Yn 2017 gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru - ar ran Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol (DPCC) - gomisiynu Prifysgol Birmingham i gynnal arfarniad allanol o'r Rhaglen Pennu Cyfeiriad.
Edrychodd yr arfarniad ar gyflawni'r prosiectau hyn ym mhob Bwrdd Iechyd a chyfraniad cyffredinol y Rhaglen Pennu Cyfeiriad i drawsnewid gofal sylfaenol ar raddfa fawr.
Defnyddiwyd canfyddiadau'r ymchwil hon i lywio dyfodol trawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru. Gellir cyrchu'r adroddiad yma.