymdeithasol (2017)
Cefndir 
Mewn digwyddiad cenedlaethol i gefnogi rhoi Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol ar waith (mis Hydref 2016), llwyddwyd i ennyn diddordeb mewn rôl gwasanaethau lles a rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru drwy sesiwn dan arweiniad yr Arweinydd Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol. Yn dilyn hyn, cytunwyd y bydd Hwb Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydlynu’r broses o gyflawni tri ymrwymiad mewn perthynas â rhagnodi cymdeithasol: 
Ymrwymiad 1: Mapio TystiolaethBydd Gwasanaeth Tystiolaeth Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mapio pob tystiolaeth berthnasol ar gyfer ymarfer rhagnodi cymdeithasol. 
Ymrwymiad 2: Datblygu proses systematig i gasglu a rhannu gweithgaredd rhagnodi cymdeithasol. Darparwyd gwybodaeth gan Benaethiaid Gofal Sylfaenol Byrddau Iechyd ynglŷn â gweithgaredd rhagnodi cymdeithasol presennol neu arfaethedig yn eu hardaloedd (Chwefror 2017). Casglwyd y wybodaeth a ddarparwyd a gellir ei gweld fesul ardal Bwrdd Iechyd 
Ymrwymiad 3: Trefnu digwyddiad(au) rhanbarthol a chenedlaethol i ddatblygu a rhannu dysg. Cynhelir digwyddiadau dysgu er mwyn rhannu profiadau prosiectau lleol a darparu cyfleoedd i ddysgu o ddulliau y tu hwnt i Gymru. Ceir gwybodaeth am fanylion digwyddiadau dysgu sydd wedi’u trefnu yn yr Adran Digwyddiadau 
Methodoleg
Tîm Prosiect
Er mwyn goruchwylio’r gwaith hwn, sefydlwyd tîm prosiect Rhagnodi Cymdeithasol gyda chynrychiolwyr o Glystyrau Gofal Sylfaenol, Penaethiaid Gofal Sylfaenol, Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol, Cynghorau Gwirfoddol Cymunedol ac unigolion â chysylltiadau â rhwydweithiau ehangach e.e. y trydydd sector, iechyd gwyrdd. Y gobaith yw y bydd traws-aelodaeth â grwpiau arall yn cysylltu gwaith yr Hwb â rhaglenni cenedlaethol arall sy’n ymwneud â rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru e.e. datblygu cymunedol, defnyddio mannau gwyrdd a bancio amser.
Prosiectau rhagnodi cymdeithasol