Bwrdd Iechyd |
Teitl y prosiect |
Disgrifiad o'r prosiect |
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan |
Gweithredu’r Model Trawsnewid o fewn y maes Gofal Sylfaenol | Nod y cynllun yw cefnogi Meddygon Teulu mewn practisau a reolir drwy drawsnewid y dull o ddarparu gofal, a thrwy hynny cynnal y gwasanaethau Gofal Sylfaenol a rhyddhau Meddygon Teulu i ganolbwyntio ar apwyntiadau acíwt yn eu Practisau a sicrhau gwell boddhad i gleifion. |
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan |
Cynnig lleoliadau hyfforddi Nyrsys Ymarfer Cyffredinol mewn Gofal Sylfaenol | Y nod yw datblygu gweithlu nyrsio o fewn y maes Ymarfer Cyffredinol mewn niferoedd addas a gyda chymysgedd ddigonol o sgiliau er mwyn gwella iechyd a lles y boblogaeth leol ac atal problemau iechyd y mae modd eu hosgoi, ac ar yr un pryd bodloni unrhyw ofynion iechyd wedi’u cynllunio neu heb eu cynllunio. |
Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg |
Y Ganolfan Driniaeth Gymunedol | Cwtogi’r baich gwaith mewn ymarfer cyffredinol a mynd i’r afael â chynaliadwyedd parhaus drwy drosglwyddo’r baich gwaith o ymarfer cyffredinol ac adrannau cleifion allanol gofal eilaidd i ganolfannau triniaeth wedi’u lleoli yn y gymuned, wedi’u staffio ag ymarferwyr arbenigol (ee nyrsys fasgwlaidd a Hyfywedd Meinwe, / timau chwistrellu, technegwyr podiatreg). |
Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg |
Model Prif Ganolfan a Lloerennau Gofal Sylfaenol | Y nod yw gwneud mwy o waith yn ddi-oed ar y model Prif Ganolfan Gofal Sylfaenol i alluogi ystod ehangach o Bractisau Meddyg Teulu a’u cleifion i gael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau craidd ac estynedig yn y gymuned. |
Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg |
Rhaglen Internet Cydymaith Meddygol Ymarfer Cyffredinol (PA) | Sefydlu interniaeth Cydymaith Meddygol un flwyddyn ar ôl cymhwyso ar draws clystyrau BIP Abertawe Bro Morgannwg. |
Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg |
Archebu Presgripsiynau Amlroddadwy yn Uniongyrchol (POD) | Cynnal y Gwasanaeth Archebu Presgripsiynau Amlroddadwy yn Uniongyrchol (POD) yn Nwyrain y Clwstwr. |
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr |
Uwch Barafeddygon – Gwasanaeth Ymweliad Cartref Brys | Y cynnig yw model gwasanaeth 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn gan Uwch Barafeddygon i ymateb yn gyflym i gleifion y mae angen ymweliadau cartref arnynt, sef gwasanaeth y byddai eu Meddyg Teulu wedi’i ddarparu o’r blaen. |
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr |
Adolygiad allanol o wasanaeth Fferylliaeth a Rheolaeth Meddyginiaethau | Nod y prosiect yw datblygu model ar gyfer gwasanaethau sy’n sicrhau trefniadau llywodraethu meddyginiaethau, cymorth technegol arbenigol a gwasanaeth clinigol i ddarparu’r gofal gorau i gleifion. |
Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro | Ehangu’r Adnodd Rheoli Meddyginiaethau – Clinigau Poen gan ddefnyddio cymwysterau rhagnodwr annibynnol | Nod y prosiect yw treialu a datblygu clinig a arweinir gan fferyllydd, mewmn gofal sylfaenol, i adolygu meddyginiaeth poen. |
Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro | Llwybr Presgripsiynu Cymdeithasol – Datblygu model presgripsiynu cymdeithasol ar draws | Cynigir model rhagnodi cymdeithasol sy’n seiliedig ar system dair haen: Haen 1 Cyfeirio, Haen 2. Rhagnodi cymdeithasol, Haen 3 Ymyrraeth ymddygiadol. |
Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro | Llwybr Cwympiadau Cymunedol Cydweithredol – I leihau cwympiadau yn ardal Caerdydd a’r Fro. | Nod allweddol y prosiect yw treialu’r dull a ddefnyddir yng Nghaergaint yn ardal Caerdydd a’r Fro, gan weithio ar draws sefydliadau partner yng Nghaerdydd a’r Fro i ddatblygu a darparu llwybr/model ymateb cymunedol cydlynus i leihau cwympiadau. |
Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg |
Deallusrwydd Artiffisial (fideo-gynadledda a rhaglen gwirio symptomau) i gynorthwyo’r broses brysbennu glinigol yn y Gwasanaeth Y Tu Allan i Oriau | Nod y prosiect yw treialu dull newydd o gynnig mynediad amgen i gyngor gofal heb ei drefnu brys a gwasanaeth brysbennu i gleifion gan ddefnyddio technoleg. |
Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg |
Datblygu Canolfannau Hyfforddi Ymarfer Uwch ar gyfer rolau Uwch-ymarferwyr a Nyrsys Cyn-gofrestredig |
Mae’r Prosiect Pennu Cyfeiriad hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithlu nyrsio cynaliadwy yn ystod y cyfnodau cyn-gofrestredig yn ogystal ag Uwch-ymarferwyr Nyrsio. Mae anghenion y nyrsys practis presennol yn cael eu cefnogi yn barod gan yr Uned Gymorth Gofal Sylfaenol drwy fentora, anogaeth a rhaglenni hyfforddi. |
Bwrdd Iechyd Hywel Dda | Model Rhwydweithiol i Gontractwyr Gofal Sylfaenol | Mae’r cynnig hwn yn canolbwyntio ar y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol fel prif ddarparwr gofal iechyd gydol oes i unigolion, teuluoedd a chymunedau a sut y bydd sefydlogi’r sector hwn, drwy wahanol agweddau ar ddarparu gwasanaeth cydweithredol yn cefnogi’r gwaith o newid system gyfan. |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Datblygu’r Model Newydd Ar Draws Nifer o Bractisau Bach Yng Nghefn Gwlad Powys | Darparu gwasanaethau gofal sylfaenol cynaliadwy a thrawsnewidiol i Lanandras a’r cyffiniau yn seiliedig ar y model datblygol. |